Adolygu achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) (adnabyddus hefyd fel y Sbardun Cymunedol)
Yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r Sbardun Cymunedol a sut mae gan ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yr hawl i wneud cais am adolygiad achos lle bodlonir trothwy lleol.
This page will be updated in due course to reflect updates to the English version.
Gwyddom, lle nad yw’n cael ei rwystro, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith lethol ar ei ddioddefwyr ac mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach.
Cyflwynodd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 fesurau penodol wedi’u dylunio i roi llais i ddioddefwyr a chymunedau yn y ffordd yr ymdrinnir â chwynion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae hyn yn cynnwys y Sbardun Cymunedol (adnabyddus hefyd fel Adolygu Achos ASB), sy’n rhoi hawl i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus a adroddwyd i unrhyw rai o’r prif asiantaethau cyfrifol (megis y cyngor, yr heddlu, darparwr tai) i wneud cais am adolygiad achos amlasiantaethol o’u hachos lle bodlonir trothwy lleol.
Mae gan asiantaethau, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, timau iechyd lleol a darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig ddyletswydd i ymgymryd ag adolygiad achos pan fydd rhywun yn gwneud cais am un a bod eu hachos yn bodloni trothwy wedi’i ddiffinio’n lleol.
Mae pob ardal yn dewis prif asiantaeth i reoli’r broses, fel rheol y cyngor neu’r heddlu.
Sut mae’n gweithio
Mae’r mecanwaith ar gyfer cynnal yr adolygiad achos wedi’i osod yn lleol.
Gellir cael cwynion naill ai’n uniongyrchol gan ddioddefwyr yr ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gan drydydd parti (gyda chaniatâd y dioddefwr), megis aelod o’r teulu, cyfaill neu gynrychiolydd etholedig lleol (cynghorydd neu AS).
Gall y dioddefwr fod yn unigolyn, busnes neu grŵp cymunedol.
Mae pob ardal leol yn gosod trothwy y mae’n rhaid ei fodloni er mwyn defnyddio’r sbardun. Rhaid i’r trothwy gynnwys:
- amlder y cwynion
- ac effeithiolrwydd yr ymateb
- niwed posibl i’r dioddefwr neu’r dioddefwyr sy’n cyflwyno’r gŵyn
Mae’r trothwy yn ymwneud â’r digwyddiadau a adroddwyd, yn hytrach nag a wnaeth yr asiantaeth ymateb ai peidio. Ni ddylai’r trothwy fod dim uwch na thair cwyn, ond gall asiantaethau ddewis trothwy is. Os cyflwynwyd y cwynion cymhwysol, rhaid cynnal adolygiad achos i bennu digonolrwydd ymateb yr asiantaethau.
Y cyrff perthnasol a’r awdurdodau cyfrifol sy’n ymgymryd â’r adolygiad achos yw:
- Cynghorau
- yr Heddlu
- Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru
- Darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig sy’n gyfetholedig i’r grŵp hwn
Y Broses
Pan wneir cais am Adolygiad Achos ASB, rhaid i asiantaethau benderfynu a yw’r trothwy wedi’i fodloni a rhoi gwybod i’r dioddefwr.
Mae’r adolygiad yn annog dull gweithredu datrys problemau wedi’i dargedu at ymdrin â rhai o’r achosion mwyaf parhaus a chymhleth o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dylid bob tro rhoi ystyriaeth i sut gall dioddefwyr fynegi orau’r effaith mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i chael ar eu bywydau.
Os bodlonir y trothwy
Bydd adolygiad achos yn cael ei gynnal gan y cyrff perthnasol. Bydd asiantaethau yn rhannu gwybodaeth mewn perthynas â’r achos, adolygu pa gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd eisoes a phenderfynu a oes camau gweithredu ychwanegol y gellir eu cymryd. Dylai’r weithdrefn Adolygu Achos ASB leol nodi’n glir yr amserlenni ar gyfer cynnal yr adolygiad.
Lle mae’r rhan fwyaf o gynrychiolwyr asiantaeth wedi bod ynghlwm ag achos penodol, dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys unigolyn annibynnol yn yr adolygiad i ddarparu persbectif allanol neu ffres ar yr achos a’r camau gweithredu sydd wedi’u cymryd. Yn ogystal, dylid rhoi ystyriaeth i a ddylai cyfarfodydd gael eu cadeirio gan arweinydd annibynnol sydd â hyfforddiant addas.
