Canslo’ch cofrestriad ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Sut i ddatgofrestru ar gyfer y dreth, cyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol a hawlio treth yn ôl os nad ydych bellach wedi’ch cofrestru.
Os nad ydych bellach yn agored i’r Dreth Deunydd Pacio Plastig, mae’n rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad. Gelwir hyn yn ddatgofrestru ar gyfer y dreth.
Sut i ganslo
Gallwch ofyn ar-lein i CThEF eich datgofrestru rhag y dreth. Bydd angen i chi ddewis y rheswm dros gredu nad ydych yn agored i’r dreth mwyach.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
- cyfeirnod Treth Deunydd Pacio Plastig
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 28 diwrnod gwaith i ni adolygu’ch cais.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eich datgofrestriad a’r dyddiad y daw hyn i rym.
Bydd angen i chi gadw’r holl gofnodion hyd at eich datgofrestriad am chwe blynedd.
Cyflwyno eich Ffurflen Dreth derfynol
Unwaith i chi ddatgofrestru, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig derfynol ar gyfer y cyfnod hyd at ddyddiad eich datgofrestriad.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y dreth
- eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Rhaid i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn rhoi gwybod amdano fan bellaf.
Os ydych wedi’ch datgofrestru ar gyfer y dreth ac angen hawlio treth yn ôl
Gallwch ofyn am ad-daliad os darganfyddwch yn ddiweddarach fod cydrannau deunydd pacio plastig y gwnaethoch dalu treth arnynt wedi cael eu:
- hallforio
- trosi’n gydran deunydd pacio plastig gwahanol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Hydref 2022 + show all updates
-
You can now cancel your registration for Plastic Packaging Tax using your business tax account.
-
A Welsh translation has been added
-
First published.