Cynnal profion TB yn eich buches – Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Diweddarwyd 14 Chwefror 2024
Adran 1: Pam rydym yn cynnal profion
TB buchol
Mae TB buchol yn glefyd heintus, cronig sy’n effeithio ar anifeiliaid buchol (gwartheg, byfflos a buail) ac yn bennaf ar y system anadlu. Caiff ei achosi gan y bacteriwm Mycobacterium bovis (M. bovis) a all heintio moch daear, ceirw, geifr, moch a llawer o famaliaid eraill, gan gynnwys pobl.
Gall TB buchol ledaenu i wartheg mewn sawl ffordd, gan gynnwys cysylltiad â’r canlynol:
- anifail dof heintiedig (gwartheg eraill fel arfer)
- anifeiliaid gwyllt heintiedig (gan gynnwys moch daear)
- cyfarpar, porthiant, slyri halogedig
Y risgiau i bobl sy’n deillio o TB buchol
Er y gall pobl gael eu heintio gan M. bovis, mae’r rhan fwyaf o achosion o TB mewn pobl ym Mhrydain Fawr yn deillio o haint â’r basilws twbercwl dynol (M. tuberculosis). Mae’r basilws hwn yn perthyn yn agos i M. bovis ond caiff ei drosglwyddo drwy gysylltiad agos rhwng pobl yn hytrach na thrwy wartheg. Ar hyn o bryd ystyrir bod risg isel iawn y bydd pobl yn dal TB buchol o wartheg ym Mhrydain Fawr, ond mae achosion wedi cael eu cofnodi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r risg yn cynyddu os bydd pobl yn yfed neu’n bwyta llaeth neu gynhyrchion llaeth heb eu pasteureiddio.
I gael rhagor o wybodaeth am rheoli canlyniadau TB buchol o ran iechyd y cyhoedd.
Profi gwartheg am TB buchol
Mae gan Lywodraeth Cymru raglenni profi ar waith ar gyfer y canlynol:
- cadw gwyliadwriaeth (sgrinio gwartheg i weld a ydynt wedi’u heintio)
- rheoli achosion o TB, (lle y gwyddys fod y fuches yn cynnwys anifail/anifeiliaid heintiedig)
- lle amheuir bod haint
Mae’r rhaglenni profi hyn yn pennu statws TB y fuches ac yn hwyluso masnach mewn gwartheg a chynhyrchion, yn fewnol ac yn rhyngwladol. Cynhelir profion er mwyn:
- diogelu iechyd y cyhoedd
- nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio â TB a’i atal rhag lledaenu a
- gwneud yn siŵr na fydd gwartheg yn dioddef oherwydd TB
O dan y gyfraith mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n cadw gwartheg drefnu iddynt gael eu profi am TB buchol. Caiff gwartheg eu profi dros gyfnod sy’n briodol i nifer yr achosion o TB yn yr ardal lle mae’r fuches wedi’i lleoli a’r risg y mae’r fuches yn ei pheri, sy’n gysylltiedig â’r math o fusnes. Ar hyn o bryd caiff pob buches yng Nghymru ei phrofi o leiaf unwaith y flwyddyn. Caiff buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yng Ngorllewin Cymru eu profi o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Gweler Llywodraeth Cymru, TB gwartheg: map o’r ardal triniaeth ddwys am fanylion.
Mae mesurau gwyliadwriaeth effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff haint TB ei nodi’n gynnar. Mae angen gwneud hyn er mwyn i gamau allu cael eu cymryd i ddileu clefyd yn y fuches heintiedig, lleihau lledaeniad y clefyd a hwyluso masnach â gwledydd eraill.
Nid yw mesurau gwyliadwriaeth yn dibynnu ar brofion yn unig. Ceir hefyd ofynion o ran:
- rhoi gwybod am achosion clinigol amheus
- rhoi gwybod am friwiau amheus mewn archwiliadau arferol yn y lladd-dy ac mewn archwiliadau preifat ar ôl lladd
Pan roddir gwybod am achosion o’r fath bydd ymchwiliad, cyfyngiadau lle y bo angen ynghyd â phrofion ychwanegol.
