Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch yn nodi dull gweithredu strategol newydd ar gyfer sectorau diwydiannol amddiffyn a diogelwch y DU.
Dogfennau
Manylion
Gan adeiladu ar ganlyniadau’r Adolygiad Integredig a’r Papur Gorchymyn Amddiffyn mewn oes gystadleuol, mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch (DSIS) yn rhoi’r fframwaith i lywodraeth weithio gyda diwydiant i gyflawni’r dyheadau hynny; gwthio arloesedd a gwelliannau mewn cynhyrchiant i sicrhau bod y DU yn parhau i gael diwydiannau amddiffyn a diogelwch cystadleuol, arloesol ac o’r radd flaenaf sy’n sail i’n diogelwch cenedlaethol ac yn sbarduno ffyniant a thwf ledled y DU.
Mae’r strategaeth newydd hon yn deillio o adolygiad traws-Lywodraethol, dan arweiniad y Weinyddiaeth Amddiffyn ond gyda mewnbwn ac arbenigedd gan adrannau eraill y llywodraeth. Mae’n nodi pecyn o newidiadau polisi, prosesau a deddfwriaethol ar draws meysydd caffael, cynhyrchiant a gwytnwch, technoleg ac arloesi, a chydweithredu rhyngwladol, allforio a buddsoddiad tramor. Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch yn gosod diwydiannau amddiffyn a diogelwch y DU fel galluoedd strategol yn eu rhinwedd eu hunain, ac yn nodi dulliau gweithredu penodol ar gyfer y segmentau gallu a thechnoleg penodol sydd bwysicaf i ddiogelwch cenedlaethol y DU.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2021 + show all updates
-
Added a Welsh translation of the Defence and Security Industrial Strategy executive summary.
-
First published.