Gwneud cais am orchymyn mabwysiadu: Ffurflen A58
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i fabwysiadu plentyn sy'n byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Dogfennau
Manylion
Adnabyddir y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn gyfreithiol fel ‘Ynysoedd Prydain’; y term a ddefnyddir ar y ffurflen.
Cael mynediad i’r ffurflen PDF
I gael mynediad i’r ffurflen a’i llenwi ar eich cyfrifiadur, bydd angen i chi ddefnyddio Adobe Acrobat Reader. Dilynwch y camau hyn:
- lawrlwythwch Adobe Reader am ddim
- defnyddwyr Windows – pwyswch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
- defnyddwyr Mac – pwyswch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save linked file as’ neu ‘Save link as’
- cadwch y ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft)
- agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen y gwnaethoch ei chadw
Os nad yw’r ffurflen yn agor, anfonwch neges e-bost i [email protected].
Darllenwch y nodiadau ar y dudalen hon i gael gwybod sut i lenwi’r ffurflen.
Darganfyddwch fwy am fabwysiadu plentyn.
I wneud cais am orchymyn mabwysiadu dan y Cytundeb (lle mae’r plentyn a’r mabwysiadwyr yn preswylio’n arferol mewn gwahanol wledydd, a’r gwledydd hynny yn wladwriaethau sy’n bartïon i Gonfensiwn Hague 1993), defnyddiwch Ffurflen A59.
I wneud cais i fabwysiadu plentyn sydd wedi’i ddwyn i’r DU i’w fabwysiadu o wlad nad yw’n wladwriaeth sy’n barti i Gonfensiwn Hague 1993, defnyddiwch Ffurflen A60.
Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd. Dod o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.
Darganfyddwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Gorffennaf 2022 + show all updates
-
Uploaded new Welsh language version of A58.
-
Added a Welsh page and Welsh version of the HTML
-
The eligibility criteria for applying at note 13 has been amended in the English and Welsh A58 notes documents.
-
Statement of truth amended on the form.
-
First published.