Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Rhoi rhybudd a nodynnau ffitrwydd

Dylai’r cyflogai roi gwybod i chi ei fod yn sâl cyn y terfyn amser a bennwyd gennych, neu 7 diwrnod os nad oes gennych un. Ni allwch fynnu ei fod yn rhoi gwybod i chi yn bersonol neu ar ffurflen arbennig.

Does dim rhaid i chi dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) ar gyfer unrhyw ddiwrnod yr oedd y cyflogai’n hwyr yn rhoi gwybod i chi (oni bai bod rheswm da dros yr oedi).

Enghraifft

Mae cyflogai’n sâl o ddydd Llun, 3 Mehefin. Fel arfer, mae’n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydych wedi gosod eich terfyn amser i fod yn 5 diwrnod o rybudd, ond dim ond ar ôl 7 diwrnod y mae’n rhoi gwybod i chi ei fod yn sâl (ar ddydd Llun, 10 Mehefin).

Does dim rhaid i chi dalu SSP iddo ar gyfer y 2 ddiwrnod yr oedd yn hwyr yn rhoi gwybod i chi.

Rydych yn dechrau talu SSP ar ddydd Iau, 13 Mehefin – ar y pedwerydd ‘diwrnod cymhwysol’ (diwrnodau y mae cyflogai fel arfer yn eu gweithio) ar ôl iddo roi gwybod i chi ei fod yn sâl.

Nodynnau ffitrwydd a gofyn am dystiolaeth

Gallwch ond gofyn am nodyn ffitrwydd os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio).

Ni allwch atal talu SSP os yw’r cyflogai’n hwyr yn anfon nodyn ffitrwydd atoch.

Os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn aml, neu am amser hir, mae gan CThEF wybodaeth am gael cyngor meddygol (yn agor tudalen Saesneg).

Nodynnau ffitrwydd

Mae’n rhaid i nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n nodyn salwch) gael ei gyhoeddi gan un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • Meddyg Teulu neu ddoctor yn yr ysbyty

  • nyrs gofrestredig

  • therapydd galwedigaethol

  • fferyllydd

  • ffisiotherapydd

Gall y nodyn fod yn gopi wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.

Tystiolaeth arall o salwch

Os ydych yn cytuno, gall y cyflogai roi dogfen debyg i chi oddi wrth ffisiotherapydd, podiatrydd neu therapydd galwedigaethol yn lle nodyn ffitrwydd. Adroddiad Iechyd a Gwaith ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (Allied Health Professional - AHP) yw’r enw a roddir ar hyn.