Papur polisi

Cynllun Gweithredu Bregusrwydd GLlTEF - Ebrill 2024

Diweddarwyd 8 Awst 2024

Cyflwyniad

Gall bod angen defnyddio un o’n gwasanaethau fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Gall fod yn her fwy fyth i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydym yn dweud bod pobl yn agored i niwed pan fyddant yn ei chael hi’n anodd ac angen cymorth ychwanegol. Gallai hyn fod yn anabledd, yn gyflwr iechyd meddwl neu’n brofiad sydd wedi gwneud i rywun deimlo’n anniogel.

Mae ein Cynllun Gweithredu Agored i Niwed yn dangos sut rydym yn bwriadu gwneud ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn hygyrch i bawb. Mae’n nodi’r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau nad yw ein defnyddwyr agored i niwed dan anfantais nac yn destun gwahaniaethu, wrth i ni ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau sy’n fwy agored i niwed, a’n partneriaid sy’n cefnogi grwpiau agored i niwed. Rydym yn gweithio i addasu a gwella ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac adrannau eraill y llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r lefel gywir o gymorth. Mae’n bwysig i ni y gall ein defnyddwyr agored i niwed bob amser gael mynediad at y system gyfiawnder yn ddiogel ac yn hyderus.

Cefndir

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Cynllun Gweithredu Agored i Niwed yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf, a gyhoeddwyd ddiwethaf gennym yn Hydref 2023.

Fel o’r blaen, mae’r cynllun hwn yn cynnwys ein gwaith i ddylunio gwasanaethau hygyrch yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth. Y rhain yw:

  • darparu cymorth i’n defnyddwyr agored i niwed gael mynediad at wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt a’u cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth pan fo angen
  • casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr agored i niwed
  • gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch i ddefnyddwyr agored i niwed.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein defnyddwyr agored i niwed yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau a byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:

Rydym yn parhau i gefnogi pobl agored i niwed i gael mynediad at wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt drwy wneud y canlynol:

  • sicrhau bod mesurau arbennig yn parhau i fod ar waith. Mae mesurau arbennig yn ddarpariaethau y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi defnyddwyr agored i niwed. Bydd y math o gymorth yn dibynnu ar yr achos neu’r gwrandawiad gan nad yw mesurau arbennig yr un peth ym mhob awdurdodaeth. Mae enghreifftiau o fesurau arbennig yn cynnwys darparu cyswllt o bell i roi tystiolaeth a defnyddio sgriniau yn y llys

  • darparu addasiadau rhesymol i ddefnyddwyr ag anableddau. Addasiad rhesymol yw’r enw a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 am rywbeth y gallwn ei roi ar waith i helpu defnyddwyr ag anableddau.  Mae enghreifftiau o addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu ein gwybodaeth mewn fformat amgen e.e. ar ffurf sain neu hawdd ei darllen, helpu rhywun i lenwi ffurflen neu ddarparu cadair i ddiwallu angen penodol defnyddiwr

  • darparu gwasanaethau cyfryngu os oes angen cymorth cyfathrebu ar ddefnyddwyr mewn gwrandawiad llys neu dribiwnlys. Arbenigwyr cyfathrebu yw cyfryngwyr sy’n gweithio ar ran GLlTEF i gefnogi pobl sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad llys neu dribiwnlys. Maent yn darparu argymhellion diduedd i GLlTEF am anghenion cyfathrebu penodol unigolyn ac yn amlinellu’r camau sydd eu hangen i’w cyflawni.

  • defnyddio dolen i’r gwrandawiad a rhoi gwybodaeth am wrandawiadau fideo i ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys dolen gwefan, manylion am sut i ymuno â’r gwrandawiad a beth i’w wneud os oes angen cymorth arnynt

  • cwblhau asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddeall effeithiau posibl newid ar ddefnyddwyr â nodweddion gwarchodedig.  Mae’n erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd oed, rhywedd, statws priodasol, ei bod yn feichiog, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig

  • cyhoeddi ystod o wybodaeth a chanllawiau ar GOV.UK i baratoi defnyddwyr a thawelu eu meddwl ynghylch dod i lys neu dribiwnlys

  • cyfeirio pobl at gymorth ychwanegol a fydd yn eu helpu. Gyda’r wybodaeth gywir, gallwn nodi anghenion y defnyddiwr a’u cysylltu â gwasanaethau cymorth allanol

  • darparu cortynnau gwddf y Blodyn Haul ar gyfer Anableddau Cudd. Mae pobl sy’n dewis gwisgo’r Blodyn Haul Anableddau Cudd yn nodi’n ochelgar eu bod angen cefnogaeth ychwanegol, cymorth neu ychydig mwy o amser.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud ers ein diweddariad diwethaf

Darparu cymorth i’n defnyddwyr agored i niwed gael mynediad at wasanaethau llys a thribiwnlys a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth pan fo angen

