Diogelu Wisgi Cymreig Brag Sengl
Cafodd Wisgi Cymreig Brag Sengl ei gofrestru’n llwyddiannus o dan gynllun Dynodiad Daearyddol y DU (UKGI) heddiw (24 Gorffennaf).
Cafodd Wisgi Cymreig Brag Sengl ei gofrestru’n llwyddiannus o dan gynllun Dynodiad Daearyddol y DU (UKGI) heddiw (24 Gorffennaf) – gan ddiogelu ei enw, ei ddilysrwydd a’i nodweddion.
Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru gan Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Bwyd a Ffermio. Mae’n rhoi’r un statws i Wisgi Cymreig Brag Sengl â bwydydd eraill o Gymru fel Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chennin Cymru.
Dyma’r cais newydd cyntaf am wirod yn y DU i’w gofrestru a’i ddiogelu o dan y cynllun newydd – a gafodd ei greu ar ôl Brexit – ac mae’n ymuno â chynnyrch clasurol arall o Brydain sy’n cael ei ddiogelu fel Wisgi’r Alban, Pastai Porc Melton Mowbray a Hufen Tolch Cernyw.
Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr yn gallu bod yn hyderus bod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu yn ddilys a bod ymdrechion cynhyrchwyr yn cael eu diogelu rhag cynnyrch ffug.
Gan ddyddio yn ôl i 1887, mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei wneud gan ddefnyddio barlys brag a dŵr a ddaw’n gyfan gwbl o Gymru, a gyda’r diogelwch newydd dim ond wisgi sy’n cael ei wneud yn y ffordd hon mae modd ei alw yn Wisgi Cymreig Brag Sengl. Mae’r cynnyrch wedi’i gofrestru â phedwar distyllwr yng Nghymru, a gyda’i gilydd maen nhw’n allforio i dros 45 o wledydd ar draws y byd gan gynnwys UDA, Ffrainc, yr Almaen a Tsieina.
Rhaid i bob cam o’r broses gynhyrchu ddigwydd yng Nghymru, o’r bragu i’r potelu. Mae hinsawdd gymedrol a llaith Cymru yn caniatáu cyfradd aeddfedu gyfartal, sy’n cynhyrchu blas llyfn a braf. Heddiw, mae gan y rhan fwyaf o ddistyllfeydd Cymru eu ffynnon neu eu twll turio eu hunain er mwyn manteisio ar ddŵr ffres ac o ansawdd uchel enwog Cymru.
Dywedodd Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Bwyd a Ffermio:
Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn enwog am ei gymeriad a’i ysgafnder ac rwy’n falch o gyhoeddi mai dyma fydd y gwirod cyntaf i gael ei ddiogelu o dan ein cynllun UKGI yn Sioe Frenhinol Cymru.
Mae’n dangos sut mae llywodraeth y DU yn barod i gefnogi bwyd a diod gorau Prydain o bob cwr o’r wlad – i hybu gwerthiant gartref a thramor, i greu swyddi ac i dyfu ein heconomi.
Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o’r distyllwyr yn Sioe Frenhinol Cymru a dathlu hanes gwych y cynnyrch unigryw hwn.
Dywedodd Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol Wisgi Penderyn:
Mae cyflawni statws UKGI ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn garreg filltir bwysig i Penderyn fel cynhyrchydd ond hefyd i ddiwydiant wisgi ehangach Cymru.
Mae’n helpu i ddiogelu ansawdd y cynnyrch a hefyd ei darddiad. Mae’n gam cyffrous ymlaen ac yn un sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant sydd wedi bod yn tyfu’n raddol dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae enw da Cymru am gynhyrchu bwyd a diod o ansawdd uchel yn tyfu ac rwyf wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth hon bod wisgi Cymreig bellach yn haeddu’r statws arbennig hwn.
Mae statws UKGI yn bwysig iawn i ddistyllwyr ac mae’n eu helpu i farchnata’r cynnyrch gwych hwn ar draws y byd, ac mae defnyddwyr yn gwybod eu bod yn prynu cynnyrch unigryw sy’n cael ei greu a’i botelu’n gyfan gwbl yng Nghymru. Mae hyn i gyd yn helpu’r diwydiant i dyfu, gan gefnogi swyddi a sbarduno ffyniant.
Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl nawr yn cael ei ddiogelu a’i gydnabod yn llawn ar draws Prydain Fawr fel Dynodiad Daearyddol (GI). Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr yn gallu bod yn hyderus bod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu yn gynnyrch go iawn a bod ymdrechion cynhyrchwyr yn cael eu diogelu rhag cynnyrch ffug.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Gorffennaf 2023 + show all updates
-
Welsh press release added.
-
First published.