Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Mae’n rhaid ichi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):
-
os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
-
os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
-
os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
-
os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai
Gall y rhoddwr hefyd roi gwybod am newidiadau i atwrneiaeth arhosol os oes ganddo alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.
Os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.
Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.
Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen atwrneiaeth arhosol ei hun, oherwydd gallai hynny achosi iddi fod yn annilys.
Os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon atynt yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol (LPA) a phob copi ardystiedig.
Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.
Beth fydd yn digwydd i’r atwrneiaeth arhosol gyfredol
Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw ac naill ai:
-
roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd – gelwir hyn yn gweithredu ‘ar-y-cyd’
-
roedd dim ond un atwrnai
Bydd LPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os hoffech i’r OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.
Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’), bydd yr OPG yn diweddaru’r LPA yn lle ei dinistrio. Dylech gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.
Os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fyddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn. Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol iddynt:
-
yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol
-
pob copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arhosol
-
cyfeiriad dychwelyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus anfon eich dogfennau yn ôl atoch
Byddwch yn gallu dechrau helpu rhoddwr i wneud penderfyniadau cyn gynted ag y bydd yr atwrnai yr ydych chi’n cymryd ei le yn rhoi gorau i weithredu.
Edrychwch ar yr atwrneiaeth arhosol i weld a oes angen i chi wneud penderfyniadau gydag atwrneiod eraill ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai.
Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:
-
eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
-
nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
-
enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
-
y cyfeirnod ar eich atwrneiaeth arhosol