Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch: Crynodeb Gweithredol
Diweddarwyd 26 Mawrth 2021
Mynd i’r afael â’r Bygythiad, Cyflawni ein Cyfrifoldebau.
Fel y mae’r Adolygiad Integredig yn ei nodi, mae gan y Deyrnas Unedig rôl fyd-eang a chyfrifoldebau byd-eang. Rydym yn Aelod Parhaol o’r Cenhedloedd Unedig, yn aelod blaenllaw o’r Gymanwlad, yn aelod hanfodol o NATO, ac yn gyfrannwr hanfodol at sicrwydd ehangach Ewrop, gyda pherthnasoedd parhaus â’n partneriaid yn Five Eyes a’n ffrindiau a’n cynghreiriaid niferus ledled y byd.
Fel y mae’r Papur Gorchymyn Amddiffyn yn egluro, mae’r rôl fyd-eang hon yn golygu bod yn rhaid i ni gadw Lluoedd Arfog er mwyn: atal a, lle bo angen, trechu bygythiadau milwrol y dyfodol; bod yn bresennol ac yn ddyfal; a bod yn hyblyg ac yn gallu addasu i’r newidiadau mewn rhyfeloedd ac ymgysylltiad byd-eang.
I wneud hynny, mae arnom angen sylfaen ddiwydiannol amddiffyn sy’n gynaliadwy i sicrhau bod gan y DU fynediad at y meysydd gallu mwyaf sensitif a gweithredol hanfodol ar gyfer ein diogelwch gwladol, a’n bod yn manteisio i’r eithaf ar botensial economaidd un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus ac arloesol yn niwydiant Prydain. Ar yr un pryd, gan gydnabod gwahanol nodweddion y sector diogelwch ehangach, rydym yn cydnabod y cyfleoedd i ddefnyddio dulliau gweithredu tebyg sy’n seiliedig ar fwy o dryloywder, cydweithio a gwell cyd-drefniant ar draws llywodraethau er mwyn cynyddu effaith ein cefnogaeth ar y sector diogelwch hefyd.
Nod y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch (DSIS) hon yw sefydlu perthynas fwy cynhyrchiol a strategol rhwng y llywodraeth a’r diwydiannau amddiffyn a diogelwch. Mae’r galluoedd diwydiannol hanfodol hyn yn ased strategol hollbwysig ynddynt eu hunain, ac mae’r llywodraeth yn rhoi sylw agos iddynt i sicrhau ein bod yn dal gafael ar ein hannibyniaeth weithredol. Er mwyn cefnogi’r diwydiannau hynny, mae’r llywodraeth yn croesawu buddsoddiad o dramor i feithrin gallu, cyflwyno technoleg a thechnegau newydd, a chreu gwaith.
Fel y mae’r Papur Gorchymyn Amddiffyn yn nodi, bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn buddsoddi cyfanswm o fwy na £210-billionn ar offer a chefnogaeth dros y degawd nesaf. Daw’r setliad hwn â sefydlogrwydd i’r rhaglen Amddiffyn, a rhy’r sicrwydd mae’r diwydiant ei angen i gynllunio, buddsoddi a thyfu. Bydd mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ynghyd â chydweithio agos â’r diwydiant yn ein galluogi i arbrofi a chyflwyno galluoedd newydd yn gyflymach i’r gwasanaeth, gan greu mantais filwrol a chyfleoedd economaidd.
