Cyn i chi wneud cais

Cyn i chi wneud cais am nod masnach, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • penderfynu pa gategori cyffredinol a math penodol o nwyddau neu wasanaethau (a elwir yn ‘ddosbarthiadau’ a ‘thermau) yr ydych am ddefnyddio eich nod masnach ar eu cyfer
  • gwirio a oes unrhyw un arall wedi cofrestru nod masnach tebyg

Penderfynu pa ddosbarthiadau nod masnach i wneud cais amdanynt

Pan fyddwch yn gwneud cais, rhaid i chi ddewis o leiaf un dosbarth ac un term ar gyfer eich nod masnach. Mae’r rhain yn ymwneud â’r nwyddau neu’r gwasanaethau yr ydych chi’n bwriadu defnyddio’ch nod masnach arnyn nhw.

Mae dosbarth yn cwmpasu categori cyffredinol o nwyddau neu wasanaethau, tra bod term yn fwy penodol. Er enghraifft, mae dosbarth 25 yn cynnwys dillad. Yna mae’n cynnwys termau sy’n dibynnu ar ddefnydd neu ddeunydd y dillad, fel dillad chwaraeon neu ddillad wedi gwau.

Bydd eich nod masnach wedi ei ddiogelu dim ond yn y dosbarthiadau ac ar gyfer y termau a ddewiswch.

Gallwch ddewis mwy nag un dosbarth neu derm ond dim ond y rhai sy’n berthnasol i’ch cynlluniau busnes y dylech eu dewis am y 5 mlynedd nesaf. Po fwyaf o dermau rydych chi’n eu dewis, y mwyaf tebygol y bydd eich nod masnach yn debyg i un rhywun arall.

Ni allwch ychwanegu mwy o dermau at eich cais ar ôl i chi ei anfon.

Peidiwch â dewis termau nad ydych yn bwriadu gwerthu unrhyw nwyddau a gwasanaethau ynddynt dros y 5 mlynedd nesaf. Os gwnewch chi hynny, efallai y bydd eich nod masnach yn cael ei herio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol.

Dewch o hyd i’r dosbarthiadau nod masnach cywir ar gyfer eich brand.

Enghraifft

Rydych chi’n bwriadu defnyddio’ch nod masnach ar eich llinell dillad chwaraeon eich hun. Byddwch yn dewis dosbarth 25 ac yn dewis y termau ‘dillad’, ‘dillad chwaraeon’ a ‘dillad athletaidd’.

Gwiriwch a oes gan unrhyw un arall nod masnach tebyg

Chwiliwch y gronfa ddata nodau masnach i wirio a yw eich nod masnach yn debyg neu yr un fath ag unrhyw nodau masnach cofrestredig.

Gallwch dalu £100 am gais Dechrau Cywir. Yna bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn gwirio am nodau masnach tebyg i chi, cyn i chi ymrwymo i dalu’r ffi lawn.

Os byddwch chi’n dod o hyd i nod masnach tebyg i’ch un chi

Dylech gael cyngor proffesiynol i ddarganfod eich opsiynau.

Peidiwch â gwneud cais heb gael cyngor os ydych chi’n ymwybodol bod unrhyw nodau masnach eraill sy’n debyg neu yr un fath â’r hyn rydych chi am ei gofrestru. Bydd yr IPO yn cysylltu â deiliaid nodau masnach sydd yn union yr un fath neu’n debyg pan fyddwch yn gwneud cais.

Cael cymorth a chyngor proffesiynol

Gallwch gael cyngor am ddim ynghylch cofrestru nod masnach gan:

Os oes gennych ymholiad am ddosbarthiadau, anfonwch e-bost at dîm ymholiadau dosbarthiad yr IPO - [email protected].

Gallwch hefyd gael cymorth proffesiynol gan Cyfreithiwr nod masnach. Bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau.