Canllawiau

Gwirio a yw e-bost rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys

Gwiriwch restr o negeseuon e-bost diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw’r e-bost a gawsoch yn sgam.

Os nad yw’ch e-bost wedi’i restru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.

Crynodeb Treth Blynyddol

Mae tîm Hunanasesiad CThEF yn anfon e-byst hysbysu at rai cwsmeriaid i roi gwybod iddynt fod eu Crynodeb Treth Blynyddol ar gael i fwrw golwg drosto. Teitl yr e-byst yw ‘Mae’ch Crynodeb Treth Blynyddol yn barod’ neu ‘Your Annual Tax Summary is ready’.

Mae’r e-byst hefyd yn esbonio’r hyn sydd yn y crynodeb blynyddol ac ni fyddant byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Rhoi gwybod fel busnes o dan Reoliadau IFRS 17 — Gwybodaeth am Ffurflen Dreth y Cwmni

O 28 Hydref 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2024, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.

Mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost gan CThEF ynghylch yr effeithiau treth a godir o ganlyniad i’r safon cyfrifyddu newydd ar gyfer contractau yswiriant — IFRS 17.

Bydd yr e-bost yn:

  • amlinellu pwyntiau allweddol y Rheoliadau IFRS 17 newydd
  • rhoi gwybodaeth bwysig arall

Bydd yr e-bost hefyd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg i helpu CThEF i ddeall effeithiolrwydd yr ohebiaeth ynghylch IFRS 17. Ni fydd yr arolwg yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol.

Busnesau sy’n gwerthu nwyddau drwy farchnadoedd ar-lein yn y DU

Mae CThEF yn cysylltu â busnesau sy’n gwerthu nwyddau i gwsmeriaid yn y DU drwy farchnadoedd ar-lein. Mae’r e-byst yn cyfeirio at ymrwymiadau o ran TAW yn y DU. Bydd yr e-bost cyntaf yn egluro pam y mae CThEF yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi gysylltu â CThEF.

Y diweddaraf ynghylch hawlio Budd-dal Plant

O 8 Gorffennaf 2024 ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi os ydych wedi gwneud hawliad am Fudd-dal Plant i gadarnhau bod eich hawliad wedi dod i law a’i fod yn symud yn ei flaen. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi’i ddarparu. Teitl yr e-byst yw ‘Diolch — rydym wedi cael eich hawliad am Fudd-dal Plant’.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.

Os ydych eisoes wedi cysylltu â CThEF ynghylch Budd-dal Plant, gallwch wirio statws eich hawliad.

Cylchlythyr ar gyfer cyfryngwyr tollau

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd CThEF yn anfon cylchlythyr bob chwe wythnos drwy e-bost at y sector cyfryngwyr tollau — er enghraifft, trefnwyr anfon nwyddau, broceriaid tollau, a chwmnïau cludo parseli’n gyflym. Bydd yr e-byst yn rhoi’r newyddion diweddaraf sy’n effeithio ar y sector cyfryngwyr tollau.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.

Bwletinau’r Cyflogwr

Mae CThEF yn anfon bwletin gwybodaeth sawl gwaith y flwyddyn at gyflogwyr sydd wedi’u cofrestru i’w gael. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Bydd e-byst a anfonir gan CThEF:

  • efallai’n cynnwys y teitl ‘Gwybodaeth bwysig i gyflogwyr’ neu ‘Important information for employers’

  • yn cynnwys cysylltiadau i dudalennau CThEF ar wefan GOV.UK, gan gynnwys cyngor ar ddiogelwch ar-lein

Help a chymorth

Mae CThEF yn anfon negeseuon e-bost at gwsmeriaid i gynnig help a chymorth. Bydd yr e-byst weithiau’n cynnwys cysylltiadau i gynhyrchion digidol ar-lein, fel gweminarau, fideos YouTube neu ganllawiau ar-lein CThEF.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Cymorth i Gynilo — talu i mewn i’ch cyfrif

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn e-bostio rhai cwsmeriaid sydd wedi agor cyfrifon Cymorth i Gynilo. Bydd yr e-byst yn atgoffa cwsmeriaid sydd heb dalu unrhyw arian i’w cyfrif o fanteision defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.

