Diweddaru cyfeiriad cyswllt perchnogion cofrestredig (COG1)
Cadw eich manylion cysylltu gyda Chofrestrfa Tir EF yn gyfredol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn sicrhau bod y manylion cysylltu sydd gennym ar eich cyfer yn gyfredol. Mae hyn yn bwysig os yw eich eiddo eisoes yn gofrestredig. Rhaid i chi, y ceisydd, fod yn un o berchnogion cofrestredig yr eiddo y mae ei gyfeiriad yn cael ei ddiweddaru neu weithredu ar ran y perchnogion hynny.
Pan gawn gais mewn perthynas â’ch eiddo, efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch yn ei gylch. Os nad yw eich manylion yn gyfredol efallai na chewch ein llythyr neu ebost.
Gallwch roi hyd at dri chyfeiriad gwahanol i ni, gan gynnwys cyfeiriad ebost a chyfeiriad tramor. Gallwch lwytho’r ffurflen ganlynol i lawr a’i llenwi er mwyn ychwanegu cyfeiriad neu ddiweddaru eich manylion cysylltu presennol. Ni chodir ffi am y gwasanaeth hwn.
Mae’r ffurflen hon yn gymwys ar gyfer diweddaru cyfeiriad y perchennog/perchnogion cofrestredig yn unig.
Cyfeiriad
Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi i’n cyfeiriad safonol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Hydref 2023 + show all updates
-
We have amended section 4 to clarify that, while the first contact address must be a postal address, the second and third addresses can be either an email or a postal address.
-
We have made amendments to the form as a result of customer feedback and have added a checklist to the form.
-
We added a guidance note about our personal information charter, which explains how we process customer data.
-
The form has been amended as the address of our Citizen Centre has changed.
-
The leaflet and form have been amended as a result of a change to our email addresses.
-
Advice as to the completion of the form has been added.
-
The form has been amended to reflect the change of address of our Citizen Centre.
-
Added translation
-
Welsh guidance added.
-
Added translation