Ffurflen gais taliad mesothelioma
Ffurflen gais am daliad ar gyfer mesothelioma neu afiechyd ysgyfaint arall.
Dogfennau
Manylion
Darllenwch ganllaw taliadau mesothelioma ymledol am wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais.
Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio taliad am fesothelioma neu afiechyd yr ysgyfaint arall. Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon.
Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen
Ni allwch gwblhau’r ffurflen hon trwy ddefnyddio ffôn symudol neu lechen. Mae’n rhaid i chi naill ai:
- defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
- argraffu’r ffurflen a’i gwblhau â llaw
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrin i gael mynediad at y ffurflen, rydym yn awgrymu eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a chwestiynau ar y ffurflen cyn ei gwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn ei roi.
Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn ddefnyddiwr Apple Macintosh, y rhaglen Preview.
Gallwch arbed gwybodaeth wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn golygu nad oes angen i chi lenwi’r holl ffurflen mewn un sesiwn.
Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all meddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.
Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os yw:
- wedi’i harbed ar eich cyfrifiadur
- ar agor mewn fersiwn gyfredol o ddarllenwr PDF
Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:
- fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
- rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC
Cymorth wrth ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon
Am gyngor a chefnogaeth ar y wybodaeth mae’n rhaid i chi roi ar y ffurflen neu am y budd-dal rydych am ei hawlio, cysylltwch â Chanolfan IIDB
Cysylltwch â DWP Online Helpdesk, os ydych yn cael trafferthion technegol wrth:
- lawrlwytho’r ffurflen
- llywio o gwmpas y ffurflen
- argraffu’r ffurflen
DWP Online Helpdesk
E-bost [email protected]
Ffôn 0800 169 0154
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau ac ar bob gwyl cyhoeddus a banc
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn fformat gwahanol
Cysylltwch â Chanolfan IIDB i ofyn am:
- copi o’r ffurflen wedi’i argraffu
- fformat gwahanol, fel print bras, braille neu CD sain
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Hydref 2023 + show all updates
-
Updating Welsh to match changes to English page
-
Updated the Mesothelioma payment claim form.
-
DWP have introduced a new Mesothelioma and other lung diseases interactive claim form. We have also provided new guidance about how to use the form, what to do if you cannot access the form, and how you can request a different format if you need to.
-
First published.