Cymorth i Gynilo — efallai eich bod yn gymwys

O 1 Ionawr 2025 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2027, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost.

Mae CThEF yn anfon e-byst at gwsmeriaid Credyd Cynhwysol, a allai fod yn gymwys, i roi gwybod iddynt y gallant agor cyfrif Cymorth i Gynilo a chael hyd at £1200 o fonws di-dreth.

Bydd yr e-bost yn:

  • peidio â gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath
  • eich arwain i chwilio am ‘Help to Save’ ar GOV.UK

Helpu i wella gwefan GOV.UK

Bydd CThEF yn e-bostio cwsmeriaid sy’n cofrestru i helpu i wella GOV.UK er mwyn gwella gwasanaethau’r llywodraeth.

Yn yr e-bost cyntaf, bydd cysylltiad y dylech ei ddilyn er mwyn cwblhau’r broses gofrestru.

Ar ôl i chi gofrestru, caiff ail e-bost ei anfon a fydd yn cynnwys cysylltiad i flog ymchwil. Efallai y byddwch wedyn yn cael e-byst eraill sy’n cynnwys cysylltiadau i arolygon byr ynghylch gwaith ymchwil.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol. Byddant hefyd yn cynnwys cysylltiad ar gyfer dad-danysgrifio rhag cael e-byst yn y dyfodol.

Ystadegau masnach data mewnforio ac allforio

Mae Uned Ystadegau Masnach CThEF yn anfon e-byst at gwsmeriaid busnes yn rheolaidd, ynghylch data ystadegol o ran mewnforio ac allforio, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael ar wefan ystadegau masnach CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hysbysiadau i fusnesau

  • diweddariadau i wasanaethau

  • nodynnau i’ch atgoffa am ddyddiadau cau

  • adolygiadau o ansawdd data

  • ceisiadau i gymryd rhan mewn arolygon

Mae’n bosibl y bydd gan yr e-byst hyn gysylltiadau i ragor o wybodaeth, cynnwys addysgol neu arolwg.

Ni fyddant yn gofyn am wybodaeth bersonol, na gwybodaeth sy’n ymwneud â thaliadau neu drethi.

Rhestr o asiantau tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym neu weithredwyr cyflym ar GOV.UK

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd CThEF yn anfon e-bost misol ynghylch cofrestr o asiantau tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym sydd ar GOV.UK.

Mae’r gofrestr yn offeryn defnyddiol sy’n helpu i baru cyfryngwyr tollau â masnachwyr sy’n chwilio am gymorth gyda’u trefniadau mewnforio ac allforio. Mae’n ffordd o ddangos y gwasanaethau y mae’ch busnes yn eu cynnig.

Bydd yr e-bost yn gofyn i chi wneud un o’r canlynol:

  • diweddaru’ch manylion

  • rhoi’ch manylion i’w cynnwys yn y gofrestr

Bydd yr e-bost yn cynnwys cysylltiad at y gofrestr o gyfryngwyr tollau a chwmnïau cludo parseli’n gyflym sydd ar GOV.UK. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW

Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol.

Bydd CThEF yn cadarnhau eich bod yn gallu cyflwyno Ffurflenni TAW cyn pen 72 awr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych. Ni fydd yr e-bost yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth ariannol.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

O 1 Hydref 2022 ymlaen, bydd CThEF yn anfon e-byst i gynnig help a chymorth gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Gall yr e-bost gynnwys cysylltiadau i’r canlynol:

  • arweiniad ar-lein

  • ffurflenni digidol

  • gweminarau

Gall yr e-bost hefyd ofyn am eich barn ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yn cynnwys y canlynol:

  • cysylltiad i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein
  • cyfeiriad at yr arweiniad hwn fel y gallwch wirio bod yr e-bost yn ddilys

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol heb fod CThEF yn ysgrifennu atoch yn gyntaf.

