Labelu cig eidion a chig llo: beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cydymffurfio
Beth fydd yn digwydd os bydd arolygydd yn canfod eich bod yn torri'r rheoliadau ynglŷn â labelu cig eidion yn orfodol neu'n wirfoddol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Os nad ydych yn dilyn y Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol neu’r Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy, rhaid i chi roi’r gorau i werthu eich cig eidion a chig llo tan y byddant wedi’u labelu yn gywir.
Os na allwch labelu’r cig yn ddigonol gan nad oes digon o wybodaeth i’w olrhain, efallai y cewch ei werthu ymlaen yn uniongyrchol i’w brosesu’n gynhyrchion nad ydynt wedi’u cwmpasu gan y rheolau labelu gorfodol.
Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd camau pellach i gywiro’r tor-rheol hefyd.
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r rheolau labelu cig eidion angenrheidiol, gallech wynebu camau gweithredu gorfodi gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig neu eich awdurdod lleol.
Gall peidio â chydymffurfio arwain at y canlynol:
- cyngor ar lafar
- llythyrau rhybuddio
- hysbysiadau gorfodi
- erlyniad troseddol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mai 2016 + show all updates
-
Information on this page about not being able to adequately label the meat because there is not enough information to trace it have been updated.
-
First published.