Mae DSIS yn rhan o ymgyrch ehangach a chyson gan y llywodraeth i hyrwyddo ein diogelwch gwladol yn ei ystyr draddodiadol a’r twf economaidd sy’n sail i’r diogelwch hwnnw ac sy’n dibynnu arno. Rydym am sicrhau bod y DU yn parhau i feddu ar ddiwydiannau amddiffyn a diogelwch cystadleuol ac arloesol o’r radd flaenaf sy’n sail i’n diogelwch gwladol, yn sbarduno buddsoddiad a ffyniant ar draws yr Undeb, ac yn cyfrannu at fantais strategol drwy wyddoniaeth a thechnoleg. Mae gennym gyfle gwych nawr i bennu’r amodau ar gyfer cyflawni hynny, wrth i’r DSIS gael ei lansio yng nghyd-destun ehangach:
• Y fframwaith polisi cyffredinol a nodir yn yr Adolygiad Integredig, sy’n nodi uchelgais ar lefel newydd ar gyfer y DU, ynghyd â phenderfyniad i wynebu heriau cystadleuaeth systemig fyd-eang;
• Y buddsoddiad ychwanegol o £24bn mewn Amddiffyn dros y pedair blynedd nesaf, a’r cynlluniau ar gyfer y buddsoddiad hwnnw a nodir yn y Papur Gorchymyn Amddiffyn;
• Diwygio caffael ehangach, gan fanteisio ar y cyfle i foderneiddio a diweddaru’r rheoliadau;
• Newidiadau ehangach i bolisi’r llywodraeth (gan gynnwys y Llyfr Gwyrdd diwygiedig a pholisi caffael gwerth cymdeithasol newydd) i hyrwyddo twf economaidd sy’n cael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal ar draws y DU;
• Deddfwriaeth buddsoddiad a diogelwch gwladol newydd, i gynyddu gallu’r llywodraeth i ymchwilio a, lle bo angen, ymyrryd mewn achosion o uno, caffael a mathau eraill o drafodion a allai fygwth ein diogelwch gwladol.
Mae’r newidiadau hyn a’r polisïau a’r rhaglenni yn y DSIS ei hun, sydd wedi’u nodi’n fwy manwl isod, yn gyfle newydd i ddiwydiant y DU sefydlu ‘cylch rhinweddol’ lle bydd:
• Y chwistrelliad sylweddol o gyllid newydd, gan gynnwys o leiaf £6.6bn mewn Ymchwil a Datblygu Amddiffyn, yn sbarduno twf a datblygiad technoleg newydd yn uniongyrchol, sydd wedi’i chreu a’i masnacheiddio yn y DU er budd strategol;
• Gan gwmnïau, sy’n cael gwybod am ddatganiadau clir y llywodraeth ynghylch ei hanghenion diogelwch gwladol, ei chynlluniau a’i blaenoriaethau o ran technoleg, a gwell dealltwriaeth o sut mae’r llywodraeth yn gwerthuso cynigion y diwydiant, yr hyder i fuddsoddi mewn datblygu technoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd a gwella cynhyrchiant;
• Mae’r llywodraeth yn gweithio’n agosach gyda’r diwydiant i ddatblygu’r gallu o ran offer sydd ei hangen, yn ystyried y cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol ac allforio yn gynharach, ac yn cefnogi’r diwydiant yn fwy effeithiol (gan gynnwys drwy ymrwymo i gytundebau masnachol rhwng llywodraethau lle bo hynny’n briodol) er mwyn cynyddu’r gyfran o’r farchnad allforio ymhellach, sicrhau arbedion maint, cynnal y sylfaen sgiliau… …a dechrau’r cylch eto drwy annog ail-fuddsoddi pellach mewn ymchwil a datblygu, sgiliau ac offer, gan hybu cynhyrchiant a chystadleurwydd ymhellach byth.
Creu Ffyniant Economaidd, Atgyfnerthu’r Undeb, Sicrhau Tegwch
Yn yr un modd ag y mae’r Lluoedd Arfog yn gofalu am fuddiannau’r Deyrnas Unedig gyfan, mae’r diwydiant amddiffyn yn ymdrech wirioneddol ar draws yr Undeb. Mae gwariant y Weinyddiaeth Amddiffyn yn sicrhau mwy na 200,000 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol ledled y DU, tra bo llwyddiant y diwydiant o ran allforio (gyda’r DU yn ail allforiwr cynnyrch amddiffyn mwyaf y byd) yn cefnogi miloedd yn ychwanegol. Mae buddsoddi mewn amddiffyn yn atgyfnerthu’r Undeb, yn sicrhau tegwch yn y Deyrnas Unedig, yn gwella ein sylfaen sgiliau ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at Ymchwil a Datblygu cenedlaethol. Ochr yn ochr â’r sector amddiffyn, mae diwydiant diogelwch y DU wedi bod yn llwyddiannus gyda thwf sylweddol mewn gwerthiant dros y degawd diwethaf ac enillion allforio o £7.2 biliwn yn 2019. Yn yr un modd â’r diwydiant amddiffyn yn y DU, mae wedi buddsoddi’n helaeth mewn datblygu sgiliau gan gynnig tua 3,000 o brentisiaethau bob blwyddyn ac mae’n cael ei ledaenu’n eang ledled yr Undeb. Fodd bynnag, mae’r sector diogelwch yn llawer llai dwys (mae 95% ohono’n cael ei gynrychioli gan fusnesau bach a chanolig) ac yn llai dibynnol o lawer ar gaffael llywodraeth ganolog. Mae’r gwahanol nodweddion hyn yn gofyn gwahanol fathau o ymgysylltu a chymorth. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi’r sector hynod gystadleuol ac arloesol hwn gartref ac yn benodol o ran helpu i ganfod a chyflawni cyfleoedd i allforio dramor.