Unwaith bod haint wedi’i nodi mewn buches, cynhelir profion ychwanegol, er mwyn nodi unrhyw anifeiliaid eraill yn y fuches sydd wedi’u heintio a dychwelyd y fuches i statws heb TB mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl. Drwy wneud hyn bydd llai o gyfle i’r clefyd ledaenu ymhellach o fewn buches neu o amgylch buches.
Cynhelir profion ychwanegol lle amheuir bod haint, naill ai mewn anifail unigol neu mewn buches oherwydd:
- adroddiad gan y lladd-dy yn nodi briwiau yr amheuir eu bod yn gysylltiedig â haint M bovis
- anifail sydd wedi’i nodi fel un sy’n symud o fferm lle mae TB yn bresennol
- haint mewn buches arall a all fod wedi lledaenu i anifeiliaid yn eich buches, naill ai oherwydd lleoliad neu ddulliau rheoli, megis rhannu cyfarpar
Adroddiad gan y lladd-dy
Weithiau caiff briwiau sy’n awgrymu TB eu canfod mewn anifeiliaid mewn archwiliad arferol yn y lladd-dy. Gelwir y rhain yn achosion lladd-dy. Os canfyddir briwiau o’r fath, caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau symud nes y cynhelir ymchwiliad arall a bydd eich swyddfa APHA leol yn trafod eich gofynion profi gyda chi.
Adweithyddion Amhendant
Gall dod o hyd i Adweithyddion Amhendant yn unig, heb unrhyw adweithyddion yn eich prawf buches blynyddol neu mewn prawf gwyliadwriaeth arall, fod yn arwydd cynnar bod eich buches wedi’i heintio. Caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau a rhaid ynysu’r Adweithyddion Amhendant rhag anifeiliaid eraill. Cynhelir profion pellach arnynt ac, os bydd pob un ohonynt yn glir, gellir codi’r cyfyngiadau ar y fuches.
Bydd APHA yn anfon llythyr yn esbonio’r cyfyngiadau a’r profion sydd angen eu cynnal atoch.
Profion cyn ac ar ôl symud
Rhaid i wartheg sy’n symud o fuches yng Nghymru gael canlyniadau prawf croen negatif o fewn 60 diwrnod cyn iddynt gael eu symud, a hynny er mwyn lleihau’r risg o ledaenu TB o un fuches i’r llall.
Rhaid i wartheg gael prawf ar ôl symud o 60 i 120 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd ardal TB Isel yng Nghymru, os ydynt yn dod o:
- ardaloedd eraill yng Nghymru
- ardaloedd risg uchel yn Lloegr
- ardaloedd ymylol yn Lloegr
- Gogledd Iwerddon
Rhaid i wartheg hefyd gael prawf ar ôl symud rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd yr ardaloedd TB canolradd yng Nghymru, os ydynt yn dod o:
- ardaloedd TB uchel yng Nghymru
- yr ardal risg uchel yn Lloegr
- Gogledd Iwerddon
Mae hyn er mwyn lleihau’r risg o ledaenu TB o ardaloedd lle mae nifer uchel o achosion TB i’r ardal TB isel a chanolradd.
Mynnwch wybodaeth am brofion cyn symud ac ar ôl symud ym Mhrydain Fawr a’r rhaglen dileu TB buchol.
Y gofyniad i gynnal profion
Bydd APHA yn anfon hysbysiad atoch er mwyn dweud wrthych pan fydd angen profi eich buches neu anifail penodol a bydd yn rhaid i chi i drefnu prawf TB buchol cyn y dyddiad y disgwylir i’r prawf hwn gael ei gynnal. Bydd eich buches yn cael ei gosod o dan gyfyngiadau symud (TB2) ar unwaith os bydd y prawf yn hwyr gan na fydd statws TB eich buches yn hysbys. Mae’r cyfyngiadau yn atal symud gwartheg ar eich safle neu oddi arno a byddant yn parhau mewn grym nes bod eich profion wedi cael eu cwblhau ac nad oes tystiolaeth o TB. Os bydd profion yn hwyr, ni chaiff trwyddedau yn awdurdodi symudiadau risg isel eu rhoi (dim goddefgarwch).
