Gwirio gohebiaeth ddilys CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu
Gwiriwch gysylltiadau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a allai e-bost, galwad ffôn, neges destun neu lythyr amheus fod yn sgam.
Weithiau mae CThEF yn defnyddio mwy nag un ffordd o gysylltu. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr yn gyntaf cyn dilyn hwn i fyny gydag e-bost, galwad neu neges destun. Mae hyn oherwydd:
- mae’n gallu darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch
- mae’n gallu helpu i baratoi cwsmeriaid ar gyfer yr ohebiaeth ddilynol
- rhain yw’r manylion cyswllt sydd gan CThEF ar eich cyfer
Gall pob gohebiaeth gan CThEF a restrir ar y dudalen hon ddefnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED)
O 4 Tachwedd 2024 hyd at a chan gynnwys 20 Rhagfyr 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi i ofyn am adborth ar eich profiad o ddefnyddio ffurflenni i roi gwybod i CThEF am y canlynol:
- newid i ATED
- eich bod am hawlio rhyddhad
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:
- yn ddienw
- yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data
Newidiadau i’ch cod treth
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.
Os ydym o’r farn eich bod wedi cael cod treth anghywir ar ôl dechrau swydd newydd, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost neu neges destun yn egluro y bydd eich cod treth yn newid.
Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.
Mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at:
- arweiniad ynghylch newidiadau i’ch cod treth pan fyddwch yn dechrau swydd newydd (yn agor tudalen Saesneg)
- y gwasanaeth i wirio’ch cod treth
Gwiriadau cydymffurfio i faterion treth personol a busnes
O 1 Tachwedd 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr 2025, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.
Os ydych yn gwsmer neu’n asiant sydd wedi cael gwiriad cydymffurfio yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi.
Mae’n bosibl y cewch lythyr neu e-bost oddi wrth Dîm Mewnwelediad Cwsmeriaid CThEF, yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn adborth.
Cynhelir y sesiwn adborth dros y ffôn.
Bydd yr ymchwil hon yn helpu CThEF i ddeall sut y gallwn roi cymorth i’n cwsmeriaid er mwyn iddynt gael eu materion treth yn gywir y tro cyntaf.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir yn gyfrinachol ac yn ddienw.
Ni fyddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau penodol i chi am eich materion treth.
Ymchwil i gryptoasedion
O 16 Medi 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr 2025, mae’n bosibl y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.
Mae Ipsos yn cynnal ymchwil ar ran CThEF i’r diwydiant cryptoasedion.
Nod yr ymchwil yw deall:
- ymddygiadau ac agweddau perchnogion cryptoasedion
- modelau gweithredu a modelau busnes darparwyr gwasanaeth cryptoasedion
Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad, a fydd yn cael ei gynnal dros y ffôn.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:
- yn gyfrinachol
- yn ddienw
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Prosesau tollau
O 22 Mai 2024 hyd at a chan gynnwys 17 Ionawr 2025, efallai y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.
Mae Ipsos yn cynnal ymchwil ar ran CThEF i ddeall yn well faint o amser sydd ei angen i gyflwyno prosesau tollau gwahanol a faint o arian sydd angen er mwyn gwneud hynny.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr neu alwad ffôn gan Ipsos yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad 20 munud dros y ffôn.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:
- yn gyfrinachol
- yn ddienw
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Ni fydd modd i CThEF adnabod yr unigolion sy’n cymryd rhan, na’u hatebion unigol.
Hysbysiad i ddeiliaid data
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.
Os ydych wedi cael naill ai hysbysiad ffurfiol neu hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr, efallai y bydd Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn cysylltu â chi neu’ch cynrychiolwyr i drafod hyn â chi.
Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost i’ch helpu i ddilyn deddfwriaeth casglu data CThEF.
Goruchwyliaeth troseddau economaidd
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost, neges destun neu dros y ffôn.