Diwydiant fel gallu strategol
Drwy’r DSIS byddwn yn cymryd agwedd fwy strategol tuag at allu diwydiannol sy’n hanfodol i’n hanghenion strategol a gweithredol. Bydd cystadleuaeth yn parhau’n arf pwysig i sicrhau gwerth am arian mewn sawl maes ac o fewn cadwyni cyflenwi, ond mae arnom angen hyblygrwydd yn ein strategaethau caffael i ddarparu a thyfu’r sgiliau, y technolegau a’r galluoedd ar y tir sydd eu hangen arnom, ac mae’n rhaid inni sicrhau ystyriaeth gyson o oblygiadau tymor hwy penderfyniadau caffael y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer gallu milwrol a’r diwydiant sy’n ei gynhyrchu a’i gefnogi.
Felly, rydym yn disodli’r hen bolisi ‘cystadleuaeth fyd-eang yn ddiofyn’ gydag agwedd sy’n fwy hyblyg a manwl sy’n mynnu ein bod yn mynd ati’n fwriadol i asesu’r marchnadoedd dan sylw, y dechnoleg rydym yn ei cheisio, ein gofynion diogelwch gwladol, y cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol, a’r cyfleoedd am ffyniant, cyn penderfynu ar y dull cywir o gaffael gallu penodol am oes.
Mae’r dull hwn yn caniatáu i adrannau amddiffyn a diogelwch ddefnyddio cystadleuaeth lle bo hynny’n briodol, yn ogystal â phennu lle gallai cystadleuaeth fyd-eang ar y lefel uchaf fod yn aneffeithiol neu’n anghydnaws â’n gofynion diogelwch gwladol. Yn y sefyllfaoedd hynny, efallai y bydd angen dull arall i sicrhau’r gallu sydd ei angen arnom ac i sicrhau gwerth am arian yn y tymor hir, ac efallai y byddwn, er enghraifft, yn dewis partneriaethau strategol hirdymor yn lle hynny. Ond ym mhob achos, byddwn yn dymuno sicrhau ein bod mor dryloyw a chynhwysol â phosibl ynghylch ein cynlluniau a’n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Er bod y DSIS yn nodi’r hyn sydd ei angen arnom ar y tir i fodloni ein gofynion milwrol, bydd sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y DU yn parhau i fod yn agored i weithio gyda chynghreiriaid a phartneriaid dibynadwy. Yn unol â Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM, bydd ein prosesau caffael amddiffyn a diogelwch yn ystyried yn benodol i ba raddau y mae’r opsiynau’n cyfrannu at flaenoriaethau polisi gwerth cymdeithasol sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, ac o dan ein polisi diwygiedig ar gyfranogiad diwydiannol byddwn yn annog ac yn cefnogi cyflenwyr amddiffyn, pa un a ydyn nhw â’u pencadlys yma neu dramor, i roi ystyriaeth ofalus i’r hyn y gellir ei gael o’r DU. Ond byddwn yn parhau i groesawu cwmnïau tramor a buddsoddiad yn y sylfaen ddiwydiannol ar y tir, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gyd-ddatblygu a chydweithio ar allu newydd lle bydd ein hanghenion yn cyd-fynd; yn wir, un o’r newidiadau y tu mewn i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fydd sicrhau bod cyfleoedd cydweithredol rhyngwladol yn cael eu hystyried yn gynt ac yn fwy systematig. Rydym hefyd yn cryfhau ein mesurau diogelu yn erbyn buddsoddiad niweidiol posibl drwy ddeddfwriaeth newydd, gan roi sicrwydd i’n partneriaid y bydd technoleg a ddatblygir ar y cyd yn cael ei diogelu.