Efallai y caiff yr iawndal sy’n daladwy ar gyfer unrhyw adweithyddion a nodir mewn profion sy’n hwyr ei leihau.
Nid yw APHA yn anfon hysbysiadau ar gyfer profion cyn ac ar ôl symud. Bydd angen i chi drefnu’r rhain eich hun a thalu amdanynt pan fydd eu hangen.
Statws TB eich buches
Caiff buchesi sy’n rhoi canlyniadau negatif mewn profion gwyliadwriaeth arferol Statws heb TB Swyddogol (OTF).
Ym mhob achos lle y caiff anifeiliaid eu symud ymaith oddi wrth eich buches yn dilyn prawf croen a ganfu adweithyddion (neu adweithyddion amhendant mewn profion a gynhaliwyd yn olynol), caiff Statws Heb TB Swyddogol eich buches ei ddiddymu (OTFW). Rhestrir senarios isod, lle y caiff y statws ei atal, ond yn yr achosion hyn os canfyddir briwiau sy’n nodweddiadol o TB buchol mewn archwiliadau post mortem, neu os caiff yr organeb Mycobacterium bovis (M.bovis) ei nodi gan y prawf PCR (adwaith cadwynol polymerasau) (neu feithriniad, yn absenoldeb PCR), neu os canfyddir adweithyddion ar ôl cynnal profion croen pellach, yna caiff y statws ei ddiddymu. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn golygu y bydd angen cynnal profion ychwanegol ar eich buches cyn y gellir codi cyfyngiadau.
Atal: Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Atal (OTFS)
Caiff statws OTF eich buches ei atal o dan yr amgylchiadau canlynol:
- cwblheir prawf croen twbercwlin a nodir adweithyddion amhendant heb unrhyw adweithyddion i brawf croen
- canfyddir yr hyn yr amheuir eu bod yn friwiau TB mewn anifeiliaid yn ystod archwiliad arferol ar ôl lladd
- caiff arwyddion clinigol o TB eu canfod mewn anifeiliaid
- mae statws TB y fuches yn anhysbys am nad yw’r prawf croen twbercwlin arferol wedi cael ei gynnal
Ym mhob achos, caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau symud (TB2) a chynhelir profion pellach.
Diddymu: Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW)
Caiff statws OTF eich buches ei ddiddymu o dan yr amgylchiadau canlynol:
- cwblheir prawf croen twbercwlin â chanlyniadau positif mewn un anifail neu fwy
- mae anifail â chanlyniad adweithydd amhendant yn adweithydd amhendant ar adeg ei ailbrofi
- canfyddir briwiau sy’n nodweddiadol o TB mewn archwiliad post mortem o adweithyddion i’r prawf croen twbercwlin neu’r prawf gwaed TB, neu adweithyddion amhendant
- mae adweithyddion amhendant wedi’u datrys a symudwyd yn anghyfreithlon o Loegr i Gymru yn profi’n bositif i brawf gwaed TB
- caiff M. bovis ei nodi gan PCR, neu feithriniad, o samplau meinwe o unrhyw anifail yn y fuches
- cwblheir prawf gwaed gama interfferon ar adweithydd amhendant yn eich buches gyda chanlyniadau positif
- caiff statws eich buches ei atal am un o’r rhesymau a restrwyd uchod yn yr adran ar OTFS uchod ac ystyrir ei bod yn peri risg uchel
Caiff eich buches ei rhoi dan gyfyngiadau symud (TB2) a chynhelir profion pellach.