Dylai asiantaethau lleol perthnasol ystyried gwahodd y dioddefwr i fynychu’r adolygiad achos i helpu holl aelodau’r panel i ddeall y lefel o niwed ac effaith. Mae bob tro yn arfer dda cynnwys rhywun yn yr adolygiad achos i gynrychioli’r dioddefwr, megis Cymorth i Ddioddefwyr neu sefydliad arall sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr yn yr ardal leol neu gynrychiolydd y dioddefwr.
Yna, caiff y dioddefwr wybod canlyniad yr adolygiad. Lle mae camau gweithredu pellach yn angenrheidiol, bydd cynllun gweithredu yn cael ei drafod gyda’r dioddefwr, gan gynnwys amserlenni.
Rhaid i’r weithdrefn sbardun cymunedol gynnwys proses i’r dioddefwr gael apelio os ydyw’n anfodlon gyda’r modd y cynhaliwyd adolygiad achos o sbardun cymunedol, neu gyda’r penderfyniad ynglŷn ag a fodlonwyd y trothwy ai peidio.
Rhaid i gyrff perthnasol ymateb i’r dioddefwr ar adegau penodol yn y broses. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y penderfyniad ynghylch a yw’r trothwy yn cael ei fodloni
- canlyniad yr adolygiad
- unrhyw argymhellion a wnaed fel canlyniad i’r adolygiad
Pan ystyrir bod y dioddefwr yn arbennig o agored i niwed, dylai’r cyrff perthnasol ystyried a ellir cynnig rhagor o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r dioddefwr.
Os na fodlonir y trothwy
Er na fydd y gweithdrefnau ffurfiol yn cael eu rhoi ar waith, mae hyn yn rhoi cyfle i’r cyrff perthnasol adolygu’r achos i bennu a oes rhagor y gellir ei wneud.
Cyhoeddi data
Mae gan asiantaethau ddyletswydd i gyhoeddi data mewn perthynas â’r nifer o sbardunau a gafwyd, sawl un a oedd yn bodloni’r trothwy, a’r nifer a arweiniodd at gamau gweithredu pellach. TMae hyn er mwyn sicrhau tryloywder y system ac i beidio â barnu perfformiad yr asiantaethau mewn perthynas â gwaith achos ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rhaid cyhoeddi’r data hwn yn flynyddol o leiaf, er gall y cyrff perthnasol ddymuno cyhoeddi data yn fwy aml, neu gyhoeddi manylion ychwanegol. Ni ddylai gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi gynnwys manylion a allai adnabod dioddefwyr.
Gwneud cais am Sbardun Cymunedol
Bydd eich heddlu lleol neu gyngor lleol yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynglŷn â’r broses Sbardun Cymunedol yn eich ardal.
Dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â Sbardun Cymunedol
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllaw statudol i gefnogi defnydd effeithiol o’r pwerau ac i gynorthwyo’r gweithwyr proffesiynol hynny ar y rheng flaen sy’n gallu defnyddio’r pwerau i ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd lleol. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut gellid trefnu cyfarfodydd a gynhelir fel rhan o’r broses Sbardun.
Yn ogystal, gallwch gael cymorth a chyngor yng Nghymru a Lloegr gan sefydliadau megis:
- ASB Help - mae ganddynt Addewid rehefyd, sy’n gofyn i asiantaethau lleol ymgorffori canllaw arfer orau ASB Help yn eu polisïau a’u gweithdrefnau sbardun cymunedol mewnol.
- Resolve
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- The Knowledge Hub - llwyfan rhannu gwybodaeth i’r heddlu ac ymarferwyr, felly bydd angen cyfeiriad e-bost yr heddlu neu .gov arnoch i gael mynediad
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Mawrth 2023 + show all updates
-
Community Trigger has been renamed to anti-social behaviour (ASB) case review as one of the measures implemented from the ASB action plan.
-
Updated according to the new version of the 'Anti-social behaviour powers: statutory guidance for frontline professionals' published on 28 June 2022.
-
Updated guidance on community trigger, publishing data and case reviews.
-
Welsh translation added.
-
First published.