Diben goruchwyliaeth troseddau economaidd yw gwneud y canlynol:
-
amddiffyn y DU rhag y risg o wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth
-
helpu busnesau i ddeall eu risgiau a’u hymrwymiadau
-
atal diffyg cydymffurfio
-
dod o hyd i fusnesau sydd heb eu cofrestru a mynd i’r afael â nhw
-
cynnal ymyriadau effeithiol ar sail risg a gwybodaeth
Er mwyn gwneud hyn, bydd CThEF yn:
-
cysylltu â busnesau drwy lythyr a thros y ffôn
-
cynnal ymweliadau cydymffurfio
-
anfon hysbysiadau drwy e-bost a thrwy negeseuon testun
-
cynnig addysg ar-lein i sicrhau bod busnesau’n bodloni rheoliadau gwyngalchu arian
Ardoll Cynhyrchu Trydan
O 1 Mehefin 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2028, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr, neu dros y ffôn.
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi i’ch helpu i ddeall ymrwymiadau’ch busnes o dan yr Ardoll Cynhyrchu Trydan. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi pa mor ddefnyddiol mae ein cyswllt â chi wedi bod er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaeth. Byddwn bob amser yn rhoi’r dewis i chi ateb drwy gyfeiriad e-bost. Mae manylion cyswllt i’w cael ar yr e-bost ac ar y llythyr.
Ymchwil Cymorth i Gynilo
O 1 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr 2025, mae’n bosibl y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.
Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil, Ipsos UK, i gynnal gwerthusiad o’r cynllun Cymorth i Gynilo.
Efallai y byddwch yn cael llythyr neu e-bost gan Ipsos UK yn gofyn i chi gwblhau arolwg ar-lein neu dros y ffôn.
Nod yr ymchwil yw:
- deall eich ymwybyddiaeth a faint rydych yn ei wybod am y cynllun Cymorth i Gynilo
- deall ymddygiadau o ran cynilo
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:
- yn gyfrinachol
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Cyflogi cyflogeion sydd wedi’u lleoli dramor i weithio yn y DU ar sail trefniant byr dymor neu drefniant tymor canolig
O 13 Tachwedd 2024 hyd at a chan gynnwys 18 Rhagfyr 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi i ofyn am adborth ar eich profiad o gyflogi cyflogeion sydd wedi’u lleoli dramor i weithio yn y DU ar sail trefniant byr dymor neu drefniant tymor canolig. Gall y trefniadau hyn gynnwys:
- gweithio yn y DU ar aseiniad
- gweithio yn y DU fel ymwelydd busnes tymor byr
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data
Ymchwil CThEF i asiantaid, busnesau bach a busnesau o faint canolig
O 27 Mai 2024 hyd at a chan gynnwys 14 Mawrth 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn, e-bost neu lythyr oddi wrth IFF Research.
Mae CThEF yn gweithio gydag IFF Research, sef asiantaeth ymchwil annibynnol, i ddeall argraffau a phrofiadau defnyddwyr o gyfathrebu â CThEF.
Bydd yr ymchwil hon yn helpu i lywio sut y bydd CThEF yn ymgysylltu â busnesau yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y bydd IFF Research yn cysylltu â chi os ydych yn un o’r canlynol:
- busnes bach
- busnes o faint canolig
- asiant
Os bydd IFF Research yn cysylltu â chi, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- cymryd rhan mewn arolwg
- cymryd rhan mewn cyfweliad
- helpu gyda phrofi datrysiadau posibl
Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth ariannol na gwybodaeth am eich materion treth.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:
- yn gyfrinachol
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Ymchwil i brofiadau o ddelio â CThEF a’r system dreth
O 21 Hydref 2024 hyd at a chan gynnwys 6 Rhagfyr 2024, efallai y byddwch yn cael e-bost neu alwad ffôn oddi wrth People for Research.
Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil, People for Research, i gofrestru pobl i gymryd rhan mewn cyfweliad.
Bydd y cyfweliad yn archwilio profiadau ac argraffau cwsmeriaid o CThEF a’r system dreth, a sut y gall hyn helpu gyda dylunio a chefnogi gwasanaethau CThEF.
