Taliadau a ffioedd am wasanaethau a ddarperir gan APHA
Mae adolygiad ar y gweill o’r ffioedd presennol y mae APHA yn eu codi am wasanaethau statudol
Yn 2018, ymrwymodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i weithio tuag at adennill costau llawn am y gwasanaethau statudol a ddarperir ganddi. O ganlyniad, mae APHA yn cynnal adolygiad o’r ffioedd presennol a godir ganddi. Drwy gwblhau’r gwaith hwn, bydd modd adennill mwy o gostau a lleihau’r pwysau ar arian cyhoeddus.
Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd
Yn dilyn dadansoddiad manwl, mae APHA a Thimau Cyllid Defra wedi diwygio’r rhestr ffioedd ar gyfer dau o’r gwasanaethau y gellir codi tâl amdanynt ar hyn o bryd, sef Gorchmynion Crynoadau Anifeiliaid a Chynllun Cymeradwyo Diheintyddion Defra (cynllun cymeradwyo a weinyddir ar ran y tair gweinyddiaeth ym Mhrydain Fawr), gan ddilyn yr egwyddorion adennill costau a nodir yng nghanllawiau Managing Public Money (Yn Saesneg).
Darperir manylion y newidiadau i ffioedd yn y Rhestr Ffioedd
Mae disgwyl i’r newidiadau hyn ddod i rym o 1 Rhagfyr 2022 a byddant yn gymwys i ffioedd a godir o dan gynllun diheintyddion cymeradwy’r Llywodraeth ac i unrhyw un sy’n gwneud cais am drwydded Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid er mwyn trefnu crynhoad da byw yn Lloegr. Gall y dyddiad uchod newid, felly ewch i GOV.UK i gadarnhau’r dyddiad gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ymrwymedig i newid ffioedd yn unol ag APHA hefyd ac maent yn gweithio’n agos i gyflwyno deddfwriaeth ar yr un pryd.
Mae APHA hefyd yn bwriadu adolygu’r ffioedd a godir am y gwasanaethau canlynol:
- Rheolaethau Bridio Artiffisial
- Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
- Safleoedd Rheoli Ffiniau
- Y Confensiwn ar y Fasnach mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES)
- Cynllun Iechyd Dofednod
- Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela
Rhestr-Ffioedd
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid
Rhestrau Ffioedd am drwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol. Mae’r tabl yn dangos y ffioedd arfaethedig er mwyn Adennill Costau Llawn (i’w cyflwyno yn 2023) o gymharu â’r ffioedd presennol.
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd er mwyn Adennill Costau Llawn |
---|---|---|
Marchnad - Cais - Ymweliad Sylfaenol | £256.00 | £379.00 |
Marchnad - Cais - gydag Ymweliad Ychwanegol | £414.00 | £685.00 |
Marchnad - Ailgymeradwyo - Ymweliad Sylfaenol | £217.00 | £340.00 |
Marchnad - Ailgymeradwyo - gydag Ymweliad Ychwanegol | £342.00 | £486.00 |
Marchnad - Ymweliad Ychwanegol yn Ystod y Flwyddyn - 1 Ymweliad | £173.00 | £318.00 |
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Sylfaenol | £114.00 | £236.00 |
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Mwy â Sioe | £245.00 | £408.00 |
Sioe - Ailgymeradwyo - Dim Ymweliad | £91.00 | £168.00 |
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG ISEL | £110.00 | £171.00 |
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG GANOLIG/UCHEL | £157.00 | £229.00 |
Amser Swyddog Milfeddygol Ychwanegol (fesul 15 munud) heb gynnwys teithio | £16.00 | £22.00 |
Amser Teithio Swyddog Milfeddygol (fesul 15 munud) | £21.00 | £22.00 |
Rhestrau Ffioedd yn dangos effaith cynnydd graddol mewn ffioedd dros ddwy flynedd, gan Adennill Costau Llawn yn 2023. Caiff y ffioedd eu cynyddu 50% o gyfanswm y cynnydd yn ystod y 12 mis cyntaf cyn symud i Adennill Costau Llawn.
