Apelio i'r tribiwnlys treth
Penderfyniad y tribiwnlys
Fel arfer, byddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys:
- yn ysgrifenedig, os na chawsoch wrandawiad (bydd y penderfyniad yn seiliedig ar y ffurflen apêl a’r gwaith papur arall)
- yn ysgrifenedig o fewn 1 mis, os ydych wedi cael achos ‘sylfaenol’ - byddwch weithiau’n cael penderfyniad ar y diwrnod
- yn ysgrifenedig o fewn 2 fis, os ydych wedi cael gwrandawiad ‘safonol’ neu ‘gymhleth’
Os byddwch yn colli eich achos
Os byddwch yn colli eich achos, efallai y gellir:
- ‘rhoi’r penderfyniad o’r neilltu’
- gofyn am ganiatâd i apelio
Rhoi penderfyniad o’r ‘neilltu’
Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei ‘roi o’r neilltu’ (ei ganslo), dim ond os ydych chi’n meddwl bod camgymeriad yn y broses. Bydd y llythyr a gewch gyda’r penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os oes angen help arnoch.
Gofyn am ganiatâd i apelio
Efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad os gwnaeth y tribiwnlys gamgymeriad cyfreithiol, er enghraifft os na wnaeth:
- weithredu’r gyfraith yn gywir
- egluro ei benderfyniad yn llawn
-
Gofynnwch am resymau ysgrifenedig llawn os nad ydych eisoes wedi’u cael. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad - bydd yr hysbysiad o benderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hynny.
-
Gofynnwch am ganiatâd i apelio - lawrlwythwch y ffurflen apêl a darllenwch y nodiadau canllaw. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 56 diwrnod i’r dyddiad a roddir ar y rhesymau ysgrifenedig llawn.
Anfonwch y ffurflen apêl i:
Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) / First-tier Tribunal (Tax Chamber)
PO Box 16972
Birmingham
B16 6TZ
Tribiwnlys Treth
[email protected]
Ffôn: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ar ôl ichi anfon y ffurflen
Bydd barnwr yn penderfynu a allwch fynd â’ch achos i dribiwnlys uwch, o enw’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri). Apeliwch i’r Uwch Dribiwnlys os cewch ganiatâd.
Os gwrthodir caniatâd i chi apelio
Gallwch wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrthod, neu ond yn rhoi caniatâd i chi apelio ar sail gyfyngedig.