Bydd y cyfweliad yn para tua 60 munud a chaiff ei gynnal naill ai:
- ar-lein
- wyneb yn wyneb — naill ai ym Manceinion neu yn Leeds
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data
- yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Arolwg CThEF ynghylch gwiriadau cydymffurfio
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr ar ôl i wiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau gael ei gau.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn dilyn gwiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau, er mwyn cwblhau arolwg byr ynghylch eich profiad yn ystod y gwiriad. Bydd yr arolwg yn galluogi CThEF i ddysgu a oes angen i ni wella’r ffordd rydym yn cynnal gwiriadau.
Mae’r arolwg yn wirfoddol ac ni fydd yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r gweithiwr achos a ddeliodd â’ch gwiriad.
Ymchwil i brofiad cwsmeriaid o ddelio â CThEF
O 10 Gorffennaf 2024 hyd at a chan gynnwys 21 Mawrth 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr, e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan Verian.
Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth annibynnol, Verian, i geisio barn cwsmeriaid o ran delio â CThEF a’u profiadau o wneud hynny.
Bydd yr ymchwil yn helpu i lywio’r ffordd y bydd CThEF yn delio â chwsmeriaid yn y dyfodol.
Efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
-
cymryd rhan yn yr arolwg
-
helpu i brofi’r arolwg
-
cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol
Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth ariannol na manylion am eich materion treth.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol, a bydd yr holl wybodaeth a roddir:
-
yn gyfrinachol
-
yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Arolwg o Fusnesau Mawr
O 19 Awst 2024 hyd at a chan gynnwys 4 Mawrth 2025, mae’n bosibl y bydd IFF Research yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.
Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, IFF Research, i gael gwybod am brofiadau cwsmeriaid sy’n Fusnesau Mawr o ddelio â CThEF.
Bydd yr ymchwil yn helpu CThEF i ddeall anghenion a blaenoriaethau Busnesau Mawr, a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau polisi.
Efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- cymryd rhan mewn arolwg
- cymryd rhan mewn cyfweliad
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:
- yn gyfrinachol
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Mewngofnodi i’ch cyfrif treth CThEF
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun neu alwad llais awtomataidd.
Mae dilysu aml-ffactor yn nodwedd ddiogelwch ychwanegol sy’n disodli dilysu 2-gam. Mae’n helpu i rwystro rhywun arall rhag cael mynediad at eich cyfrif digidol, hyd yn oed os yw’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair yn ei feddiant.
Bydd CThEF yn anfon cod mynediad drwy neges destun neu alwad llais i’r rhif ffôn symudol neu linell dir a ddewiswyd gennych i gychwyn y camau dilysu aml-ffactor. Bydd angen y cod hwn arnoch i gwblhau’r broses o gael mynediad.
Ni fydd y negeseuon testun na’r galwadau llais hyn byth yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol.
Os ydych wedi cychwyn camau dilysu aml-ffactor, byddwch ond yn gallu cael mynediad at y cyfrif drwy ddefnyddio’r canlynol:
-
eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
-
y ddyfais symudol neu linell dir yr ydych wedi’i chofrestru
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm — pa mor barod yw asiantau
O 25 Tachwedd 2024 hyd at a chan gynnwys 28 Chwefror 2025, efallai y bydd Verian yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.
Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i ddeall pa mor barod yw asiantau ar gyfer y gofynion o ran Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Efallai y bydd Verian yn cysylltu â chi os ydych yn asiant, ac efallai y gofynnir i chi wneud y canlynol:
- cymryd rhan mewn arolwg
- cymryd rhan mewn cyfweliad dilynol
Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth ariannol na gwybodaeth am eich materion treth.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion ac unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Cyfnod profi Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm
O 2 Rhagfyr 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr 2025, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.
Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn os ydych wedi bod yn cymryd rhan yn y cyfnod profi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm, ac yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad un-i-un.
Yn ystod y cyfweliad hwn, gofynnir cwestiynau i chi ynghylch eich:
- profiadau o’r cyfnod profi
- barn ynglŷn â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm
Bydd y cyfweliad yn para hyd at awr, a chaiff ei gynnal ar-lein.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion ac unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Isafswm Cyflog Cenedlaethol a chyflogaeth
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chyflogeion i drafod manylion eu cyflogaeth bresennol neu flaenorol.