Gorfodi polisi TB
Pan gaiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau symud naill ai o ganlyniad i amheuaeth neu gadarnhad o TB neu o ganlyniad i brawf TB hwyr, bydd APHA yn hysbysu eich awdurdod lleol ac yn anfon copïau o’r hysbysiad iddo.
Os methir â chydymffurfio ag amodau hysbysiadau, profion cyn symud, profion ar ôl symud, trwyddedau neu ofynion profi TB, byddwch yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth a gall yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru ystyried cymryd camau gorfodi priodol.
Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y Gorchymyn TB wedi’i dorri, effeithir ar y ffordd y caiff iawndal ei gyfrifo am adweithyddion a gwartheg a laddwyd at ddibenion rheoli TB am gyfnod o chwe mis ar ôl torri’r Gorchymyn.
Camau gorfodi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Os bydd un o filfeddygon APHA o’r farn y dylai ceidwad gwartheg wneud rhywbeth neu roi’r gorau i wneud rhywbeth er mwyn atal TB buchol rhag lledaenu, caiff gyflwyno Hysbysiad Gofynion Milfeddygol (VRN) neu Hysbysiad Gofynion Bioddiogelwch (BRN) ar y ceidwad.
Camau gorfodi gan eich awdurdod lleol
Bydd eich awdurdod lleol yn dilyn ei bolisi gorfodi ac yn cymryd camau fel y bo’n briodol. Mae hyn yn amrywio o gyngor ar lafar a rhybuddion ysgrifenedig i ddwyn achos.
Mae troseddau wedi’u cwmpasu o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac mae cosbau yn cynnwys y canlynol:
- profion TB gorfodol ar draul y perchennog
- rhybudd ysgrifenedig
- dirwy nad yw’n fwy na £5,000 fesul trosedd
- tymor o garchar
Gall methiant i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth TB hefyd gael ei ystyried yn achos bwriadol o beidio â thrawsgydymffurfio a gallai arwain at leihau taliadau ar nifer o gynlluniau, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i’ch fferm.
Darllenwch fwy am y Cynllun Taliad Sylfaenol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Adran 2: Sut rydym yn cynnal y prawf TB
Y prawf Twbercwlin Serfigol Cymharol Intradermol Sengl (SICCT), sef y prawf croen twbercwlin fel y’i gelwir fel arfer, yw’r prif brawf TB buchol a ddefnyddir ledled Ewrop.
Defnyddir prawf gwaed TB gama interfferon ochr yn ochr â’r prawf croen o dan amgylchiadau penodol i helpu i nodi anifeiliaid ar gam cynharach o’r haint. Ers mis Mai 2018, mae mwy a mwy o ddefnydd wedi bod yn cael ei wneud o brawf gwaed Gwrthgyrff IDEXX, yn bennaf mewn buchesi lle mae achosion o TB wedi para am fwy o amser.
Y prawf croen twbercwlin
Y prawf twbercwlin yw’r safon a dderbynnir yn rhyngwladol ar gyfer canfod yr haint M. bovis. Ystyrir mai hwn yw’r prawf gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae wedi’i gynllunio i brofi ymateb imiwnedd yr anifail ac mae’n golygu chwistrellu ychydig o dwbercwlin (rhin protein diogel o M bovis) i mewn i groen yr anifail. Yn y mwyafrif o wartheg sydd wedi’u heintio â M. bovis, bydd hyn yn achosi i system imiwnedd yr anifail adweithio i’r twbercwlin ac arwain at adwaith alergaidd (chwyddo) ar y croen lle rhoddwyd y pigiad ychydig ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei wneud.
Weithiau caiff gwartheg eu heintio â mathau eraill o fycobacteria a all hefyd beri i’r anifail adweithio i’r prawf. Er mwyn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi’u heintio â M. bovis a’r rhai sydd wedi’u heintio â mathau eraill o fycobacteria, caiff pob anifail bigiad o rin o’r organeb a all achosi TB mewn adar ar yr un pryd hefyd.