Gweithgaredd | Dyddiad dod i rym | Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym |
---|---|---|
Marchnad - Cais - Ymweliad Sylfaenol | £318.00 | £379.00 |
Marchnad - Cais - gydag Ymweliad Ychwanegol | £550.00 | £685.00 |
Marchnad - Ailgymeradwyo - Ymweliad Sylfaenol | £279.00 | £340.00 |
Marchnad - Ailgymeradwyo - gydag Ymweliad Ychwanegol | £414.00 | £486.00 |
Marchnad - Ymweliad Ychwanegol yn Ystod y Flwyddyn - 1 Ymweliad | £246.00 | £318.00 |
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Sylfaenol | £175.00 | £236.00 |
Sioe - Ceisiadau - Ymweliad Mwy â Sioe | £327.00 | £408.00 |
Sioe - Ailgymeradwyo - Dim Ymweliad | £130.00 | £168.00 |
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG ISEL | £141.00 | £171.00 |
Sioe - Ailgeisiadau - gydag Ymweliad – RISG GANOLIG/UCHEL | £193.00 | £229.00 |
Amser Swyddog Milfeddygol Ychwanegol (fesul 15 munud) heb gynnwys teithio | £22.00 | £22.00 |
Amser Teithio Swyddog Milfeddygol (fesul 15 munud) | £22.00 | £22.00 |
Cynllun Cymeradwyo Diheintyddion Defra
Rhestrau Ffioedd am drwyddedu crynoadau anifeiliaid penodol. Mae’r tabl yn dangos y ffioedd arfaethedig er mwyn Adennill Costau Llawn (i’w cyflwyno yn 2023) o gymharu â’r ffioedd presennol.
Cais Blynyddol neu Newydd | EFfi bresennol | Ffi er mwyn Adennill Costau Llawn |
---|---|---|
Ffi flynyddol i wneuthurwyr sydd â chynnyrch cymeradwy | £375 | £590 |
Ffi am gais i gael cymeradwyaeth newydd | £1,000 | £1,399 |
Pwrpas | EFfi bresennol | Ffi er mwyn Adennill Costau Llawn |
---|---|---|
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,040 | £3,778 |
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,400 | £4,172 |
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,300 | £1,666 |
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,620 | £2,050 |
Defnyddio mewn perthynas â chlwy’r traed a’r genau | £1,920 | £3,166 |
Defnyddio mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch | £1,920 | £3,166 |
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £715 | £1,032 |
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £815 | £1,131 |
Rhestrau Ffioedd yn dangos effaith cynnydd graddol mewn ffioedd dros ddwy flynedd, gan Adennill Costau Llawn yn 2023. Caiff y ffioedd eu cynyddu 50% o gyfanswm y cynnydd yn ystod y 12 mis cyntaf cyn symud i Adennill Costau Llawn.
Cais Blynyddol neu Newydd | Dyddiad dod i rym | Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym |
---|---|---|
Ffi flynyddol i wneuthurwyr sydd â chynnyrch cymeradwy | £482 | £590 |
Ffi am gais i gael cymeradwyaeth newydd | £1,199 | £1,399 |
Pwrpas | Dyddiad dod i rym | Deuddeg mis yn dilyn y dyddiad dod i rym |
---|---|---|
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £2,409 | £3,778 |
Defnyddio mewn perthynas â chlefydau dofednod (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £2,786 | £4,172 |
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,483 | £1,666 |
Defnyddio mewn perthynas â thwbercwlosis (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £1,835 | £2,050 |
Defnyddio mewn perthynas â chlwy’r traed a’r genau | £2,543 | £3,166 |
Defnyddio mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch | £2,543 | £3,166 |
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff un gyfradd wanhau ei nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £874 | £1,032 |
Defnyddio mewn perthynas â phob achos arall lle mae gofyniad deddfwriaethol i ddefnyddio diheintydd cymeradwy (os caiff tair cyfradd wanhau eu nodi gan y person sy’n gwneud cais am gymeradwyo’r diheintydd) | £973 | £1,131 |
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i [email protected].