Os byddwn yn eich ffonio, byddwn yn:
-
rhoi gwybod i chi fod ein hymholiad yn ymwneud â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol
-
gofyn cwestiynau sylfaenol i chi am eich gwaith presennol neu am eich profiadau mewn swyddi blaenorol
-
cwblhau rhai cwestiynau diogelwch safonol
Ni fyddwn, ar unrhyw adeg, yn gofyn am wybodaeth ariannol bersonol, megis manylion banc, heb ysgrifennu atoch yn gyntaf.
Gallwch ofyn i ni beidio â rhoi gwybod i’ch cyflogwr presennol neu flaenorol am yr alwad.
Bydd CThEF hefyd yn cysylltu â chyflogwyr mewn perthynas ag ymholiadau ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Os ydych wedi cael llythyr, e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan swyddfa arall yn CThEF, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wirio bod yr ohebiaeth hon yn ddilys.
Gwallau cyffredin o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogwyr neu drydydd partïon i rannu gwybodaeth am wallau cyffredin gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Bydd yr e-bost yn darparu cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogeion drwy lythyr i ddarparu gwybodaeth am wallau cyffredin i gadw llygad amdanynt yn eu cyflog.
Bydd y llythyr yn esbonio sut i wneud cwyn am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac yn cynnwys cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.
Busnesau tramor sy’n gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.
Os oes gennych fusnes tramor a’ch bod yn gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU, efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch eich rhwymedigaethau TAW yn y DU drwy e-bost a llythyr.
Bydd y llythyr a’r e-bost yn esbonio pam rydym yn cysylltu â chi, ac yn gofyn i chi gysylltu â ni. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.
Busnesau tramor sy’n gwerthu nwyddau ar farchnadoedd ar-lein i ddefnyddwyr yn y DU
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.
Os ydych wedi’ch lleoli dramor ac yn masnachu ar farchnadoedd ar-lein, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gyflwyno asesiadau TAW.
Byddwn yn anfon:
-
hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr
-
e-bost i roi gwybod i chi fod y llythyr hwn wedi cael ei anfon
Bydd yr e-bost yn:
-
peidio â gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes
-
gofyn i chi dalu eich asesiad drwy fynd i www.gov.uk a chwilio am ‘pay your VAT bill’
-
cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn
Efallai eich bod yn rhan o gynlluniau arbed treth
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr ac yna dros y ffôn.
Gall CThEF anfon llythyr atoch i’ch rhybuddio y gallech fod yn rhan o gynllun arbed treth, fel nad ydych yn cronni bil treth mawr.
Mae’r llythyrau hyn yn cael eu hanfon allan os yw’r canlynol yn wir:
- mae systemau CThEF yn dangos y gallech fod wedi ymuno â chynllun arbed treth
- rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gynllun arbed treth, ac am y bobl sy’n ymwneud â chyflenwi a marchnata’r cynlluniau hyn
Bydd y llythyr yn:
- rhoi gwybod i chi sut i wirio eich bod yn rhan o gynllun arbed treth
- eich helpu i ddeall y risgiau o fod yn rhan
- eich cyfeirio at y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i adael y cynllun
Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr.
Efallai y byddwch hefyd yn cael galwad ffôn gan CThEF i drafod y llythyr.
Gallwch ddysgu rhagor ynglŷn ag arbed treth ac am ymgyrch ‘Peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg) CThEF.
Hunanasesiad — cais i adael
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.
Gall CThEF gysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun os ydych yn rhoi gwybod iddynt:
- rydych am adael Hunanasesiad
- nad ydych yn hunangyflogedig mwyach
Bydd CThEF yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn rydych wedi’i roi. Teitl yr e-bost fydd ‘Eich cais i adael Hunanasesiad’.
Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.
Gwaith profi gan ddefnyddwyr y Ffenestr Masnach Sengl
O 15 Rhagfyr 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.
Bydd CThEF yn cysylltu â rhai busnesau i’w gwahodd i brofi nodweddion y Ffenestr Masnach Sengl.
