Taliad Tanwydd Gaeaf
Os ydych yn byw dramor
Os nad ydych yn byw yn y DU, rydych ond yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os:
- cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958
- rydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth y DU
- mae gennych gysylltiad dilys a digonol â’r DU - gall hyn gynnwys cael byw neu weithio yn y DU, a chael teulu yn y DU
- mae’r DU yn gyfrifol am dalu eich budd-daliadau
- gwnaethoch symud i wlad gymwys cyn 31 Rhagfyr 2020 ac rydych wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, nid oes angen eich bod wedi symud erbyn 31 Rhagfyr 2020, ond bydd angen i chi gwrdd â’r holl reolau cymhwysedd eraill.
Rhaid i chi hefyd fod yn cael budd-dal prawf modd cymhwysol o’r wlad rydych yn byw ynddi sy’n cyfateb i:
- Gredyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
Rhaid eich bod wedi bod yn cael y budd-dal hwn yn ystod yr wythnos cymhwyso o 16 i 22 Medi 2024.
Rhaid eich bod yn byw mewn gwlad AEE gymwys neu’r Swistir i gael Taliad Tanwydd Gaeaf.
Gwledydd cymwys
- Awstria
- Gwlad Belg
- Bwlgaria
- Croatia
- Y Weriniaeth Tsiec
- Denmarc
- Estonia
- Ffindir
- Yr Almaen
- Hwngari
- Gwlad yr Ia
- Iwerddon
- Yr Eidal
- Latfia
- Liechtenstein
- Lithwania
- Luxembourg
- Yr Iseldiroedd
- Norwy
- Gwlad Pwyl
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
- Y Swistir
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- trwy’r post - o 30 Medi 2024
- dros y ffôn - o 28 Hydref 2024
Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2024 i 2025 yw 31 Mawrth 2025.
Pan rydych yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r budd-daliadau prawf modd rydych yn ei dderbyn (o’r wlad rydych yn byw ynddo).
Gwneud cais drwy’r post
Bydd angen i chi hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf hyd yn oed os ydych wedi ei gael o’r blaen. Ni wneir y taliad yn awtomatig.
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen IPCF091, os ydych yn ddinesydd y DU neu’n ddinesydd deuol y DU sy’n byw mewn gwlad gymwys heblaw Iwerddon.
Os nad ydych wedi hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf.
Os cawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r budd-dal prawf modd yr ydych yn ei gael (o’r wlad rydych yn byw ynddi) ar y ffurflen gwybodaeth ychwanegol Taliad Tanwydd Gaeaf.
Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad canlynol.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZU
UK
Gwneud cais dros y ffôn
Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.
Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar +44 (0)151 494 2022 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Oriau agor Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Dyddiad | Amseroedd agor |
---|---|
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024 | Ar agor rhwng 8am a 5pm |
Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 | Ar gau |
Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024 | Ar gau |
Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2024 | Ar gau |
Dydd Llun 30 Rhagfyr 2024 | Ar agor rhwng 8am a 6pm |
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024 | Ar agor rhwng 8am a 5pm |
Dydd Mercher 1 Ionawr 2025 | Ar gau |
Dydd Iau 2 Ionawr 2025 | Ar agor rhwng 8am a 6pm |
Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio
Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
- eich rhifau BIC ac IBAN
- y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)
Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.
Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 16 a 22 Medi 2024, roeddech:
- yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
- mewn cartref gofal preswyl
- yn y carchar
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.