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • lansio cynllun newydd ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Digidol (We Are Group) sy’n cefnogi defnyddwyr ar ôl eu cais cychwynnol ar adegau allweddol yn eu taith. Mae hwn yn fyw ar hyn o bryd yn
    • Y Gwasanaeth Ysgaru
    • Gwasanaeth Un Ynad (SJS)
    • Hawliadau Arian Sifil Ar-lein (OCMC)
  • lansio cynllun Help i Dalu Ffioedd traws-awdurdodaethol wedi’i dargedu at y rhai mwyaf agored i niwed yn ariannol ym mis Tachwedd 2023. Gall y ceisydd sydd angen talu’r ffi, ei Gynrychiolydd Cyfreithiol neu Gyfaill Cyfreitha gyflwyno ceisiadau digidol a phapur newydd. Mae’r gwasanaeth yn cael cymorth gan gontract ‘We Are Group’
  • ymestyn y contract Gwasanaeth Tystion a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) gyda Chyngor ar Bopeth.

Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cyflwyno opsiwn sgwrsio dros y we ar gyfer defnyddwyr Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn yr Alban ac rydym yn monitro sut mae’n cael ei ddefnyddio. Mae cymorth i ddefnyddio’r system ar gael drwy ganolfannau gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth

  • cytunwyd y bydd gan bob rhanbarth bencampwr atal cam-drin domestig dynodedig

  • cwblhau hyfforddiant cam-drin domestig gyda staff gweithredol yn yr awdurdodaeth Teulu

  • parhau i brofi ceisiadau Cyfraith Teulu Breifat ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain i weld sut y gallwn wella’r system ar gyfer ceiswyr. Mae achosion Cyfraith Breifat rhwng aelodau’r teulu, megis rhieni neu berthnasau eraill ac nid ydynt yn ymwneud ag awdurdodau lleol.

Trosedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • parhau i gefnogi cyflwyno Gofynion Triniaeth Dedfryd Gymunedol (CSTR) a Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl (MHTR) ym mhob llys yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y gall y farnwriaeth ystyried Gofyniad Adsefydlu Defnyddwyr Cyffuriau (DRR), Gofyniad Triniaeth Alcohol (ATR) a Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl gofal eilaidd wrth ddedfrydu.

  • cynnal nifer o groesholiadau wedi’u recordio ymlaen llaw mewn cartrefi gofal neu breswylfeydd preifat ar gyfer unigolion nad ydynt yn gallu mynychu’r llys neu deithio. Fel arfer bydd y tystion hyn yn cael gofal diwedd oes neu â salwch gwanychol a fyddai’n arwain at beryglu eu tystiolaeth pe bai angen iddynt aros am y treial.

  • gwneud gwelliannau i’r tri llys Cymorth Trais Rhywiol Arbenigol (SSVS), gan gynnwys uwchraddio cyfleusterau a thechnoleg, i sicrhau bod mesurau arbennig yn gallu cael eu cynnwys yn well, a bod dioddefwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus

Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr agored i niwed

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cwblhau asesiadau mynediad at gyfiawnder a chyhoeddi’r hyn rydym wedi’i ganfod ar draws
    • Y Gwasanaeth Profiant
    • Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS)
    • Y Gwasanaeth Ysgaru a
    • Hawliadau Arian Sifil Ar-lein (OCMC)

Mae’r asesiadau hyn yn helpu i nodi rhwystrau cyffredin i gael mynediad at gyfiawnder, beth sy’n achosi’r rhwystrau hyn a beth allai helpu i’w dileu

  • parhau i gasglu data nodweddion gwarchodedig, a fydd yn ein helpu i gael dealltwriaeth lawnach o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) i wneud yn siŵr eu bod yn cael gwybod am orchmynion rhag molestu. Mae gorchmynion rhag molestu yn amddiffyn pobl rhag camdriniaeth neu aflonyddu. Bydd hyn yn helpu HMPPS i reoli ymddygiad troseddwyr i atal partïon gwarchodedig rhag cael cyswllt digroeso.

Gwneud ein gwasanaethau yn hygyrch i ddefnyddwyr agored i niwed

Traws-awdurdodaeth

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • profi’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo yn yr awdurdodaethau trosedd, sydd bellach yn fyw mewn 16 o safleoedd ar draws yr awdurdodaethau sifil, teulu a’r tribiwnlysoedd. Gyda chaniatâd y barnwr, mae gwrandawiadau fideo yn caniatáu i gyfranogwyr fynychu gwrandawiad o bell

  • cyhoeddi y byddwn yn gwario £220 miliwn i gynnal, gwella a moderneiddio ein hadeiladau i wella hygyrchedd ein hystad.

Sifil, Teulu a’r Tribiwnlysoedd

Rydym wedi gwneud y canlynol:

  • ei gwneud yn bosibl i bartïon wneud cais digidol am orchymyn ysgaru terfynol pan fo’r cais am ysgariad wedi’i wneud dros 12 mis yn ôl.