Gwneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu: Ffurflen FL401
Gofyn i’r llys wneud gorchymyn i’ch amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch gan berson a enwir, neu eu hatal rhag byw yn eich cartref.
Dogfennau
Manylion
Gallwch ddefnyddio ffurflen FL401 i wneud cais am:
- Gorchymyn rhag molestu, sy’n eich amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch. Gall y gorchymyn hwn hefyd atal rhywun rhag dod i’ch cartref neu yn agos at eich cartref
- Gorchymyn anheddu, pan fydd y llys yn penderfynu pwy ddylai fyw yn y cartref neu ddychwelyd i’r cartref, neu unrhyw ran ohono
Mae’r gorchmynion hyn yn fathau o waharddeb.
Nid oes rhaid talu ffi’r llys i wneud cais. Gallwch wneud cais am y naill orchymyn neu’r llall neu’r ddau orchymyn, gan ddibynnu ar eich sefyllfa.
Mae’r ffurflen yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad pellach i’ch helpu chi i gwblhau eich cais.
Mae’n rhaid i chi hefyd baratoi datganiad tyst. Mae ein templed wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y llys. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r templed hwn os byddai’n well gennych ysgrifennu eich datganiad eich hun. Fodd bynnag, efallai y bydd y cyfarwyddyd o gymorth i chi.
Os byddwch yn penderfynu ysgrifennu eich datganiad tyst eich hun, rhaid iddo gynnwys y ‘datganiad gwirionedd’ canlynol, yn ogystal â’ch llofnod a’r dyddiad:
Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir, neu sy’n achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir.
Cefnogaeth wrth wneud cais am orchymyn
Mae CourtNav yn adnodd ar-lein (a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol) a fydd yn eich helpu chi i gyflwyno eich cais. Bydd yr adnodd hefyd yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorwyr cyfreithiol i drafod eich opsiynau.
Ewch i CourtNav i gofrestru a gwneud cai
Os byddwch yn penderfynu defnyddio CourtNav, ni fydd angen i chi lenwi’r ffurflen FL401 hon neu ddarparu datganiad i gefnogi eich cais - bydd CourtNav yn gwneud hyn ar eich rhan.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
-
Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
-
Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
-
Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
-
Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â [email protected].
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Gofyn am fformatau hygyrch
Gallwch ofyn am:
-
fersiwn Braille
-
fersiwn print bras
-
fersiwn hawdd ei darllen
Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost - [email protected]
Microsoft Word
Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Rhagfyr 2023 + show all updates
-
Guidance for requesting accessible formats has been updated.
-
Large print versions of the English and Welsh forms uploaded.
-
Uploaded a new easy read version of the form and the template supporting statement
-
Uploaded a new version of the FL401
-
Added translation