Dyma wasanaeth sy’n galluogi defnyddwyr i fodloni eu hymrwymiadau wrth y ffin drwy gyflwyno gwybodaeth unwaith ac mewn un lle.
Mae cymryd rhan fel defnyddiwr yn y gwaith profi yn wirfoddol.
Ymchwil i gynnwys sy’n cael ei greu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
O 24 Awst 2024 hyd at a chan gynnwys 28 Chwefror 2025, mae’n bosibl y cewch lythyr, galwad ffôn, e-bost neu neges drwy’r cyfryngau cymdeithasol oddi wrth y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen).
Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, NatCen, i ddeall gwaith y sawl sy’n creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Efallai y cewch hefyd lythyr oddi wrth CThEF yn rhoi cyfle i chi optio allan o’r ymchwil.
Bydd yr ymchwil yn helpu i wella gwasanaethau a phrofiad cwsmeriaid.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion ac unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Ni fydd gofyn i chi roi gwybodaeth ariannol o unrhyw fath.
Hysbysiadau statudol yn gofyn am wybodaeth
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.
Mae Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn anfon hysbysiadau statudol yn rheolaidd at y rheiny sy’n cadw mathau penodol o wybodaeth, yn gofyn iddynt roi manylion perthnasol i CThEF. Mae gan y rheiny sy’n cadw’r wybodaeth ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu’r data y gofynnir amdanynt.
Gellir anfon yr hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost.
Bydd hysbysiadau a anfonir drwy e-bost yn cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn.
Dod i ddeall defnydd ISA Gydol Oes
O 11 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 30 Tachwedd 2024, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, galwad ffôn neu lythyr oddi wrth IFF Research.
Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, IFF Research, i gynnal ymchwil sy’n archwilio defnydd ISAs Gydol Oes (LISAs).
Bydd yr ymchwil hon yn cynnwys cyfweld â phobl sydd:
- wedi agor LISA erioed
- wedi tynnu arian allan o’u LISA
Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion ac unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
- yn gyfrinachol
- yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Ni fydd modd i CThEF adnabod yr unigolion sy’n cymryd rhan, na’u hatebion unigol.
Anweithgarwch o ran y gofrestr TAW
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os ydym o’r farn nad oes angen i chi feddu ar rif cofrestru TAW mwyach, oherwydd anweithgarwch diweddar ar eich cyfrif TAW. Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost, a bydd yr e-bost yn cyfeirio at anweithgarwch o ran y gofrestr TAW.
Bydd y galwadau ffôn neu’r e-byst yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW o hyd, ac yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am ble yr ydych yn masnachu.
Ni fydd y galwadau na’r e-byst yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.
Ymweliadau ac archwiliadau TAW
Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliadau ac archwiliadau TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd e-bost yn dweud wrthych ein bod wedi ceisio cysylltu â chi gan ofyn i chi ein ffonio’n ôl.
Bydd yr alwad ffôn yn:
-
gofyn i chi drefnu ymweliad
-
cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld
Bydd llythyr yn:
-
gofyn i chi ein ffonio i drefnu ymweliad
-
cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld
Byddwn bob amser yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn yn gyntaf, os nad ydym yn cael gafael arnoch, byddwn yn anfon llythyr neu e-bost atoch.
Bydd gennym eich enw ac enw’ch busnes yn barod pan fyddwn yn cysylltu â chi. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, megis eich manylion banc.
Os nad ydych yn siŵr os yw’r alwad, yr e-bost neu’r llythyr gan CThEF, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW.
Porth cydymffurfiad unigolion cyfoethog
O 4 Tachwedd 2024 hyd at a chan gynnwys 13 Rhagfyr 2024, mae’n bosibl y cewch alwad ffôn neu e-bost oddi wrth CThEF.
Mae CThEF yn cynnal ymchwil i ddeall profiadau asiantau wrth ddelio â’r porth cydymffurfiad unigolion cyfoethog.
Mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn adborth dros y ffôn. Ni fydd unrhyw drafodaeth am faterion treth unigol cwsmeriaid.
Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:
-
yn gyfrinachol
-
yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Information about 'Self Assessment — request to leave' has been added.
