Credydau Treth a Budd-dal Plant: caniatáu i rywun arall weithredu ar eich rhan (TC689)
Defnyddiwch ffurflen TC689 i awdurdodi rhywun arall (‘cyfryngwr’) i weithredu ar eich rhan mewn perthynas â’ch credydau treth a Budd-dal Plant.
Dogfennau
Manylion
Llenwch ffurflen TC689 os ydych am i gyfryngwr, megis canolfan Cyngor Ar Bopeth, weithredu ar eich rhan mewn perthynas â’ch credydau treth a’ch Budd-dal Plant.
Sylwer – ar ôl i gyfryngwr gael ei awdurdodi, mae’n cael gwneud newidiadau i’ch hawliadau ar eich rhan, gan gynnwys newid eich:
- cyfeiriad
- manylion banc
Peidiwch â defnyddio ffurflen TC689 i awdurdodi asiant taledig, megis cyfrifydd neu ymgynghorydd proffesiynol arall, i weithredu ar eich rhan. Dylech ddefnyddio ffurflen 64-8 yn lle hynny.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Hawlio credydau treth, ac ymdrin â nhw, ar ran rhywun arall
Arweiniad ar sut i ddelio â’r Swyddfa Credydau Treth ar ran rhywun arall.
Asiantau ac ymgynghorwyr treth: awdurdodi’ch asiant (64-8)
Defnyddiwch y ffurflen 64-8 i awdurdodi CThEM i ohebu â chyfrifydd, asiant neu ymgynghorydd treth sy’n gweithredu ar eich rhan.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2020 + show all updates
-
English and Welsh version of TC689 PDF and online form updated for use from 6 April 2020.
-
English and Welsh version of TC689 PDF and online form updated.
-
The details section has been updated with what changes an intermediary can make to your tax credits and Child Benefit claims.
-
A pdf version of form TC689 has been added to the page for intermediaries to use if a printed version is needed to complete with clients, for example during a home visit.
-
Welsh translation added.
-
First published.