Caiff y prawf ei archwilio 72 awr ar ôl y pigiadau. Caiff maint a natur yr adwaith i’r ddau fath o dwbercwlin (‘adar’ a ‘buchol’) eu cymharu er mwyn penderfynu a yw canlyniad y prawf yn un positif, negatif neu amhenodol.
Caiff eich prawf ei gynnal gan brofwr cymeradwy sydd wedi’i hyfforddi i gynnal y prawf croen twbercwlin, sef milfeddyg neu Brofwr Twbercwlin Cymeradwy o’ch practis milfeddygol enwebedig, un o filfeddygon APHA neu un o Swyddogion Iechyd Anifeiliaid APHA.
Paratoi ar gyfer y prawf
Bydd APHA yn anfon llythyr hysbysu am brawf sy’n rhoi manylion y prawf sydd ei angen.
O dan y gyfraith mae’n ofynnol i chi ddarparu cyfleusterau a chymorth priodol i’w gwneud yn bosibl i’r profwr gynnal y prawf.
Bydd prawf wedi’i gynllunio’n briodol, sy’n defnyddio cyfleusterau trafod sydd wedi’u cynllunio ac wedi’u hadeiladu’n dda, yn osgoi straen diangen i chi a’ch gwartheg, yn arbed amser ac, yn bwysicaf oll, bydd yn fwy diogel i bawb dan sylw.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r prawf, cysylltwch ag APHA Cymru neu’ch milfeddyg am gyngor.
Pa anifeiliaid y dylid eu profi
Bydd y llythyr hysbysu am brawf gan APHA yn nodi pa anifeiliaid sydd angen eu profi. Rhaid i chi sicrhau bod pob anifail cymwys yn cael ei gyflwyno i’w brofi.
Dull adnabod
Dylech sicrhau bod eich gwartheg wedi’u hadnabod yn gywir. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ond bydd hefyd yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i adnabod anifeiliaid unigol a chofnodi mesuriadau croen neu samplau gwaed yn erbyn yr anifail cywir.
Crynhoi
Er mwyn osgoi oedi, dylai eich gwartheg gael eu crynhoi yn barod ar gyfer y prawf. Os na fydd yn bosibl profi pob un o’ch gwartheg cymwys mewn diwrnod, rhaid i chi eu cadw yn yr un grwpiau ar wahân nes bod pob anifail wedi cael ei brofi.
Cofnodion
Dylech wneud yn siŵr bod y cofnod o’r gwartheg sydd yn eich buches yn gywir ac yn gyfredol ar y System Olrhain Gwartheg (SOG) sy’n cael ei gweithredu gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). Defnyddir y cofnod hwn yn aml gan y profwr i lawrlwytho rhestr o’r gwartheg sy’n gymwys i gael eu profi ac mae’n rhaid rhoi cyfrif am yr holl anifeiliaid ar y rhestr hon.
Efallai y gofynnir i chi ddarparu cofrestr eich buches a’ch cofnodion symud gwartheg a chofnodion meddyginiaethau milfeddygol, felly gwnewch yn siŵr eu bod ar gael i’w harchwilio.
Triniaethau milfeddygol a thasgau eraill
Tra bydd eich gwartheg wedi’u crynhoi efallai y byddwch am ymgymryd â thasgau rheoli eraill ond ni ddylai’r rhain ymyrryd â’r prawf. Dim ond ar ôl i anifeiliaid gael prawf clir y dylid rhoi meddyginiaethau milfeddygol arferol, megis meddyginiaethau dilyngyru neu frechlynnau.
Anifeiliaid sydd wedi cael eu profi o’r blaen
Mae’n bosibl bod anifeiliaid sydd wedi symud yn ddiweddar i’ch safle wedi cael prawf croen TB yn ystod y 60 diwrnod blaenorol. Os gallwch roi tystiolaeth o’r prawf hwn bydd angen i chi hysbysu’r sawl sy’n cynnal y prawf ac ni chaiff yr anifeiliaid hyn eu profi. Os na allwch roi tystiolaeth bydd angen iddynt gael eu profi ar ddyddiad sydd o leiaf 60 diwrnod ar ôl iddynt symud i’ch buches. Os na fyddwch yn siŵr, gofynnwch i’ch milfeddyg.