I gefnogi gweledigaeth y llywodraeth, mae’r DSIS yn cyflwyno agenda uchelgeisiol ar gyfer newid polisi, diwygio a buddsoddi, ar draws pedwar prif faes, a nodir isod. Mae’r atodiad yn ychwanegu at hyn drwy roi darlun cliriach o’n gofynion diogelwch gwladol ar gyfer y prif segmentau, gan gynnwys nodi’r rheini sy’n ‘flaenoriaethau strategol’ i gael eu darparu ar y tir (niwclear, ‘crypt key’ a seiber ymosodol), a nodi lle, mewn segmentau eraill, mae galluoedd sylweddol y byddwn yn ceisio eu cynnal yn benodol yn y wlad hon er mwyn cynnal ein hannibyniaeth weithredol. Lle bo’n briodol, mae’r dadansoddiad segmentol wedi’i nodi ochr yn ochr â chynlluniau a phenderfyniadau buddsoddi’r llywodraeth (fel y nodir yn yr Adolygiad o Wariant ac yn fanylach yn y Papur Gorchymyn Amddiffyn) er mwyn dangos rhai o’r cyfleoedd ar gyfer diwydiant yn fwy manwl.
Polisi Caffael
Mae’r DSIS yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau deddfwriaethol, newidiadau polisi a thrawsnewidiadau mewnol a fydd, gyda’i gilydd, yn gwella cyflymder a symlrwydd caffael, yn darparu mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd rydym yn caffael ac yn cefnogi gallu, ac yn ysgogi’r broses o fanteisio ar arloesi a thechnoleg. Mae’r pecyn hwn yn canolbwyntio’n benodol ar y Weinyddiaeth Amddiffyn o ystyried ei rôl gyrru’r farchnad fel cwsmer, ond mae’n cynnwys cynyddu tryloywder a gwella cyfathrebu â’r diwydiant yn ehangach o ran blaenoriaethau amddiffyn a diogelwch y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys cryfhau grwpiau diwydiant-llywodraeth perthnasol fel y Bartneriaeth Twf Diogelwch a Chydnerthedd, y Fforwm Cyflenwyr Amddiffyn a’r Bartneriaeth Twf Amddiffyn. Mae’r elfennau eraill yn cynnwys y canlynol:
• Diwygio’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus Amddiffyn a Diogelwch fel rhan o adolygiad ehangach y llywodraeth o reoliadau caffael, yn bennaf er mwyn gwella cyflymder ac ystwythder y broses gaffael a’i theilwra i alluogi arloesedd yn well.
• Diwygio’r Rheoliadau Contractau Un Ffynhonnell i symleiddio’r drefn, cyflymu’r broses gontractio a chyflwyno ffyrdd newydd o gymell cyflenwyr i arloesi, cymryd risg a chefnogi amcanion y llywodraeth.
• Adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan Bortffolio Trawsnewid Caffael a Chymeradwyo’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar reoli yn ôl categori, defnyddio technoleg, newid diwylliannol a chynyddu gallu swyddogaeth fasnachol y Weinyddiaeth Amddiffyn.
• Cyhoeddi Cynllun Gweithredu BBaCh newydd y Weinyddiaeth Amddiffyn i nodi sut bydd yr adran yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig wneud busnes â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
• Cyflwyno strategaethau Eiddo Deallusol ym mhrosesau caffael y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer rhaglenni amddiffyn i gymell a rheoli risg yn well.
