Hawlio iawndal ar gyfer problemau gyda gwasanaeth Gofal Plant
Gwirio a allwch gael iawndal os nad ydych wedi gallu cael mynediad at y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu ofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio oherwydd anawsterau technegol.
Dogfennau
Manylion
Os ydych wedi cael problemau technegol yn eich cyfrif gofal plant, gallai fod wedi effeithio ar naill ai:
- Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
- gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio
Efallai y gallwch hawlio iawndal:
- i gael taliad atodol ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy lenwi’r ffurflen ar-lein
- ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio drwy ysgrifennu atom
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i hawlio iawndal ar gyfer y taliad atodol ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Os ydych wedi talu am ofal plant heb gael eich taliad atodol gan y llywodraeth, byddwn yn ad-dalu’r taliad sy’n ddyledus os nad ydych wedi gallu:
- llenwi’ch cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
- cael mynediad at eich cyfrif gofal plant
Byddwn hefyd yn ystyried ad-dalu unrhyw gostau rhesymol sy’n codi’n uniongyrchol o ganlyniad i’r canlynol:
- nam ar y gwasanaeth sy’n golygu nad oedd yn gweithio fel y dylai
- ein camgymeriadau ni
- unrhyw oedi afresymol, o fewn ein rheolaeth
Llenwch y ffurflen hon, ac yna ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF.
Cyn i chi ddechrau
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol.
Os ydych yn dal i gael anawsterau technegol, gallwch gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant.
Hawlio iawndal drwy’r post ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio
Gwiriwch eich bod wedi gwneud cais cyn y dyddiad cau
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio iawndal os gallwch brofi eich bod wedi gwneud cais neu wedi ailgadarnhau cyn dyddiad dechrau’r tymor. Mae dyddiadau dechrau’r tymor yn cael eu gosod gan y cynllun gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio, a dyma nhw:
- 1 Medi
- 1 Ionawr
- 1 Ebrill
Dysgwch ragor am bryd i wneud cais ar gyfer gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud cais am iawndal
I fod â hawl i iawndal, mae’n rhaid i chi fod wedi talu am ofal plant a fyddai wedi bod yn rhad ac am ddim.
Er mwyn hawlio, mae’n rhaid i chi fodloni rhai amodau. Gallwch hawlio dim ond os ydych wedi:
- profi problemau technegol gyda’r gwasanaeth Gofal Plant ar-lein a wnaeth eich atal rhag gwneud cais neu ailgadarnhau
- derbyn eich cod yn hwyr oherwydd amserau prosesu safonol
- apelio yn erbyn penderfyniad yn llwyddiannus
Sut i hawlio iawndal drwy’r post
I hawlio, ysgrifennwch atom yn:
Gwasanaeth Gofal Plant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Mae’n rhaid i chi anfon y canlynol atom:
- eich enw llawn
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad a’ch cod post
Mae’n rhaid i chi hefyd anfon:
- manylion am yr hyn a ddigwyddodd a wnaeth eich atal rhag cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio — mae hyn yn cynnwys unrhyw dystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi gwneud cais cyn dyddiad dechrau’r tymor perthnasol
- tystiolaeth o unrhyw daliadau a wnaethoch am ofal plant, megis copïau o gyfriflenni banc neu dderbynebau
Dylech hefyd gynnwys manylion y cyfrif yr ydych am i unrhyw iawndal gael ei dalu iddo, gan gynnwys:
- enw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu
- enw deiliad y cyfrif
- rhif y cyfrif
- cod didoli
- rhif rôl y gymdeithas adeiladu (os yw’n berthnasol)
Cewch benderfyniad fel arfer cyn pen 28 diwrnod gwaith.
Beth i’w wneud ar ôl i chi gael iawndal
Os oes iawndal yn ddyledus i chi, a’ch bod yn cael Credyd Cynhwysol neu gredydau treth, bydd angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, gan gynnwys y swm a ad-dalwyd i chi, i:
- CThEF ar gyfer credydau treth
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Credyd Cynhwysol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Mehefin 2024 + show all updates
-
References to '30 hours free childcare' have been changed to 'free childcare for working parents'.
-
'Claiming 30 hours free childcare compensation' section has been updated to clarify term dates and conditions for claiming.
-
Welsh translation added.
-
'Claiming 30 hours free childcare compensation' section has been updated to clarify term dates and the 'How to claim' section updated if you receive a refund and get Universal Credit or tax credits.
-
We have added a section telling people how to claim compensation for 30 hours free childcare where a technical issue has caused problems accessing the service.
-
An updated form to claim Childcare Service 'top-up' refund has been added and a Helpline telephone number.
-
Removed information about the Nanny Tax service being available soon, as the Nanny Tax service is live.
-
The page and form have been updated to advise customers that they'll soon be able to pay tax and National Insurance payments for nannies using their childcare account.
-
The content has been updated to clarify the compensation claim process.
-
First published.