Chloe Smith
Bywgraffiad
Penodwyd Chloe Smith yn Weinidog Gwladol (y Gweinidog dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith) yn DWP ar 16 Medi 2021.
Roedd yn Weinidog Gwladol (y Gweinidog Cyfansoddiad a Datganoli) rhwng 13 Chwefror 2020 a 15 Medi 2021.
Roedd yn Ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa’r Cabinet rhwng 9 Ionawr 2018 a 13 Chwefror 2020 ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Gogledd Iwerddon ac yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth i Dŷ’r Cyffredin rhwng 15 Mehefin 2017 ac 8 Ionawr 2018.
Fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd Norwich ar 23 Gorffennaf 2009.
Addysg
Astudiodd Chloe Saesneg ym Mhrifysgol Efrog.
Gyrfa wleidyddol
Etholwyd Chloe yn Aelod Seneddol dros Ogledd Norwich ym mis Gorffennaf 2009. Fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Economaidd i’r Trysorlys ym mis Hydref 2011 ac o fis Medi 2012 i fis Hydref 2013 bu’n Ysgrifennydd Seneddol Swyddfa’r Cabinet.
Ei gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Cyn ymuno a’r Senedd, roedd Chloe yn gweithio i’r cwmni ymgynghori rhyngwladol Deloitte, gan ymgynghori busnesau preifat, adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus.