Talu’ch bil Treth Etifeddiant
Defnyddio stociau llywodraeth Prydain
Ysgrifennwch i Computershare Investor Services, sy’n rhedeg y cynllun stociau Llywodraeth Prydain.
Rhowch wybod iddynt eich bod am dalu Treth Etifeddiant a faint o’r stoc yr ydych am ei ddefnyddio. Amgaewch gopi o’r dystysgrif marwolaeth a chyfeirnod y stoc (os yw hynny gennych).
British Government Stocks (Gilts)
Computershare Investor Services plc
The Pavilions
Bristol
BS99 6ZW
Computershare Investor Services plc
[email protected]
Ffôn: 0370 703 0143
Dysgwch am gostau galwadau
Ar yr un pryd, anfonwch y canlynol i CThEF:
- llythyr sy’n nodi faint o dreth yr ydych am ei thalu allan o’r stoc
- Cyfrif Treth Etifeddiant ffurflen IHT400 (yn agor tudalen Saesneg) - bydd angen i chi roi’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant ar y ffurflen
- Crynodeb profiant ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yng Ngogledd Iwerddon
- Ffurflen gadarnhad C1 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn yr Alban
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST
Bydd CThEF yn cysylltu â Computershare i ofyn am drosglwyddo’r arian. Gall hyn gymryd hyd at 4 wythnos.
Peidiwch â thalu drwy’r dull hwn os oes angen i chi gael profiant (a elwir yn gadarnhad neu’n ‘confirmation’ yn yr Alban) yn gyflym. (Profiant yw’r hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig.)
Ar ôl i’r arian gael ei drosglwyddo
Os nad yw’r swm a drosglwyddwyd yn ddigon i dalu’r Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gennych, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint i’w dalu a sut i wneud hynny.
Yng Nghymru a Lloegr
Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch fel y gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.
Yng Ngogledd Iwerddon
Bydd CThEF yn anfon eich ffurflen IHT421 at y Gofrestrfa Profiant. Bydd y Gofrestrfa Profiant yn cadarnhau bod gennych brofiant drwy anfon ‘grant cynrychiolaeth’ atoch.
Yn yr Alban
Bydd CThEF yn dychwelyd eich ffurflen gadarnhad C1 atoch er mwyn i chi allu gwneud cais am gadarnhad (yn agor tudalen Saesneg).