Llywodraeth Cymru i elwa ar hwb o dros £400 miliwn i gyllidebau cyfalaf yn sgil Datganiad yr Hydref
Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros £400 miliwn hyd at 2020-21.
Yn Natganiad yr Hydref, gwnaeth y Canghellor gyhoeddiadau a fydd yn adeiladu economi sy’n gweithio i bawb, a hynny yng Nghymru a ledled y DU.
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ganolbwyntio ar wario ar seilwaith yn golygu y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros £400 miliwn hyd at 2020-21, gan roi hyd yn oed yn fwy o bŵer gwario iddi er mwyn rhoi hwb i gynhyrchiant a hybu twf yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at y £500 miliwn y bydd modd i Lywodraeth Cymru ei benthyg er mwyn buddsoddi o 2018 ymlaen.
Llywodraeth Cymru fydd yn nodi sut mae’n bwriadu defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn. Roedd Datganiad yr Hydref hefyd yn cynnwys ystod o fesurau a fydd o fantais uniongyrchol i bobl ledled Cymru.
Drwy rewi treth tanwydd am y seithfed flwyddyn yn olynol, bydd Llywodraeth y DU yn helpu’r gyrrwr cyffredin yng Nghymru i arbed hyd at £10 bob tro mae’n llenwi ei gar. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £7.20 i £7.50.
Dylai penderfyniad y Canghellor i gynyddu’r buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu £2 biliwn y flwyddyn erbyn 2020-21 fod o fantais i brifysgolion a chanolfannau ymchwil ffyniannus Cymru.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn buddsoddi rhagor mewn seilwaith digidol, megis band eang ffeibr a 5G - bydd hyn yn sicrhau bod busnesau ledled Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil technolegau newydd ac i elwa ar fanteision mwy o gysylltedd.
Bydd dinasoedd Cymru hefyd yn gweld effaith cymorth Llywodraeth y DU i ddatgloi eu potensial. Mae trafodaethau ar gyfer bargen ddinesig gydag Abertawe yn mynd rhagddynt yn dda, gan adeiladu ar lwyddiant y fargen gwerth £1.2 biliwn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer cynllun twf i ogledd Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei hymrwymiad maniffesto i gynyddu’r lwfans personol i £12,500. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, profodd 1.2 miliwn o unigolion yng Nghymru gynnydd o £521 ar gyfartaledd, o ganlyniad i gynnydd yn y lwfans personol. I gloi, mae Cymru ar ei hennill gyda mwy na £3 miliwn o gyllid LIBOR sy’n deillio o’r dirwyon a godir ar fanciau yn cael eu dosbarthu i achosion da, gan gynnwys £1 miliwn yn ychwanegol i Ambiwlans Awyr Cymru.
Bydd Cymru, fel gweddill y DU, yn elwa ar y penderfyniadau a nodir yn Natganiad yr Hydref wrth i Lywodraeth y DU adeiladu economi sy’n gweithio i bawb.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Datganiad Hydref y Canghellor yn newyddion da i Gymru. Mae’n helpu i adeiladu economi sy’n gweithio i bawb yng Nghymru a gweddill y DU, yn ogystal â darparu cynnydd sylweddol o fwy na £400 miliwn yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae hynny’n ganlyniad i benderfyniad y Canghellor i ganolbwyntio ar seilwaith, a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau a fydd yn helpu pobl ledled Cymru.
Mae’n Ddatganiad yr Hydref sy’n cynnwys mesurau a fydd yn helpu pobl o bob cwr o Gymru, gan ei gwneud yn haws iddynt gynilo ar gyfer y dyfodol, rhoi codiad cyflog i’r rheini ar y Cyflog Byw Cenedlaethol a chefnogi gwaith arloesol prifysgolion campus Cymru drwy fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd.