Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (CA5610)
Defnyddiwch y ffurflen bost i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 neu gwnewch gais ar-lein.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, gallwch:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM
Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i chwblhau’n rhannol felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Tachwedd 2015 + show all updates
-
An online service is now available.
-
Added translation