Dangosyddion perfformiad Siarter CThEF
Diweddarwyd 30 Gorffennaf 2024
Mae perfformiad yn erbyn Siarter CThEF yn cael ei fonitro gan safonau gwasanaeth penodol, arolygon cwsmeriaid a data eraill, sy’n gysylltiedig â mesurau perfformiad CThEF ehangach. Amlinellir y rhain isod yn erbyn pob safon yn y Siarter.
Mae’r holl ystadegau isod eisoes wedi’u cyhoeddi mewn mannau eraill, ac yn cael eu dwyn ynghyd yma o dan y Siarter ar GOV.UK i fod yn fwy tryloyw. Bydd y mesurau’n cael eu diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i Fframwaith Perfformiad CThEF yn y dyfodol.
Profiad cyffredinol cwsmeriaid CThEF
Bob blwyddyn, mae CThEF yn comisiynu arolwg cwsmeriaid annibynnol ar gyfer 5 grŵp cwsmeriaid: Unigolion, Busnesau Bach, Asiantau, Busnesau o faint Canolig a Busnesau Mawr. Mae’r arolygon hyn yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth o ran profiad cwsmeriaid a’u barn am y system gweinyddu trethi.
Yn 2023, mae’r cyfrannau o gwsmeriaid a oedd wedi ystyried eu profiad o ryngweithio â CThEF yn un cadarnhaol fel a ganlyn:
- 58% o unigolion (65% yn 2022)
- 70% o fusnesau bach (74% yn 2022)
- 53% o fusnesau o faint canolig (52% yn 2022)
- 81% o fusnesau mawr (81% yn 2022)
- 37% o asiantau (45% yn 2022)
1. Safon y Siarter: Cael pethau’n iawn
1.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Mae CThEF yn cael trafodion yn gywir
- 59% o unigolion yn cytuno (65% yn 2022)
- 73% o fusnesau bach yn cytuno (75% yn 2022)
- 61% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (57% yn 2022)
- 49% o asiantau’n cytuno (53% yn 2022)
Mae CThEF yn sicrhau bod pob cwsmer yn talu neu’n cael y symiau cywir
- 38% o unigolion yn cytuno (41% yn 2022)
- 51% o fusnesau bach yn cytuno (54% yn 2022)
- 68% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (66% yn 2022)
- 48% o asiantau’n cytuno (50% yn 2022)
Gwnaeth systemau CThEF atal camgymeriadau rhag digwydd
- 46% o unigolion yn cytuno (52% yn 2022)
- 51% o fusnesau bach yn cytuno (54% yn 2022)
- 41% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (43% yn 2022)
- 32% o asiantau’n cytuno (36% yn 2022)
Mae CThEF yn ymdrin â’ch busnes mewn ffordd fedrus
- 83% o fusnesau mawr yn cytuno (81% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau o faint canolig (yn agor tudalen Saesneg)
Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg)
1.2. Diweddariadau o ran perfformiad CThEF
2023 i 2024 | 2022 i 2023 | |
---|---|---|
Boddhad cwsmeriaid â’r gwasanaethau ffôn, sgwrs dros y we a digidol | 78.6% | 79.2% |
Nifer y cwynion a ddaeth i law | 92,206 | 91,217 |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2023 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg)
2. Safon y Siarter: Gwneud pethau’n hawdd
2.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Hwylustod wrth ddelio â materion treth
- 52% o unigolion yn cytuno (57% yn 2022)
- 70% o fusnesau bach yn cytuno (73% yn 2022)
- 58% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (56% yn 2022)
- 38% o asiantau’n cytuno (44% yn 2022)
Roedd yn hawdd dod o hyd i wybodaeth
- 51% o unigolion yn cytuno (57% yn 2022)
- 58% o fusnesau bach yn cytuno (60% yn 2022)
- 43% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (50% yn 2022)
- 45% o asiantau’n cytuno (46% yn 2022)
Mae’n hawdd delio â CThEF
- 71% o fusnesau mawr yn cytuno (69% yn 2022)
Mae CThEF yn gyson o ran y ffordd y mae’n trin eich busnes
- 83% o fusnesau mawr yn cytuno (83% yn 2022)
Gwnaeth CThEF ei gwneud yn amlwg pa gamau roedd angen i’ch busnes eu cymryd
- 66% o fusnesau bach yn cytuno (69% yn 2022)
- 62% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (61% yn 2022)
- 69% o fusnesau mawr yn cytuno (72% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau o faint canolig (yn agor tudalen Saesneg)
Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg)
2.2. Diweddariadau o ran perfformiad CThEF
Mae CThEF yn gwahodd pob cwsmer sy’n defnyddio gwasanaethau teleffoni, sgwrs dros y we a digidol i roi sylwadau ar eu profiad drwy lenwi arolwg o brofiad cwsmeriaid. Fel rhan o’r arolwg hwn, gofynnir ‘Pa mor hawdd oedd hi i wneud yr hyn yr oedd angen i chi ei wneud heddiw?’ Mae ‘Hawster Net’ yn cynrychioli cyfanswm yr ymatebion cadarnhaol (sef ymatebion megis ‘hawdd’ neu ‘hawdd iawn’), llai cyfanswm yr ymatebion negyddol (sef ymatebion megis ‘anodd’ neu ‘anodd iawn’). Mae hyn yn arwain at fynegrif sy’n amrywio o 100 (ymatebion cadarnhaol i gyd) i -100 (ymatebion negyddol i gyd).
