Trothwyau enillion tramor ar gyfer benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2
Dim ond pan fyddwch yn ennill mwy na'r trothwy ad-dalu y byddwch yn gwneud ad-daliadau i'ch benthyciad myfyriwr. Mae yna drothwyon ad-dalu gwahanol ar gyfer gwahanol wledydd.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i gwsmeriaid Cynllun 2. Rydych yn gwsmer Cynllun 2 os cawsoch gyllid gan:
- Student Finance England rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023
- Cyllid Myfyrwyr Cymru ar neu ar ôl 1 Medi 2012
Gallwch hefyd ddarganfod y trothwyon ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 1, Cynllun 4 ac ad-daliadau Benthyciad Ôl-raddedig. Gwiriwch pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.
Sut y gosodir y trothwyon ad-dalu tramor bob blwyddyn
Mae trothwyon tramor yn seiliedig ar gostau byw ym mhob gwlad unigol. Dyma pam nad yw’r trothwy ad-dalu bob amser yr un fath ag y mae ar gyfer y rheini yn y Deyrnas Unedig.
Defnyddir y Mynegai Lefelau Prisiau (PLI) i fesur y gwahaniaethau yn y lefelau prisiau cyffredinol ar gyfer pob gwlad, er enghraifft, costau bwyd, tai a thrafnidiaeth, er mwyn caniatáu i drothwy tebyg gael ei osod.
Pennir y trothwyon ad-dalu ar gyfer pob gwlad unwaith y flwyddyn ar 6 Ebrill. Gall newidiadau i hyn effeithio ar faint sydd angen i chi ei ad-dalu hyd yn oed os yw eich incwm wedi aros yr un fath.
Daw’r wybodaeth PLI o’r flwyddyn ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Fanc y Byd.
Sut rydym yn gweithio allan y gyfradd gyfnewid a ddefnyddir bob blwyddyn
Mae’r gyfradd gyfnewid a ddefnyddiwn i drosi eich cyflog i GBP yn seiliedig ar y cyfraddau cyfnewid arian cyfred cyfartalog ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan CThEF.
Caiff y rhain eu hadolygu bob blwyddyn ar 6 Ebrill. Ni fyddant yn dangos unrhyw newidiadau cyfradd o fis i fis.
Sut rydym yn cyfrifo eich cyflog blynyddol gros gan ddefnyddio eich slipiau cyflog
Os cewch eich talu’n fisol, byddwn yn defnyddio’ch incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog. Yna rydym yn lluosi hwn â 12 mis i gyfanswm eich cyflog blynyddol gros.
Enghraifft:
Incwm mis 1 | £2,500 |
Incwm mis 2 | £3,000 |
Incwm mis 3 | £2,750 |
£2,500 + £3,000 + £2,750 = £8,250
£8,250 / 3 = £2,750 cyflog misol cyfartalog
£2,750 x 12 mis = £33,000 o gyflog blynyddol gros
Os cewch eich talu’n wythnosol, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 12 wythnos diwethaf ac yn lluosi hwn â 52 wythnos i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.
Os ydych yn cael eich talu bob yn ail wythnos neu bob pythefnos, byddwn yn defnyddio’r incwm cyfartalog o’ch slipiau cyflog am y 6 wythnos ddiwethaf ac yn lluosi hwn â 24 wythnos (ar gyfer tâl bob yn ail wythnos) neu 26 wythnos (ar gyfer tâl bob pythefnos) i gyfrifo’ch cyflog blynyddol gros.
Bonysau a goramser
Bydd unrhyw fonysau, goramser, comisiwn a lwfansau:
- sydd yn daliadau untro yn cael eu hychwanegu at eich incwm blynyddol ar ôl iddo gael ei gyfrifo
- a dderbynnir yn rheolaidd yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm blynyddol.
Blwydd-dal pensiwn
Ni fydd taliadau blwydd-dal pensiwn yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn cyfrifo swm eich ad-daliad misol.
Os cewch eich talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn
Mewn rhai gwledydd mae gweithwyr yn cael eu talu mwy na 12 gwaith y flwyddyn.
Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn defnyddio’r incwm o’ch slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i gyfrifo’ch cyflog misol cyfartalog. Bydd hwn wedyn yn cael ei luosi â nifer y cyfnodau tâl mewn blwyddyn lawn i gyfrifo eich cyflog blynyddol gros.
Sut rydym yn cyfrifo eich amserlen ad-dalu
Rydym yn defnyddio’r tabl “trothwy ad-dalu tramor ar gyfer Cynllun 2” i gyfrifo swm eich ad-daliad, drwy ddefnyddio’r camau canlynol:
- Byddwn yn trosi eich cyflog blynyddol gros yn GBP drwy ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer y wlad rydych yn byw ynddi.
- Yna byddwn yn tynnu’r “trothwy ad-dalu (GBP)” ar gyfer y wlad honno o’ch cyflog blynyddol.
- Byddwch yn ad-dalu 9% o’r swm sy’n weddill. Caiff hwn ei rannu dros 12 mis i roi swm eich ad-daliad misol i chi.
Er enghraifft:
Rydych chi ar Gynllun 2, yn byw yn Sbaen ac mae gennych incwm o €33,000 y flwyddyn.
Trosir eich cyflog i GBP gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar gyfer Sbaen sef 0.869943:
€33,000 x 0.869943 = £28,708.11.
Y trothwy ad-dalu ar gyfer Sbaen yw £21,840.
Caiff hwn ei dynnu o’ch enillion blynyddol:
£28,708.11 - £21,840 = £6,868.11
Rydych yn ad-dalu 9% o’r ffigwr hwn (£6,868.11 x 0.09) sef £618.12.
Rhennir hyn yn 12 taliad misol o £51.51 (wedi’i dalgrynnu i lawr i £51).
Cadwch fanylion eich cyflogaeth yn gyfredol os ydych yn mynd dramor
Os ydych chi dramor am fwy na thri mis, mae angen i chi roi gwybodaeth i ni am sut rydych chi’n cynnal eich hun yn ariannol. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyflogaeth ar-lein, hyd yn oed i roi gwybod i ni eich bod yn ddi-waith. Bydd y gwasanaeth ar-lein yn dweud wrthych yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych chi.
Mae hyn yn ein galluogi i benderfynu a ydych ar fin dechrau gwneud ad-daliadau. Os ydych i fod i ddechrau ad-dalu, byddwn yn rhoi cynllun ad-dalu cywir i chi yn seiliedig ar eich enillion neu’n gohirio eich ad-daliadau am 12 mis os ydych yn ennill o dan y trothwy.
Os na fyddwch yn ein diweddaru, yna disgwylir yr ad-daliad misol sefydlog a ddangosir ar gyfer y wlad yr ydych yn byw ynddi bob mis ac efallai y codir y gyfradd llog uchaf arnoch ar falans eich benthyciad.
Os na wneir ad-daliadau, bydd balans gorddyledus yn cronni ar eich cyfrif.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Ebrill 2024 + show all updates
-
Corrections made to some countries' thresholds
-
Information has been updated for the 2024-25 tax year
-
Thresholds have been updated for the 2023-24 tax year
-
Overseas earnings threshold HTMLs have been updated for the 2022-23 tax year
-
More information to let foreign students self identify their plan type.
-
Updated the HTML attachments (English and Welsh) in line with the new overseas thresholds coming in for 2021/22 tax year
-
Updated threshold amounts for 2020-21
-
Added Welsh language translation.
-
First published.