Ysgrifennydd Cymru yn hyderus cyn y trafodaethau â Phrif Weinidog Cymru
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi datgan ei fod yn hyderus cyn cynnal rhagor o drafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus.
Bydd Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol, ac Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyfarfod Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, i drafod trefniadau o dan y Bil Ymadael â’r UE ar gyfer dosbarthu pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Cairns:
Mae pobl Cymru eisiau sicrhau bod Brexit yn llwyddiant ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eisiau’r un fath - rydym eisiau i Gymru ffynnu ac rydym eisiau cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob rhan o’r DU.
Yn sylfaenol, mae economi Cymru yn rhan o economi gweddill y DU, felly mae’n rhaid i ni ddod ag asedau pob rhan o’r DU ynghyd i ennill cytundebau ac i sicrhau cytundebau masnach. Mae’r broses o adael yr UE yn gyfnod lle mae angen i’r genedl ddod at ei gilydd i sicrhau’r fargen orau ar gyfer pob rhan o’r DU.
Nid yw o fudd i neb i gael bylchau yn y gyfraith pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Nid yw o fudd i neb chwaith i greu rhwystrau neu gostau newydd o fewn y DU wrth inni ymadael â’r UE. Mae hyn yn golygu y bydd angen dull gweithredu cyffredin ar lefel y DU yng nghyswllt nifer o feysydd. Rydym eisoes wedi cael trafodaethau adeiladol a byddwn yn parhau i drafod - rwy’n hyderus y gallwn ddod i gytundeb sy’n gweithio ar gyfer pob rhan o’r DU.