Ffurflen

Gwneud amddiffyniad neu wrth-hawliad (swm penodol): Ffurflen N9B

Amddiffyn hawliad am swm penodol o arian os ydych yn ei wrthwynebu, neu wneud gwrth-hawliad am arian os ydych yn meddwl bod arian yn ddyledus i chi gan yr hawlydd.

Dogfennau

Amddiffyniad a Gwrth-hawliad (swm penodol): N9B

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn addef rhan o’r hawliad ac yn amddiffyn y rhan arall, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen hon gyda Ffurflen N9 A: Cynnig talu arian sy’n ddyledus gennych chi i hawlydd. Mae yna derfynau amser llym ar gyfer cyflwyno’r ddwy ffurflen.

Darllenwch fwy am sut i ymateb i hawliad am arian.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y ‘Nodiadau i ddiffynnydd’ ar Ffurflen N1: Cyflwyno hawliad yn erbyn unigolyn neu sefydliad.

Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho dogfennau yn eich galluogi i wneud fwy o bethau, megis argraffu’r ddogfen.

Mae Adobe Reader yn feddalwedd rhad ac am ddim y gallwch ei ddefnyddio gyda dogfennau PDF. Gallwch ei ddefnyddio i’ch galluogi i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru i gael y treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.

  2. Cliciwch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.

  3. Cadwch y ffurflen (yn eich ffolder ‘dogfennau’, er enghraifft).

  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen sydd wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â [email protected].

Os oes arnoch angen fersiwn wedi’i argraffu o’r ffurflen cysylltwch â’ch llys lleol.

Chwilio am fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Darllenwch fwy am sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Awst 2024 + show all updates
  1. Added Welsh language version of the page

  2. Added Welsh translation of form N9B

  3. Updated the form N9B to include information around mandatory mediation for small money claims

  4. Updated N9B form added.

  5. First published.

Print this page