Hyrwyddo Cyfrif Treth Personol

Gofynnir i gwsmeriaid sy’n cysylltu â llinellau cymorth CThEF a ydynt yn dymuno cofrestru ar gyfer cyfrif treth personol. Cynigir rhagor o wybodaeth drwy e-bost i gwsmeriaid nad ydynt yn dymuno cofrestru dros y ffôn.

Os byddwch yn cytuno i roi cyfeiriad e-bost, bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost tra ydych ar y ffôn. Bydd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth gefndirol ynghylch buddion cofrestru ar gyfer cyfrif treth personol, a sut i wneud hynny.

Ni fydd yr e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.

Astudiaethau ymchwil i wella gwasanaethau’r llywodraeth

Os ydych wedi cofrestru er mwyn helpu i wella gwasanaethau’r llywodraeth, bydd CThEF yn anfon gwahoddiad atoch drwy e-bost i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.

Teitl yr e-bost fydd ‘Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil’. Dim ond os ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer yr astudiaeth ymchwil y byddwch yn cael yr e-bost.

Mae’n bosibl y bydd yr e-bost yn cynnwys:

  • cysylltiad i gymryd rhan mewn astudiaeth ar-lein

  • manylion ynghylch digwyddiad wyneb yn wyneb

Bydd yr e-bost yn cynnwys:

  • cyfeiriad at y dudalen hon fel y gallwch wirio bod yr e-bost yn ddilys

  • rhif ffôn i gysylltu â Thîm Ymchwil CThEF os bydd gennych unrhyw bryderon

Gwasanaeth Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Mae gwasanaeth Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth CThEF yn anfon e-byst yn rheolaidd i roi gwybod i rieni y gallent fod yn colli allan ar gyfraniadau gan Lywodraeth y DU tuag at gostau gofal plant.

Nodynnau atgoffa ar gyfer dyledion TAW

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid pan fydd eu taliadau TAW yn hwyr. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a roddwyd gan gwsmeriaid eisoes, ac yn argymell bod cwsmeriaid yn talu ar-lein i osgoi camau pellach yn eu herbyn. Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Methu’r gwiriad dilysu ar gyfer gwasanaeth ad-daliadau TAW yr UE

Efallai y bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaeth ad-daliadau TAW yr UE yn cael e-bost os yw eu hawliad wedi methu’r gwiriad dilysu. Bydd yr e-bost yn egluro pam y mae’r hawliad wedi methu.

Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath.

Cofrestru ar gyfer TAW

Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF. Bydd CThEF yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost y mae cwsmeriaid wedi’i roi i’ch cynghori bod angen iddynt fewngofnodi i’w cyfrif treth ar-lein er mwyn gweld neges yn yr ardal negeseuon diogel.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Ceisiadau am gofrestriad TAW a gyflwynwyd gan asiantau

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost pan fyddwch yn cyflwyno cais am gofrestriad TAW sy’n dangos eich bod yn asiant. Byddwn yn gwneud hyn gan fod angen i ni ddilysu’ch manylion.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau sut yr ydych yn gweithredu, yn ogystal â gofyn am fanylion ynghylch eich busnes, gan gynnwys:

  • yn ym mha rôl yr ydych yn cyflwyno ceisiadau TAW
  • manylion eich busnes, gan gynnwys enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich busnes
  • eich cyfeirnodau a rhifau cofrestru CThEF
  • eich cyfeirnod asiant
  • manylion cofrestru ar gyfer Goruchwyliaeth Gwrth-wyngalchu Arian (AMLS), os yw’n berthnasol

Ni fydd eich ceisiadau yn cael eu hoedi os byddwch yn rhoi’r wybodaeth a gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau.