• Treialu polisi cyfranogiad diwydiannol diwygiedig ar gyfer caffael amddiffyn, i hyrwyddo cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar y tir i gwmnïau sy’n bidio am gontractau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Gwella Cynhyrchiant a Chydnerthedd y DU
Nod y DSIS yw cryfhau cynhyrchiant a chydnerthedd y sectorau amddiffyn a diogelwch, gan sicrhau bod y llywodraeth yn gallu manteisio ar y galluoedd y mae ei hangen, a sicrhau mwy o ffyniant i’r DU drwy welliannau mewn effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r diwydiant i ddeall y cadwyni cyflenwi cymhleth sy’n sail i alluoedd diogelwch gwladol, a gwella ein gallu i ddiogelu technoleg uwch a sensitif. Mae’r newidiadau’n cynnwys y canlynol:
• Meithrin mwy o wytnwch mewn cadwyni cyflenwi amddiffyn yn benodol drwy fapio cadwyni cyflenwi mwyaf critigol y Weinyddiaeth Amddiffyn a gwella’r broses o adrodd a rheoli risg ar draws rhaglenni hollbwysig, er mwyn sicrhau cyn lleied o effeithiau â phosibl ar gyflawni allbynnau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
• Gwella cynhyrchedd a chystadleurwydd sector amddiffyn y DU. Mae hyn yn cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn yn sefydlu Rhaglen Datblygu ac Arloesi Cadwyn Gyflenwi Amddiffyn.
• Datblygu’r Hyb Data Economaidd ar y Cyd, yn ogystal â Chanolfan Atebion Amddiffyn y DU, i wneud gwell defnydd o offer dadansoddi a data’r farchnad.
• Rhoi Bil Buddsoddiad a Diogelwch Gwladol ar waith a fydd yn cryfhau gallu’r DU i ymchwilio a, lle bo angen, ymyrryd mewn achosion o uno, caffael a thrafodion eraill a allai fygwth ein diogelwch gwladol.
• Diogelu cadwyni cyflenwi amddiffyn a thechnolegau sensitif rhag gweithgarwch niweidiol drwy weithio gyda chyflenwyr i sefydlu prosesau clir ac effeithiol sy’n hyrwyddo diogelwch mewn cadwyni cyflenwi.
• Gweithio gyda’r diwydiant i feithrin a datblygu sgiliau perthnasol yn y sectorau amddiffyn a diogelwch, gan gynnwys drwy rannu arbenigedd, ac allgymorth a chyfathrebu gan adrannau amddiffyn a diogelwch er mwyn canfod a denu talent posibl.
Technolegau newydd ac adferiad
Rhaid i’r Llywodraeth, ochr yn ochr â’r diwydiant a’r sectorau amddiffyn a diogelwch yn benodol, ddeall y cyfleoedd, y goblygiadau a’r dewisiadau sy’n deillio o ddatblygiadau technolegol sy’n datblygu’n barhaus, a gallu cael gafael ar dechnolegau newydd, a’u datblygu a’u defnyddio ar y cyflymder sy’n berthnasol er mwyn aros ar y blaen i fygythiadau newydd. Bydd y buddsoddiad uwch o £6.6bn o leiaf mewn ymchwil a datblygu amddiffyn dros y pedair blynedd nesaf yn galluogi hyn, a gallwn adeiladu ar hynny drwy gyfathrebu cliriach rhwng y diwydiant a’r llywodraeth, yn ogystal â’r diwygiadau caffael a grybwyllwyd uchod, er mwyn annog arloesedd ar draws yr Undeb ac ysgogi rhagor o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus.
Mae’r elfennau perthnasol yn cynnwys y canlynol:
• Hyrwyddo mwy o arweinyddiaeth gan y llywodraeth yn ogystal â chyfathrebu ynghylch anghenion galluogrwydd a datblygu ac ymchwil yn y dyfodol. Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer cydweithio ac ymgysylltu ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg amddiffyn, tra bo’r Bartneriaeth Twf Diogelwch a Chydnerthedd yn darparu fforwm ar gyfer gofynion technoleg wedi’u blaenoriaethu a meysydd o ddiddordeb o bob rhan o’r gymuned diogelwch gwladol ehangach sydd i’w cyfathrebu i’r diwydiant diogelwch.
• Datblygu strategaeth Deallusrwydd Artiffisial amddiffyn uchelgeisiol a buddsoddi mewn canolfan Deallusrwydd Artiffisial amddiffyn i gyflymu’r broses o fabwysiadu’r dechnoleg drawsnewidiol hon ar draws sbectrwm llawn ein galluoedd a’n gweithgareddau.