-
Possible involvement in tax avoidance schemes research has been added. Cryptoasset research has been extended to 31 January 2025.
-
Information about Making Tax Digital for Income Tax Self Assessment testing phase and Making Tax Digital for Income Tax Self Assessment — agent preparedness research has been added. Help to Save research has been extended to 31 January 2025.
-
Information about hiring overseas employees to work in the UK on a short or medium term arrangement research has been added.
-
Information about Annual Tax on Enveloped Dwellings and understanding unrepresented customer needs research has been added. Venture capital schemes research has been extended to 15 November 2024.
-
Information about the wealthy compliance portal has been added.
-
Information about HMRC and tax system experience research has been added.
-
Customs authorisations survey improvement research has been extended to 8 November 2024.
-
Information about compliance checks into personal and business tax affairs research has been added. Customs processes research has been extended to 17 January 2025.
-
Information about customs authorisations survey improvement research has been added.
-
Information about cryptoasset research has been added.
-
Information about pension schemes migration research has been added.
-
Information about social media content creation research has been added. Information about venture capital schemes research has been added. End date for National Minimum Wage geographical compliance approach research has been extended.
-
The end dates for 'Understanding the use of the Lifetime ISA' and 'Help to Save research' have been extended to 30 November 2024.
-
Information about Large Business survey and Wealthy pre-filing research have been added.
-
The impact of government childcare support on working parents research has been extended from 9 August 2024 to 3 October 2024.
-
The pension schemes migration research has been extended from 26 July 2024 to 2 August 2024.
-
Information added for HMRC customer experience research has been added.
-
Information about pension schemes migration research has been added.
-
Information about cryptoasset research has been updated to extend the period of contact to 30 August 2024.
-
Information about HMRC agents, small and mid-sized business and customs processes research has been added.
-
Information about research into HMRC customer education has been added.
-
The information on research into the impact of HMRC communications and safety and security declarations on EU imports has been removed, as these studies have now ended.
-
The 'temporary Customer Compliance Manager service for mid-size businesses' section has been updated to extend the period of contact to 31 May.
-
Information about tax code notice research has been added.
-
Information about research into the cryptoasset industry and how people interact with video guidance has been added.
-
Information about research for the impact of Making Tax Digital (MTD) on Income Tax Self Assessment (ITSA) customers and information about understanding the use of the Lifetime ISA has been added.
-
Information about research to understand the impact of HMRC communications has been added. Information about GB-EU traders research and Making Tax Digital for Income Tax pilot have been removed as contact for these have ended.
-
Information about Help to Save research, temporary Customer Compliance Manager service for mid-size businesses, and uncertain tax treatment research has been added.
-
Information about the impact of government childcare support on working parents and the impact of border check processes on businesses research has been added.
-
Information about Single Trade Window user testing, Enterprise Investment Schemes and Self Assessment customer communications research has been added.
-
Information about VAT Penalty Reform research has been added.
-
Information about business tax account research has been added. Information about safety and security declarations on EU imports research has been added. Information about The Large Business Survey 2023 has been removed as contact for this has ended.
-
Information about GB-EU traders research and company structure and financial decision making research has been added.
-
Information about Bulk Import Reduced Data Set (BIRDS) research has been added to the page.
-
Information about identity verification and account set-up research has been added.
-
Information about HMRC potentially contacting you about changes to your tax code has been added.
-
Information about Employee Ownership Trusts has been added. Information about Help to Save research, Landlord research, Mid-sized Business Customer Survey, Offshore penalties regime — research into effectiveness, Small businesses' interactions with HMRC, Vaping market research, VAT deregistration research and Venture Capital Reliefs — Understanding the customer journey have all been removed as contact for these have ended.
-
Information about National Minimum Wage geographical compliance approach research has been added.
-
Added translation
-
Information about VAT visits and inspections has been added.
-
Information about simplified mileage rates in the UK have been removed as contact for these have ended, updated translation
-
Information about HMRC stakeholder engagement research has been added.
-
Information on Venture Capital Reliefs had been updated to extend end date of contact
-
added translation
-
Information about GVMS (Goods Vehicle Movement Service) research has been added.