2023 i 2024 | 2022 i 2023 | |
---|---|---|
Hawster Net – gwasanaethau ffôn, sgwrs dros y we, a digidol | 59.2 | 59.8 |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2023 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg)
3. Safon y Siarter: Bod yn ymatebol
3.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Gwnaeth CThEF ddatrys unrhyw ymholiadau neu faterion
- 55% o unigolion yn cytuno (63% yn 2022)
- 64% o fusnesau bach yn cytuno (69% yn 2022)
- 48% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (53% yn 2022)
- 37% o asiantau’n cytuno (41% yn 2022)
Mae’r amser a gymerir yn dderbyniol
- 55% o unigolion yn cytuno (62% yn 2022)
- 60% o fusnesau bach yn cytuno (62% yn 2022)
- 37% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (42% yn 2022)
- 23% o asiantau’n cytuno (27% yn 2022)
Gwnaeth CThEF ymateb o fewn amser rhesymol o safbwynt masnachol
- 57% o fusnesau mawr yn cytuno (51% yn 2022)
Gwnaeth eich rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid (CCM) ymateb o fewn yr amserlen a gytunwyd
- 82% o fusnesau mawr yn cytuno (80% yn 2022)
Gwnaeth eich CCM roi gwybod i’ch busnes am y diweddaraf ynglŷn â chynnydd mewnol y materion a godwyd
- 72% o fusnesau mawr yn cytuno (70% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau o faint canolig (yn agor tudalen Saesneg)
Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg)
3.2. Diweddariadau o ran perfformiad CThEF
2023 i 2024 | 2022 i 2023 | |
---|---|---|
Ymgeisiau y deliwyd â nhw gan ymgynghorydd teleffoni | 66.4% | 71.1% |
Gohebiaeth oddi wrth gwsmeriaid (Post ac iFfurflenni) wedi’i chlirio cyn pen 15 diwrnod iddi ddod i law | 76.3% | 72.7% |
Cyhoeddiad
Adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF: 2023 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg)
4. Safon y Siarter: Eich trin yn deg
4.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Mae CThEF yn trin cwsmeriaid/eich busnes yn deg
- 69% o unigolion yn cytuno (74% yn 2022)
- 80% o fusnesau bach yn cytuno (84% yn 2022)
- 69% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (69% yn 2022)
- 89% o fusnesau mawr yn cytuno (89% yn 2022)
- 62% o asiantau’n cytuno (68% yn 2022)
Mae CThEF yn codi cosbau a sancsiynau’n gyfartal
- 31% o unigolion yn cytuno (34% yn 2022)
- 38% o fusnesau bach yn cytuno (39% yn 2022)
- 53% o asiantau’n cytuno (49% yn 2022)
Mae CThEF yn sefydliad rwyf/mae fy musnes yn ymddiried ynddo
- 47% o unigolion yn cytuno (54% yn 2022)
- 65% o fusnesau bach yn cytuno (68% yn 2022)
- 49% o asiantau’n cytuno (55% yn 2022)
Mae rhyngweithio â CThEF dros y 12 mis diwethaf wedi meithrin ffydd yn CThEF
- 63% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (64% yn 2022)
- 70% o fusnesau mawr yn cytuno (71% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau o faint canolig (yn agor tudalen Saesneg)
Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg)
5. Safon y Siarter: Bod yn ymwybodol o’ch sefyllfa bersonol
5.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Mae CThEF yn groesawgar
- 52% o unigolion yn cytuno (61% yn 2022)
Mae’r wybodaeth a’r gwasanaethau a ddarperir gan CThEF wedi’u teilwra i’ch busnes
- 48% o unigolion yn cytuno (49% yn 2022)
- 50% o fusnesau bach yn cytuno (55% yn 2022)
- 35% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (31% yn 2022)
- 34% o asiantau’n cytuno (40% yn 2022)
Dealltwriaeth eich CCM o’r cyd-destun masnachol mae’ch busnes yn gweithredu ynddo
- 81% o fusnesau mawr yn cytuno (81% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg Cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg)
5.2. Nifer y trefniadau Amser i Dalu sydd ar waith
- 902,054 yn 2023 i 2024 (912,000 yn 2022 i 2023)
Cyhoeddiad
Data blynyddol yw hyn – gweler adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF 2023 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg) i gael y data diweddaraf.
6. Safon y Siarter: Cydnabod y gall rhywun eich cynrychioli
6.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Roedd CThEF wedi’i gwneud hi’n hawdd i rywun weithredu ar eich rhan
- 61% o unigolion yn cytuno (68% yn 2022)
- 78% o fusnesau bach yn cytuno (79% yn 2022)
Cyhoeddiad
7. Safon y Siarter: Cadw’ch data’n ddiogel
7.1. Canlyniadau arolygon cwsmeriaid CThEF 2023
Mae CThEF yn sicrhau bod data a gwybodaeth bersonol yn cael eu trin yn gyfrinachol
- 77% o fusnesau o faint canolig yn cytuno (78% yn 2022)
Cyhoeddiadau
Arolwg cwsmeriaid CThEF yn 2023 ar gyfer Busnesau o faint canolig (yn agor tudalen Saesneg)
7.2. Nifer yr achosion o ran diogelwch, a gafodd eu rheoli’n ganolog, a wnaeth effeithio ar ddata personol wedi’u diogelu yn CThEF
- un yn 2023 i 2024 (3 yn 2022 i 2023)
Cyhoeddiad
Data blynyddol yw hyn – gweler adroddiad a chyfrifon blynyddol CThEF 2023 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg) i gael y data diweddaraf.