Gwirio a allwch hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol mewn Parthau Buddsoddi neu Borthladdoedd Rhydd y DU sy’n safleoedd treth arbennig
Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr pan fyddwch yn cyflogi rhywun mewn safle treth Porthladd Rhydd yn y DU.
Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.
Ni allwch hawlio hyd nes bod y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi perthnasol sy’n safle treth arbennig wedi’i ddynodi.
Gwirio pa safleoedd sy’n:
- Safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig dynonedig (yn agor tudalen Saesneg)
Pwy all hawlio
Gallwch hawlio’r rhyddhad os oes gennych safle busnes mewn safle treth arbennig. Safle treth arbennig yw darn o dir lle gall busnesau hawlio lwfansau treth penodol. Weithiau, yr enw a roddir i safle treth arbennig yw ‘safle treth Porthladd Rhydd’ neu ‘safle treth Parth Buddsoddi’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu’r un darn o dir.
I hawlio’r rhyddhad, rhaid i bob cyflogai wneud y canlynol:
- treulio o leiaf 60% o’i amser gwaith yn y safle treth arbennig
- bod wedi dechrau eu cyflogaeth rhwng 6 Ebrill 2022 a chyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer safleoedd treth arbennig Porthladd Rhydd yn Lloegr
- 30 Medi 2034 ar gyfer safleoedd treth Porthladd Rhydd yng Nghymru, safleoedd treth Porthladd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban, a Pharthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig
- heb fod wedi gweithio mwy na 36 mis o’i gyflogaeth
- heb gael ei gyflogi gennych chi neu gan gyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol
Os bydd trefniadau gweithio cyflogai’n newid yn sylweddol
Dylech ailasesu a yw’r amodau cymhwyso yn dal i gael eu bodloni.
Mae’n rhaid i chi roi’r gorau i hawlio rhyddhad pan nad ydych yn rhagweld y bydd cyflogai yn treulio o leiaf 60% o’i amser gweithio mewn safle treth arbennig. O ddechrau’r gyflogaeth, mae hyn yn berthnasol oni bai eich bod yn gwneud addasiadau i ddarparu ar gyfer:
- anabledd
- beichiogrwydd
- mamolaeth
Nid yw’r awdurdodau cyhoeddus yn gallu hawlio’r rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi.
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Bydd dim ond angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd os yw’ch cyflogai yn ennill mwy na’r Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi sef:
- £25,000 y flwyddyn
- £2,083 y mis
- £481 yr wythnos
Mae hyn yn golygu os yw cyflogai yn ennill llai na hyn, yna nid oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd yn ddyledus.
Pa mor hir y gallwch hawlio’r rhyddhad
Gallwch hawlio’r rhyddhad hwn ar gyfer pob cyflogai newydd am 36 mis o ddechrau eu cyflogaeth am y cyfnod y maent yn bodloni’r amodau cymhwyso.
Sut i hawlio rhyddhad
I hawlio’r rhyddhad, rhaid i chi ddefnyddio’r llythyren categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol perthnasol wrth redeg y gyflogres. Dysgwch sut i redeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Dyma’r llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd
Llythyren gategori | Grŵp cyflogeion |
---|---|
F | Cyfwerth â llythyren gategori safonol |
I | Gwragedd priod a gweddwon sydd â hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi eu gostwng |
S | Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth |
L | Cyflogeion sy’n gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth o’r amodau cymhwyso sy’n cael eu bodloni.
Dyma’r llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Parthau Buddsoddi:
Llythyren gategori | Grŵp cyflogeion |
---|---|
N | Cyfwerth â llythyren gategori safonol |
E | Gwragedd priod a gweddwon sydd â hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u gostwng |
K | Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth |
D | Cyflogeion sy’n gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth o’r amodau cymhwyso sy’n cael eu bodloni.
Enghreifftiau
Enghraifft o gyflogai sy’n ennill o dan y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 1 Gorffennaf 2024 sy’n cael ei dalu cyflog gros o £2,000 y mis (£24,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 4 diwrnod (30 awr, 80%) o’i amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig ac 1 diwrnod (7.5 awr, 20%) o’i wythnos waith yn gweithio o gartref am weddill blwyddyn dreth 2024 i 2025 fel bod y cyflogai yn bodloni’r rheol 60%.
Yn ymarferol, nid yw’r cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Mae’r cyflogai a’r cyflogwr yn bodloni’r rheolau, ac felly mae’r cyflogwr yn hawlio’r rhyddhad.
Gan fod enillion y cyflogai yn llai na £2,083 y mis, sef y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, ni fydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar gyfer y cyflogai hwn.
Enghraifft o gyflogai sy’n ennill dros y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 23 Mai 2024 sy’n cael ei dalu cyflog gros o £3,000 y mis (£36,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio ei holl amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr fel bod y cyflogai’n bodloni’r rheol 60%.
Yn ymarferol, nid yw’r cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Mae’r cyflogai a’r cyflogwr yn bodloni’r rheolau, ac felly mae’r cyflogwr yn hawlio’r rhyddhad.
Gan fod enillion y cyflogai yn fwy na £2,083, sef y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar y symiau uwchben y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi.
Enghraifft o gyflogai yn peidio â threulio 60% o’i amser gweithio ar safle treth arbennig
Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 1 Hydref 2022 sy’n cael cyflog gros o £3,000 y mis (£36,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 2 ddiwrnod (40% o’i amser gweithio) ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig a 3 diwrnod (60% o’i amser gweithio) yn gweithio o gartref. O ganlyniad i hyn, nid yw’r cyflogai yn bodloni’r rheol 60%.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Nid yw’r cyflogai yn bodloni’r rheolau ar gyfer hawlio’r rhyddhad, felly ni all y cyflogwr hawlio’r rhyddhad.
Bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd arferol, heb hawlio’r rhyddhad ar yr holl enillion uwchben y Trothwy Eilaidd (£758 y mis ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025).
Rhagor o wybodaeth
Dysgwch am wybodaeth ac arweiniad am Borthladdoedd Rhydd (yn agor tudalen Saesneg).
Dod o hyd i wybodaeth ac arweiniad am Barthau Buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg).
Gwiriwch pa safleoedd sy’n safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd dynodedig (yn agor tudalen Saesneg).
Gwiriwch pa Barthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
Added translation
-
The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.
-
References to Investment Zone special tax sites have been added.
-
Updated to explain the conditions for claiming National Insurance relief when an employee's working arrangements change substantially.
-
Welsh translation added.
-
First published.