-
Information about Understanding the customer journey of companies who seek investors by using Venture Capital Reliefs schemes has been added. Information about Electricity Generator Levy and measuring the impact of Making Tax Digital for VAT customers has been added. Information about Corporation Tax research, Employment status in the UK, VAT payable order repayments have been removed as contact for these have ended.
-
Information about a customs intermediaries monitoring survey and a new company structure and financial decision-making research survey has been added.
-
Information about research on Help to Save and research on HMRC communications with customers who complete paper Self Assessments has been added.
-
Information about Mid-sized Business Customer Survey research has been added.
-
Research about businesses use of simplified mileage rates, customer experience of HMRC, and how customers authorise agents to interact with the HMRC added.
-
Added translation
-
Research regarding childcare providers engagement with Tax-Free Childcare, effectiveness of the offshore penalty regime, and the Large Business Survey 2023 added to the page. Impact of Making Tax Digital research removed as the contact dates for this ended on 21 July 2023.
-
Information on the company names, and the dates they may contact you to take part in research on the experiences of businesses new to customs has been updated.
-
Information about Lifetime ISAs research has been added. Information about employer pension salary sacrifice schemes, Income Tax Self Assessment research on future timely payment and research and development tax relief has been removed as contact for these has ended.
-
Information about a Great Britain EU traders survey and Corporation Tax research has been added, and details about the schools outreach programme analysis, digital channels research and asset managers self-assessment feedback have been removed.
-
Information about research and development tax relief has been added.
-
Information has been added about Company structure and financial decision-making research, Impact of Making Tax Digital, Asset managers self-assessment feedback, and Landlord research.
-
Information about VAT payable order repayments has been added.
-
Information about research on the experiences of businesses new to customs has been added.
-
We have removed 'Impact of Making Tax Digital research'.
-
Research on VAT deregistration, the vaping market, small businesses' interactions with HMRC, and Self Assessment and paper communications, has been added. We have removed out-of-date information on: digital by default, electronic sales suppression, impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers, Income Tax for small businesses, VAT Flat Rate Scheme.
-
Information has been added about Digital channels and Employer pension salary sacrifice schemes.
-
Information about contact regarding Electronic Sales Suppression has been added.
-
Added translation
-
We have added two updates on research about employment status and Income Tax for small businesses.
-
Added translation
-
We have added information about a HMRC compliance check survey.
-
We have added information about contact from HMRC on the Let Property Campaign. We have also updated the section Income Tax Self Assessment research on future timely payments. IFF Research will contact you by letter and then phone call from 20 February 2023 up to and including 28 June 2023. We have added information on Digital by default. HMRC may contact you about this between 20 February 2023 and 28 April 2023.
-
Information about research on customs authorisations of UK businesses, temporary customer compliance manager support, the temporary customer compliance manager support survey, and VAT registration experience has been removed as contact for these has ended.
-
Information about research into the impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers been added.
-
Information about research on stakeholder engagement has been added.
-
Information about the VAT on the Energy Bills Support Scheme has been added. Information about the Customs intermediaries monitoring survey has been removed as the contact dates for this ended on 23 January 2023.
-
Information about research on making a payment to HMRC, Tax-Free Childcare and parent’s working patterns and data holder notices have been added. Information about the Large Business Customer Survey 2022 has been removed as the contact dates for this ended on 6 January 2023.
-
Research into agents of wealthy customers has been extended from 30 December 2022 to 31 March 2023. In addition agents may now be contacted by email or letter then phone or video call.
-
Information about research on Customs authorisations of UK Businesses, Customs declarations, Debt management payment plan questionnaire, Making Tax Digital for VAT, VAT Flat Rate Scheme and VAT registration experience has been added.
-
Added translation
-
Information about offshore advice for taxpayers and their advisors has been added. We have also added information on employer National Insurance contributions relief for veterans.
-
Information about supply chains research has been added.
-
Information about research into agents of wealthy customers and businesses recently in debt with HMRC has been added.