Nodynnau atgoffa ar gyfer Ffurflenni TAW

Bydd CThEF yn anfon e-bost at gwsmeriaid i’w hatgoffa o’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’u Ffurflenni TAW os ydynt wedi’u cofrestru i gael e-byst atgoffa. Mae’r e-byst yn dwyn y teitl ‘Nodyn i’ch atgoffa i gyflwyno’ch Ffurflen TAW’ neu ‘Reminder to file your VAT return’, ac yn cynnwys cysylltiadau i dudalen sy’n rhoi rhagor o wybodaeth, yn ogystal â chysylltiad i’r dudalen fewngofnodi ar wefan GOV.UK.

Ni fydd yr e-byst hyn byth yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol.

E-byst eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r e-byst a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Information about Help to Save eligibility for Universal Credit customers has been added.

  2. Information about businesses reporting under IFRS 17 — Company Tax Return information research has been added.

  3. Information about the One-to-Many Compliance Advisory Board (OCAB) survey has been added.

  4. Information about VAT registration applications submitted by agents has been added.

  5. Information about Making Tax Digital for Income Tax has been added.

  6. The section 'HMRC webinars' has been updated to extend the period of contact by email from 2 April 2024 up to and including 2 August 2024, to 2 April 2024 up to and including 2 October 2024.

  7. Information about Child Benefit claim updates has been added.

  8. Information about research for HMRC webinars has been added.

  9. Information about research for paying Self Assessment bills with HMRC has been added.

  10. Information about a survey for One-to-Many Compliance Advisory Board members has been added.

  11. Added translation

  12. Added translation

  13. Information about Tax Credits and Self Assessment requirements has been added.

  14. Made it clear that HMRC may contact you about migrating your pension scheme onto the Managing pension schemes service.

  15. Information about Managing Pension Schemes emails has been updated to show a new start date of 16 November 2023.

  16. Information about migrating to the Managing pension schemes service has been added.

  17. Information about research on Pillar 2 and HMRC communication with tax agents and sole traders' for Making Tax Digital have been added.

  18. Information about emails telling you you may be eligible for Help to Save has been added. Information about Impact of Maxing Tax Digital for tax agents has been removed

  19. Information about a survey to understand the experience and approaches to growth of sole traders, freelancers and microbusinesses has been added.

  20. Information about migrating to the Managing Pension Schemes service has been added.

  21. Economic Crime Supervision text messaging survey and impact of Making Tax Digital research added.

  22. Information on pension schemes migration communication added.

  23. We have added 'One-to-many Compliance Advisory Board (OCAB) survey' and 'Tax-Free Childcare account' research.

  24. Information on research into the future of Gift Aid has been added.

  25. Information about Tax-Free Childcare research and Pre-filing conversation feedback has been added.

  26. Information on research with landlords about Making Tax Digital for VAT has been added.

  27. Information on the personal tax affairs questionnaire has been added.

  28. Information on the Economic Crime Supervision survey has been added.

  29. Information about the new Income Record Viewer service for agents has been added.

  30. Added information about the One to Many Compliance Advisory Board invitation to complete a survey.

  31. Information on research to improve HMRC communications added.

  32. Information about an estate agency business education and training survey has been added.

  33. Information on support with the National Minimum Wage has been added.

  34. Information on the Economic Crime Supervision survey has been added.

  35. Information about import and export customs declaration research with businesses has been added.

  36. Added information on emails inviting you to take part in a survey about online sales tax research.

  37. Added information about the One-to-Many Compliance Advisory Board invitation to complete a survey.

  38. Added translation

  39. Information about emails asking businesses and agents to take part in research on webinars and other digital products and services has been added.

  40. Information about future customs processes research has been added.

  41. Added translation

  42. Self-Employment Income Support Scheme (SEISS) – your SEISS claims and what you need to do section has been added.

  43. 'Intermediaries Newsletter' and 'Register of customs agents and fast parcel operators on GOV.UK' sections added.

  44. Information about emails asking businesses to take part in an Economic crime supervision text messaging trial has been added.

  45. Added 'One-to-Many Compliance Advisory Board (OCAB) invitation to complete a survey' section.

  46. Information about emails HMRC is issuing to overseas customers about VAT registration and payment feedback has been added.

  47. Added translation

Print this page