Adrodd pryder am atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus helpu os oes:
- atwrneiaeth arhosol wedi ei gofrestru
- atwrneiaeth barhaus wedi ei gofrestru
- dirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod
- gwarcheidwad dros rywun sydd ar goll
Gallai eich pryder fod ynghylch, er enghraifft, camddefnyddio arian neu benderfyniadau nad ydynt er lles gorau’r person y maent yn gyfrifol amdano.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i roi gwybod
Gallwch naill ai:
- defnyddio’r ffurflen codi pryderon
- e-bostio, ffonio neu ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Fel arfer, fe gewch chi ymateb ynghynt wrth ddefnyddio’r ffurflen.
Y naill ffordd neu’r llall, dylech gynnwys y canlynol yn eich adroddiad:
- manylion y rhoddwr neu’r cleient (gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni)
- y dyddiad y gwnaethoch sylwi ar y pryder am y tro cyntaf
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r pryder – er enghraifft, cofnodion ariannol
- beth rydych chi’n ei wybod am alluedd meddyliol y rhoddwr neu’r cleient, gan gynnwys copïau o unrhyw adroddiadau galluedd meddyliol neu enwau’r rheini sy’n dal yr adroddiadau hyn
- eich manylion cyswllt
Hyd yn oed os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth, bydd yn dal yn bosib i chi roi gwybod inni am bryder sydd gennych.
Ar ôl i chi wneud eich adroddiad, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried a oes ganddi’r awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.
Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn: 0115 934 2777
Ffôn testun: 0115 934 2778
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth gostau galwadau
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Ffyrdd eraill o roi gwybod am bryder
Gallwch chi hefyd gysylltu â:
- Ganolfan Byd Gwaith i drafod pryderon am fudd-daliadau
- eich gwasanaethau cymdeithasol oedolion lleol am bryderon yn ymwneud â gofal neu ddiogelu
- Arolygiaeth Gofal Cymru neu’ Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr os ydych yn poeni am rywun sy’n byw mewn cartref gofal
Ffoniwch 999 os yw rhywun mewn perygl taer ar unwaith, neu eich heddlu lleol os credwch fod rhywun wedi cyflawni trosedd.