Lansio gwasanaeth llyfr log dyblyg ar-lein
Mae'r amser y mae'n ei gymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log dyblyg (V5CW) wedi'i thorri o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, o ganlyniad i wasanaeth ar-lein newydd a lansiwyd yr wythnos hon gan DVLA.
Mae’r amser y mae’n ei gymryd i fodurwyr dderbyn llyfr log dyblyg (V5CW) wedi’i thorri o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, o ganlyniad i wasanaeth ar-lein newydd a lansiwyd yr wythnos hon gan DVLA.
Y gwasanaeth ‘Cael llyfr log cerbyd (V5CW)’ yw gwasanaeth ar-lein DVLA diweddaraf, ac mae wedi’i gynllunio am fodurwyr sydd wedi colli neu ddifrodi eu llyfr log.
Hwn fydd yr ail wasanaeth ar-lein y mae DVLA wedi’i lansio yn ystod y 4 mis diwethaf, yn dilyn y gwasanaeth newid cyfeiriad ar lyfr log cerbyd a lansiwyd ym mis Mehefin ac sydd wedi cael ei ddefnyddio dros 300,000 o weithiau.
Bob blwyddyn, mae DVLA yn cyhoeddi tua 500,000 o lyfrau log dyblyg lle mae modurwyr naill ai wedi colli neu ddifrodi eu dogfen.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:
Mae gwasanaeth ar-lein newydd DVLA i wneud cais am lyfr log dyblyg yn gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n golygu y bydd cwsmeriaid sydd, yn anffodus naill ai wedi colli neu ddifrodi eu dogfen hwy, yn derbyn eu dogfen newydd o fewn ychydig ddyddiau.
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw llyfr log i fodurwyr felly os ydych chi wedi colli neu ddifrodi eich un chi, y ffordd gyflymaf o gael eich dogfen ddyblyg yw mynd i GOV.UK.
Nodiadau i Olygyddion:
-
Mae’n llawer cyflymach defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gael llyfr log V5W newydd yn lle un sydd wedi’i golli neu wedi’i ddifrodi a bydd modurwyr yn cael un newydd o fewn 5 niwrnod gwaith - efallai y bydd yn rhaid i fodurwyr sy’n gwneud cais drwy’r post aros hyd at 6 wythnos.
-
Mae’n costio £25 am lyfr log dyblyg p’un a ydych yn mynd ar-lein neu’n gwneud cais drwy’r post.
-
Mae’r gwasanaeth ar-lein newydd yn ychwanegu at y gwasanaethau poblogaidd presennol GOV.UK: gwneud cais am, adnewyddu neu amnewid trwydded yrru, newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru; trethu cerbyd neu ei ddatgan fel un oddi ar y ffordd (HOS); rhoi gwybod i ni eich bod wedi gwerthu cerbyd a chadw neu aseinio cofrestriad preifat (personol) ar-lein.
-
Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn rhan o raglen barhaus y DVLA i wella gwasanaethau.
-
Dylai modurwyr sydd angen gwneud cais am lyfr log dyblyg (V5C) fynd ar-lein i https://www.gov.uk/llyfr-log-cerbyd
-
Mae DVLA hefyd wedi cyhoeddi estyniad 11 mis yn ddiweddar i drwyddedau gyrru sy’n dod i ben rhwng 1 Chwefror 2020 a 31 Rhagfyr 2020.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407