Amdanom ni
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu’r llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr.
Rydym hefyd yn gyfrifol am dribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Rydym yn gweithio gyda barnwriaeth annibynnol i ddarparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol.
Ein llysoedd
Rydym yn gweinyddu gwaith y Llysoedd Ynadon, y Llys Sirol, y Llys Teulu, Llys y Goron a’r Llysoedd Barn Brenhinol a’r Adeilad Rolls.
Y Llysoedd Barn Brenhinol
- Y Llys Gweinyddol
- Y Llys Apêl (Adran Sifil)
- Y Llys Apêl (Adran Droseddol)
- Adran Deulu’r Uchel Lys
- Y Llys Cynllunio
- Adran Mainc y Brenin
- Swyddfa Costau’r Uwchlysoedd
Adeilad Rolls
-
Y Llysoedd Busnes ac Eiddo:
- Llys y Morlys
- Y Rhestr Fusnes
- Cylchdaith y Llys Masnach
- Yr Adran Siawnsri
- Y Llys Masnach
- Y Rhestr Cwmnïau
- Y Rhestr Gystadleuaeth
- Y Rhestr Ariannol
- Y Llys Rhwymedi Ariannol
- Y Rhestr Ansolfedd
- Llys Mentrau Eiddo Deallusol
- Y Rhestr Eiddo Deallusol
- Y Llys Patentau
- Y Rhestr Eiddo, Ymddiriedolaethau a Phrofiant
- Y Rhestr Refeniw
- Y Llys Technoleg ac Adeiladwaith
Llysoedd eraill
Ein tribiwnlysoedd
- Tribiwnlys Cyflogaeth
- Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth
- Panel Cydnabod Rhyw
- Apeliadau Trwyddedu Gangfeistri
- Comisiwn Apêl Mynediad Pathogenau
- Comisiwn Apeliadau Sefydliadau Gwaharddedig
- Tribiwnlys Apêl Lluoedd Wrth Gefn
- Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig
Tribiwnlys Haen Gyntaf
- Cefnogaeth i Geiswyr Lloches
- Safonau Gofal
- Iawndal am Anafiadau Troseddol
- Siambr Reoleiddio Gyffredinol
- Siambr Mewnfudo a Lloches
- Iechyd Meddwl
- Rhestrau Iechyd Sylfaenol
- Siambr Eiddo
- Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant
- Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd
- Siambr Dreth
- Iawndal Pensiynau Rhyfel a’r Lluoedd Arfog
Uwch Dribiwnlys
Pwy ydym ni?
Rydym yn cyflogi oddeutu 19,000 o staff ac yn gweithredu o leoliadau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ein cyfrifoldebau
Drwy’r llysoedd a thribiwnlysoedd, rydym yn rhoi mynediad at gyfiawnder i bobl a busnesau, gan gynnwys:
- dioddefwyr a thystion troseddau
- diffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni troseddau
- defnyddwyr mewn dyled neu gydag anghydfodau eraill
- pobl sy’n ymwneud â mabwysiadu neu amddiffyn plant
- busnesau sy’n ymwneud ag anghydfodau masnachol
- unigolion sy’n mynnu eu hawliau cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth
- pobl yr effeithir arnynt gan berthynas sy’n chwalu
Rydym yn dilyn cynllun cyflawni canlyniadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau mynediad cyflym at gyfiawnder.
Rydym yn gyfrifol am:
- ddarparu cymorth i weinyddu system llysoedd a thribiwnlysoedd deg, effeithlon a hygyrch.
- cefnogi barnwriaeth annibynnol wrth iddi weinyddu cyfiawnder.
- hybu gwelliant ym mhob agwedd ar weinyddu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
- cydweithio’n effeithiol â chyrff ac asiantaethau cyfiawnder eraill, gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol, i wella mynediad at gyfiawnder.
- cydweithio ag adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth i wella ansawdd ac amseroldeb eu penderfyniadau er mwyn lleihau nifer yr achosion sy’n dod gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd.
Lansiwyd ein Rhaglen Ddiwygio yn 2016. Nawr yn ei chamau olaf, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r farnwriaeth, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a defnyddwyr ein system gyfiawnder – ac yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor honno.
Gwybodaeth Gorfforaethol
Mynediad at ein gwybodaeth
- Polisi dogfennau hygyrch
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ymholiadau gan y cyfryngau
- Y drefn gwyno
- Ein trefn lywodraethu
- Ystadegau GLlTEF
- Ymchwil yn GLlTEF
Swyddi a Chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth yr ydym yn eu cyhoeddi yn rheolaidd yn ein Cynllun Cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i’r Cynllun Iaith Gymraeg. Mae ein Siarter Gwybodaeth Bersonol yn egluro sut yr ydym yn delio â’ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Accessible documents policy
- Research at HMCTS
- Ymholiadau gan y cyfryngau
- Ystadegau yn GLlTEF
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Social media use.