Cyfleusterau
Bydd angen cyfleusterau trafod ar gyfer dau ddiwrnod y prawf er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r anifail a brofir gael ei symud yn ddiogel, ei gyrraedd a’i reoli’n dda. Rhaid sicrhau bod gan y profwr fynediad diogel sydd wedi’i oleuo’n dda i wneud y canlynol:
- darllen a chofnodi tag adnabod yr anifail
- cneifio’r rhannau o’r gwddf lle y cynhelir y prawf
- mesur trwch y croen ar y rhannau o’r gwddf sydd wedi’u cneifio
- chwistrellu’r twbercwlin
Bydd angen i chi ddarparu cyfleusterau trafod addas ar gyfer y gwartheg sydd i’w profi, megis clwydi atal a system gorlannu, yn ddelfrydol wedi’u cysylltu’n ddiogel â chratsh ddefaid.
Dylai’r cyfleusterau hyn fod mewn cyflwr da ac yn briodol ar gyfer maint a brîd y gwartheg sydd i’w profi, er enghraifft wedi’u haddasu’n benodol os bydd angen trafod gwartheg Ucheldiroedd yr Alban neu wartheg Cyrn Hirion Os nad oes gennych glwydi atal na system gorlannu, dylech drefnu i gael benthyg un neu ei hurio. Er mwyn sicrhau nad ydych yn peryglu bioddiogelwch eich buches, na buches neb arall, dylai’r holl gyfarpar gael eu glanhau a’u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio.
Ceir cyngor ar trafod gwartheg, eu rheoli a’u cadw dan do yn addas ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Cymorth
Drwy roi digon o gymorth a chymorth profiadol priodol i helpu i symud grwpiau o wartheg i mewn i’r cyfleusterau trafod a thrwyddynt, bydd y prawf yn cael ei gynnal yn gynt gyda llai o straen i’ch anifeiliaid a llai o risg o anaf i bawb dan sylw. Ni fydd staff APHA fel arfer yn gallu helpu i grynhoi neu symud anifeiliaid.
Os byddwch yn methu â chyflwyno’ch gwartheg i’w profi’n ddiogel a bod y profwr o’r farn bod y cyfleusterau a’r cymorth a ddarparwyd yn annigonol, ni fydd y prawf yn mynd rhagddo nes bod y problemau wedi’u datrys. Gallai hyn olygu bod eich prawf yn mynd yn hwyr ac, os felly, caiff cyfyngiadau symud eu gosod.
Gweithdrefnau ar gyfer y prawf
Ar gyfer pob prawf:
- caiff yr anifail ei adnabod (drwy ei dag clust) a chofnodir ei fanylion adnabod
- caiff y blew eu cneifio i nodi dau fan chwistrellu yng nghanol ochr y gwddf, un uwchben y llall
- caiff trwch plyg y croen yn y ddau fan ei fesur gyda chaliperau a’i gofnodi mewn mm
- caiff twbercwlin ei chwistrellu i mewn i’r croen; twbercwlin adar i mewn i’r man uchaf, twbercwlin buchol i’r man isaf
- ar ôl 72 awr, bydd y profwr yn dychwelyd, yn cadarnhau manylion adnabod yr anifail eto, yn teimlo’r croen wrth ymyl y mannau chwistrellu ac yn ailfesur ac yn cofnodi unrhyw adweithiau eto, ac yn cofnodi canlyniadau’r prawf yn erbyn pob anifail
- ni chaniateir i wartheg sydd wedi cael pigiad twbercwlin symud oddi ar y safle nes i ganlyniadau’r prawf hwnnw gael eu darllen 72 awr yn ddiweddarach. Mewn achosion eithriadol, bydd APHA yn rhoi trwydded i ganiatáu symudiadau o’r fath
Y prawf gwaed gama interfferon ar gyfer TB
O dan amgylchiadau penodol, defnyddir y prawf gama interfferon ar y cyd â’r prawf croen er mwyn helpu i sicrhau y caiff anifeiliaid sydd wedi’u heintio â TB eu nodi’n gynnar a’u tynnu a lleihau’r risg y bydd y clefyd yn lledaenu ymhellach.