-
Information about Income Tax Self Assessment research on future timely payment and information about the temporary Customer Compliance Manager support survey has been added. Information about Corporation Tax research and research on HMRC's digital services has been removed as the contact dates for these ended on 18 November 2022.
-
User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 17 November 2022 to 18 November 2022.
-
Information on Child Benefit digital service research has been added.
-
Research on employer benefits in kind has been extended from 30 November 2022 to 9 December 2022.
-
Research on HMRC’s digital services has been extended from 31 October 2022 to 18 November 2022.
-
User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 10 November 2022 to 17 November 2022.
-
IFF Research on employer benefits in kind has been extended to 30 November 2022.
-
Information on the Automatic Exchange of Information has been added. The customs intermediaries monitoring survey research will continue until 23 January 2023.
-
Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme will continue until 10 November 2022.
-
Information on navigating between business taxes and personal taxes online research has been added.
-
Updated because the research on employer's experiences of the coronavirus job retention scheme has been extended to 7 October 2022.
-
Information about research on HMRC's digital services has been added.
-
Information on Corporation Tax research has been added.
-
Information on VAT return research has been added.
-
Information on the Large Business Customer Survey 2022 and temporary Customer Compliance Manager support has been added.
-
Added translation
-
Information on the customer experience of HMRC has been added.
-
Information on the Mid-sized business customer survey has been added.
-
Information for businesses who use CHIEF for import declarations has been added.
-
Information on Making Tax Digital for Income Tax pilot and employer benefits in kind has been added.
-
Information on economic crime supervision and experiences of HMRC VAT registration has been added.
-
Information on HMRC and HM Treasury’s 10 year Tax Administration Strategy has been added.
-
Information on customs intermediaries' experience and Making Tax Digital for VAT registered customers has been added.
-
Information on the customs intermediaries monitoring survey has been added.
-
Information about research on Capital Allowances has been added.
-
Research into understanding tax administration for businesses has been extended from 27 May 2022 to 8 July 2022 and information about research for the Cycle to Work Scheme has been added.
-
Added section on 'Overseas businesses that sell goods on online marketplaces to UK consumers'.
-
Added information on the government analysis schools outreach programme and employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme.
-
The information for the 'Research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty' section has been re-added as it has been extended.
-
Added information on 'Research to improve VAT services for small and micro businesses'.
-
The section about tax relief evaluations has been updated with new contact information from 1 July 2021 to 30 November 2022.
-
Added information on 'Research into understanding tax administration for businesses'.
-
Added section 'Annual Tax on Enveloped Dwellings (ATED) reminder to agents and companies'.
-
Added information on research on the Profit Diversion Compliance Facility and the Diverted Profits Investigation Approach, and the end date of the traders survey has been changed from 10 March 2022 to 25 March 2022.
-
Added information on repayments research.
-
Added information on research into self-assessment and VAT repayment systems.
-
Added information on research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty.
-
Information on research on agent experiences of HMRC's digital services has been added.
-
Added section 'Research letters about the disability element of Tax Credits'.
-
Added 'Research to improve HMRC communications for individuals and businesses' section.
-
Added sections 'Research into the impact of full controls on customs intermediaries' and 'Traders survey'.
-
Added sections Effects of the super-deduction, Single Trade Window research and Trust survey.
-
Information on 'Payment of Class 2 National Insurance Contributions through Self Assessment' has been added.
-
Information on further research on the HMRC Coronavirus Job Retention Scheme added.
-
Information about the EU Settlement Scheme has been added.
-
Information added about reform research for off-payroll working rules from 24 September 2021 to 10 December 2021.
-
Information has been added about HMRC contacting CHIEF users who declare goods into Northern Ireland from outside the UK and EU.
-
Added 'Large Business Customer Experience Survey 2021' section.
-
Information about Tax relief evaluations from 1 July 2021 to 31 June 2022 and Traders survey research from 27 August to 12 October 2021 added.
-
Information about customer research on Corporation Tax reliefs from August 2021 to 30 September 2021 has been added.
-
We have added information about customer research by HMRC from 12 August to 15 September by 2021.
-
We have added research on detached workers and social security.
-
Updated to show HMRC is using a new number to send text messages to customers.
-
Added translation