Canllawiau

Cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych yn ddarparwr gofal plant

Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a chael cyfrif darparwr gofal plant er mwyn cael taliadau gan rheini sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Pwy sy’n gallu cofrestru

Mae ffordd wahanol o wneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych yn rhiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif darparwr gofal plant.

Os ydych yn ddarparwr gofal plant cymeradwy neu gofrestredig, gallwch gofrestru i gael cyfrif darparwr gofal plant. Mae hyn yn eich galluogi i sefydlu eich manylion cyfrif banc a chael taliadau gan rieni sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I gofrestru, chi ddylai fod y prif gyswllt ar gyfer eich busnes. Byddwch yn gallu pennu ‘dirprwy’ i reoli’ch cyfrif ar eich rhan yn ystod y broses.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • ID defnyddiwr, sy’n 11 digid, o’ch llythyr cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth — os na chawsoch lythyr neu os ydych wedi colli’ch ID Defnyddiwr, cysylltwch â llinell Gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant

  • manylion cyfrif banc

  • cod post y busnes (yr un sydd wedi’i gofrestru gyda’ch rheoleiddiwr, er enghraifft Estyn)

Cofrestru

Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Defnyddiwch y gwasanaethau ar-lein er mwyn cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Cofrestru nawr

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd angen eich ID Defnyddiwr a’ch cyfrinair arnoch er mwyn mewngofnodi i’ch cyfrif darparwr gofal plant. Mae’n rhaid i chi ddiweddaru eich manylion ar eich cyfrif er mwyn galluogi i rieni sy’n defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i’ch talu.

Gallwch barhau i gael taliadau gan rieni gan ddefnyddio talebau gofal plant. Ni all rhieni ddefnyddio talebau gofal plant a Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i dalu am ofal plant.

Gallwch ddarllen rhagor yn yr arweiniad ar fewngofnodi i’ch cyfrif darparwr gofal plant ynghylch: 

  • cael taliadau gan rieni
  • ad-dalu rhieni
  • diweddaru’ch manylion 
  • enwebu dirprwy

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Information on where to find your user ID has been added.

  3. This page has been updated with more information about what you'll need to sign up.

  4. First published.

Print this page