Y prawf croen twbercwlin yw’r prif brawf a ddefnyddir ledled y byd i sgrinio gwartheg ar raddfa fawr. Prawf cymeradwy ychwanegol yw’r prawf gama interfferon ac fe’i defnyddir ar sail cyngor milfeddygol mewn buchesi lle mae achosion difrifol o TB neu broblemau parhaus o ran TB neu mewn ardaloedd lle mae TB yn isel. Rhaid i rai o’r profion hyn gael eu cwblhau cyn y gellir codi’r cyfyngiadau symud oddi ar y fuches.
Yng Nghymru, dim ond staff APHA a all gynnal profion gama interfferon. Fel arfer, y Swyddog Iechyd Anifeiliaid fydd yn cymryd samplau gwaed o’ch gwartheg.
Caiff gwartheg sy’n cael prawf positif i’r prawf gama interfferon eu dosbarthu’n adweithyddion a chânt eu prisio a’u lladd yn yr un ffordd ag adweithyddion i’r prawf croen.
Ni ellir symud gwartheg y mae sampl wedi’i chymryd ohonynt er mwyn cynnal prawf gwaed TB arni oddi ar y safle nes i ganlyniadau’r prawf ddod i law. Mewn achosion eithriadol, bydd APHA yn rhoi trwydded i ganiatáu symudiadau o’r fath.
Prawf Gwrthgyrff IDEXX
Erbyn hyn mae mwy a mwy o ddefnydd hefyd yn cael ei wneud o brawf gwrthgyrff IDEXX ochr yn ochr â’r prawf croen a phrawf gama interfferon yng Nghymru i nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio â TB, yn enwedig mewn buchesi lle mae achosion o TB wedi para am amser hir.
Mae ymateb imiwnyddol anifail i haint â M.bovis, sef yr organeb sy’n gyfrifol am TB buchol, yn un cymhleth iawn ac ni fydd pob anifail sydd wedi’i heintio â TB yn ymateb yn bositif i’r prawf croen na phrawf gama interfferon.
Nod prawf IDEXX yw canfod gwrthgyrff, sef proteinau y mae’r system imiwnedd yn eu gwneud er mwyn helpu i ymladd haint. Cyn i’r sampl gwaed gael ei chymryd, dylai’r anifail fod wedi cael prawf croen 10-30 diwrnod ynghynt er mwyn ysgogi rhyddhau’r gwrthgyrff penodol hyn i M.bovis.
Ni ellir symud gwartheg y mae sampl wedi’i chymryd ohonynt er mwyn cynnal prawf gwaed TB arni oddi ar y safle nes i ganlyniadau’r prawf ddod i law. Mewn achosion eithriadol, bydd APHA yn rhoi trwydded i ganiatáu symudiadau o’r fath.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch am TB Buchol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch ag APHA Cymru i gael rhagor o gyngor a chanllawiau ymarferol.
Yn sgil datganoli pwerau iechyd a lles anifeiliaid mae nifer o wahaniaethau sylweddol wedi datblygu yn y polisïau o ran TB buchol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae gwefannau GOV.UK a Llywodraeth Cymru, Defra a Llywodraeth yr Alban yn rhoi’r manylion diweddaraf am y polisïau hyn.
Os ydych yn ffermio ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr neu Loegr a’r Alban dylech fod yn ymwybodol y bydd lleoliad eich anifeiliaid ar adeg y prawf yn dylanwadu ar y protocolau sy’n berthnasol i chi.