• Heriau Buddsoddi mewn Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA) i ddod o hyd i atebion arloesol i heriau allweddol.
• Ehangu’r Rhaglen Defnyddio Technoleg Amddiffyn sy’n cael ei threialu yng Ngogledd Iwerddon i fenter ledled y DU i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng busnesau bach a chanolig a chwmnïau blaenllaw.
• Cefnogi’r diwydiant a Phartneriaethau Menter Lleol i dreialu rhwydwaith o Glystyrau Amddiffyn a Diogelwch Rhanbarthol newydd.
• Drwy’r Gyfnewidfa Technoleg ac Arloesi Diogelwch Gwladol (NSTIx), treialu rhwydwaith o fannau cyd-greu a fydd yn dwyn ynghyd arbenigedd o’r radd flaenaf a chyfleusterau arbenigol o’r llywodraeth, y sector preifat a chymunedau academaidd blaenllaw.
• Gyda’r Fforwm Cyflenwyr Amddiffyn a’r byd academaidd, trafod pa fynediad pellach at arbenigedd, cyfleusterau a setiau data’r llywodraeth y byddai ei angen ar ddiwydiant a’r byd academaidd i gyflymu’r broses o ddatblygu atebion amddiffyn a diogelwch newydd.
Cydweithredu Rhyngwladol, Allforion a Buddsoddiad Tramor
Disgrifiodd yr Adolygiad Integredig amgylchedd byd-eang sy’n gynyddol gystadleuol, lle mae’n rhaid i’r DU chwarae rhan weithredol yn y gwaith o lunio trefn ryngwladol y dyfodol a chryfhau diogelwch rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu â’n cynghreiriaid a’n partneriaid o ran datblygu gallu amddiffyn a diogelwch ynghyd â materion diwydiannol a masnach cysylltiedig.
Yn fasnachol, fodd bynnag, efallai y bydd yr un cynghreiriaid yn aml yn cefnogi cystadleuwyr am allforion, ac mae’r DSIS hefyd yn bwrw ymlaen â ffocws o’r newydd ar sicrhau llwyddiant allforio ar bob cam, o ddiffinio gofynion i adeiladu pecynnau trawsadrannol a threfniadau masnachol rhwng llywodraethau i ddarparu cytundebau a sicrhau y bydd cwsmeriaid tramor bodlon yn parhau i fynnu’r cynnyrch o safon fyd-eang y gall ein diwydiannau eu darparu.
Mae’r newidiadau’n cynnwys y canlynol:
• Sefydlu blaenoriaethau clir ar gyfer cyfleoedd allforio a chydweithredu rhyngwladol ar gyfer y sectorau amddiffyn a diogelwch ac o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chyfrifoldebau clir i sicrhau bod cyfleoedd i addasu a chydweithio’n cael eu hystyried yn ddigon buan ym mhroses datblygu gallu’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
• Gwella ac arallgyfeirio ein partneriaethau strategol rhyngwladol, gan fanteisio i’r eithaf ar ein cysylltiadau rhyngwladol ar gyfer datblygu gallu a galluogi cydweithio diwydiannol, gan gynnwys drwy sefydliadau amlochrog fel NATO, cysylltiadau dwyochrog y DU, a grwpiau fel y Sylfaen Technoleg a Diwydiannol Cenedlaethol gyda’r UDA, Awstralia a Chanada.
• Sefydlu mecanwaith masnachol newydd rhwng llywodraethau ar gyfer allforion amddiffyn a diogelwch, a lefel newydd o gymorth trawsadrannol ar gyfer y sectorau amddiffyn a diogelwch, wedi’i arwain o’r brig gan Weinidogion ar draws DIT, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Swyddfa Gartref, BEIS a FCDO.
• Rhaglen drawsnewid gan yr Uned Rheoli Allforio ar y Cyd i wella tryloywder a phrofiad y cwsmer i allforwyr.
• Sefydlu’r Academi Allforio - Cyfadran Amddiffyn a Diogelwch, i roi mynediad i fusnesau bach a chanolig at yr arbenigedd rhanbarthol, ariannol a gwleidyddol maent ei angen i gynyddu eu cyfle o sicrhau busnes dramor.