Canllawiau

Ysgwyddo cyfrifoldeb dros dro ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os bydd marwolaeth neu analluogrwydd

Beth i’w wneud os bydd rhywun sydd wedi cofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig yn marw neu’n dod yn analluog.

Gallwch ysgwyddo cyfrifoldeb dros dro am ddelio â’r Dreth Deunydd Pacio Plastig ar ran person arall os bydd y person sydd wedi cofrestru ar gyfer y dreth:

  • yn marw
  • yn datblygu analluogrwydd

Os bydd eich sefydliad yn mynd yn ansolfent, gallwch roi gwybod i CThEF am ansolfedd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Sut i roi gwybod i CThEM

Mae angen i chi roi gwybod i CThEM cyn pen 21 diwrnod i ysgwyddo cyfrifoldeb dros dro a darparu tystiolaeth bod gennych awdurdod i weithredu mewn cysylltiad â’r busnes.

Sut i roi gwybod am farwolaeth neu analluogrwydd

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn llenwi’r ffurflen. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud ymholiad am y Dreth Deunydd Pacio Plastig.

Bydd angen i chi hefyd roi manylion y busnes a’r person cofrestredig.

Os yw’r person wedi marw, bydd angen i chi gadarnhau bod gennych gopi o’i dystysgrif marwolaeth neu dystiolaeth arall o ddyddiad y farwolaeth.

os oes gan y person analluogrwydd, bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • sut y cafodd yr analluogrwydd
  • y dyddiad y cafodd yr analluogrwydd

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi roi gwybod i CThEM

Pan fydd CThEM wedi derbyn y cais, bydd y driniaeth dros dro yn para am gyfnod o 6 mis neu nes bod gweithgareddau’r busnes wedi’u setlo a bod y driniaeth dros dro yn dod i ben.

Bydd y driniaeth dros dro yn dod i ben naill ai:

  • pan fydd person cyfrifol newydd ar gyfer gweithgareddau’r busnes
  • pan nad oes gan y person analluogrwydd mwyach ac mae’n ailgydio yng ngweithgareddau’r busnes

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Rhagfyr 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. We have removed guidance about insolvency and added a new link to a new guidance page and form, to tell Tell HMRC about an organisation's insolvency for Plastic Packaging Tax purposes.

  3. Information about how to inform HMRC that you are temporarily taking over responsibility for dealing with Plastic Packaging Tax has been updated.

  4. Added translation

Print this page