Taliad Niwed Trwy Frechiad
Sut i wneud cais
Gwnewch gais trwy lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais ar ran rhywun os:
- maent o dan 16 oed a chi yw eu rhiant neu warcheidwad
- nid ydynt yn gallu rheoli eu materion eu hunain ac rydych chi’n gweithredu fel eu cynrychiolydd
- maent wedi marw ac rydych chi’n rheoli ei hystâd.
Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i:
Vaccine Damage Payment Scheme
Unit 5 Greenfinch Way
Newburn Business Park
Newcastle-upon-Tyne
NE15 8NX
Gallwch hefyd gysylltu â Chynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen gais:
Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad
[email protected]
Ffôn: 0300 330 0013
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Terfynau amser ar wneud cais
Gallwch ond wneud cais am blentyn pan maent yn 2 mlwydd oed.
I wneud cais am oedolyn, gwnewch gais erbyn pa un bynnag yw’r hwyraf o’r dyddiadau canlynol:
- ar neu cyn eu pen-blwydd yn 21 oed (neu os ydynt wedi marw, y dyddiad y byddent wedi troi’n 21 oed)
- o fewn 6 mlynedd o’r brechiad
Cymorth arall y gallwch ei gael
Efallai y byddwch yn gallu:
- cael cymorth ariannol os oes gennych anabledd
- gwneud cais am gyfarpar i’ch cartref os oes gennych anabledd
- cael Taliad Cymorth Profedigaeth, os ydych yn hawlio Taliad Niwed Trwy Frechiad am rywun sydd wedi marw