Rhoi gwybod i CThEF pwy sy’n delio â’r ystâd pan mae rhywun yn marw
Rhowch fanylion am y person neu’r asiant a fydd yn delio â’r arian, meddiannau a’r eiddo pan fydd rhywun yn marw gan ddefnyddio ffurflen P1000.
Dogfennau
Manylion
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen CThEF hon i roi gwybod i ni am y canlynol:
- rydych yn gynrychiolydd personol yr ystâd
- hoffech i rywun arall weithredu ar eich rhan, fel cyfreithiwr neu gyfrifydd
Mae cynrychiolydd personol yn gyfrifol am ddod â materion rhywun sydd wedi marw i ben. Gall y rôl hon fod ar ffurf:
- ysgutor — a enwir yn yr ewyllys i ddelio â’r ystâd
- gweinyddwr (‘executor dative’ yn yr Alban) — sydd wedi’i benodi gan y llysoedd i weinyddu’r ystâd, fel arfer os nad oes ewyllys
I lenwi’r ffurflen hon, bydd angen i chi ei hargraffu a’i llofnodi a chynnwys rhif Yswiriant Gwladol y person a fu farw.
Os nad oedd ganddo rif Yswiriant Gwladol, bydd yn rhaid i chi gysylltu â ni drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os oes angen rhagor o help arnoch
Gallwch ddod o hyd i help a chyngor sy’n rhad ac am ddim drwy’r canlynol:
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Hydref 2024 + show all updates
-
References to the terms 'the above estate' and 'covering letter' have been removed from the P1000 postal form.
-
Added translation
-
First published.