Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio’r lwfans cyfalaf uwch mewn safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig neu safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig yn y DU

Dysgwch os gallwch hawlio’r lwfans cyfalaf uwch ar wariant cymhwysol ar gyfer offer a pheiriannau mewn safle treth Parth Buddsoddi arbennig neu safle treth Porthladd Rhydd arbennig yn y DU.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safleoedd treth arbennig yn ‘safleoedd treth Parthau Buddsoddi’ neu’n ‘safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu’r un darn o dir.

Gallwch hawlio’r lwfans cyfalaf uwch pan fyddwch yn prynu offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn safle treth arbennig.

Gellir hawlio’r rhyddhad ar gyfer gwariant o’r dyddiad y dynodir safle treth arbennig hyd at:

•30 Medi 2031, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd sy’n safleoedd treth arbennig yn Lloegr
•30 Medi 2034, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig yng Nghymru, neu Borthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban

Ni allwch hawlio hyd nes bod y safle treth Parth Buddsoddi arbennig neu’r safle treth Porthladd Rhydd arbennig perthnasol wedi’i ddynodi.

Gwirio pa safleoedd sy’n:

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gategorïau gwariant sy’n cynrychioli offer a pheiriannau. Darllenwch ragor o wybodaeth am arweiniad ar lwfans cyfalaf.

Dysgwch ragor am y canlynol:

Sut i fod yn gymwys

Gallwch hawlio’r lwfans ar gyfer gwariant cymhwysol ar gyfer offer neu beiriannau sy’n bodloni’r amodau canlynol:

  • mae’n rhaid i’r offer neu’r peiriannau gael eu defnyddio’n bennaf mewn safle treth arbennig dynodedig ar yr adeg pan fydd y gost yn cael ei ysgwyddo
  • mae’n rhaid i’r offer neu’r peiriannau fod heb eu defnyddio a ddim yn rhai ail law
  • mae’n rhaid i’r offer neu’r peiriannau gael eu defnyddio fel rhan o’ch gweithgaredd masnachu, neu weithgaredd sy’n deillio o dir lle mae’r elw neu’r colledion yn cael eu trin at ddibenion treth fel pe baent yn deillio o weithgaredd masnachu
  • mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth

Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio 100% o’r gwariant cymhwysol yn erbyn yr elw o’ch gweithgaredd cymwys ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y mae’n digwydd ynddo.

Gallwch ond hawlio 100% o’r gwariant cymhwysol y gellir ei briodoli i’r rhan o’r offer neu’r peiriannau sydd i’w defnyddio mewn safle treth arbennig lle mae’r canlynol yn berthnasol:

  • mae offer neu beiriannau cymhwysol hefyd i’w defnyddio y tu allan i safle treth arbennig
  • prif ddiben y gwariant yw cael y lwfans cyfalaf uwch ar gyfer y rhan honno sydd i’w defnyddio y tu allan i safle treth arbennig

Sut i hawlio’r rhyddhad

Mae’n rhaid i chi hawlio ar eich Ffurflen Dreth.

Tynnu’r rhyddhad yn ôl

Mae’n rhaid parhau i ddefnyddio’r offer neu’r peiriannau’n bennaf ar gyfer safle treth arbennig am 5 mlynedd o’r adeg y mae’r offer neu’r peiriannau:

  • yn cael eu defnyddio, am y tro cyntaf, mewn safle treth arbennig fel rhan o’ch gweithgaredd masnachu, neu eich gweithgaredd sy’n deillio o dir lle mae’r elw neu’r colledion yn cael eu trin at ddibenion treth fel pe baent yn deillio o weithgaredd masnachu
  • yn cael eu cadw, am y tro cyntaf, mewn safle treth arbennig er mwyn eu defnyddio ar gyfer eich gweithgaredd masnachu, neu ar gyfer eich gweithgaredd sy’n deillio o dir lle mae’r elw neu’r colledion yn cael eu trin at ddibenion treth fel pe baent yn deillio o weithgaredd masnachu

Dylai’r lwfans yr ydych wedi’i hawlio gael ei dynnu’n ôl os bydd yr offer, neu’r peiriannau, yn peidio â chael eu defnyddio’n bennaf mewn safle treth arbennig yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd.

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 3 mis o’r dyddiad y mae’r offer, neu’r peiriannau, yn peidio â chael eu defnyddio’n bennaf mewn safle treth arbennig.

Enghreifftiau

Enghraifft lle mae rhyddhad lwfans cyfalaf uwch yn cael ei hawlio ar gyfer offer a pheiriannau a ddefnyddir o fewn safle treth arbennig

Fe wnaethoch chi brynu offer a pheiriannau newydd gwerth £300,000 ym mis Mawrth 2024. Cafodd y rhain eu gosod fel nodweddion hanfodol yn eich warws newydd, y cwblhawyd y gwaith o’i adeiladu ar 22 Mawrth 2024. Roedd y warws wedi’i leoli mewn safle treth arbennig ar yr adeg y prynwyd yr offer a’r peiriannau.

Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

Yn y cyfnod trethadwy hyd at 31 Mawrth 2024, gallwch hawlio’r lwfans cyfalaf uwch ar gyfer cost yr holl offer a pheiriannau hyn, sef £300,000.

Enghraifft lle mae rhyddhad lwfans cyfalaf uwch yn cael ei hawlio ar gyfer offer a pheiriannau a ddefnyddir o fewn a thu allan i safle treth arbennig

Fe wnaethoch chi brynu 10 wagen fforch godi newydd yn costio £400,000 ym mis Awst 2023 i’w defnyddio yn eich busnes gweithgynhyrchu.

Mae gennych ffatri sydd wedi’i lleoli y tu allan i safle treth arbennig, ac rydych wedi bod yn ei defnyddio fel rhan o’ch busnes ers blynyddoedd lawer. Rydych wedi sefydlu ffatri arall sy’n fwy, sydd wedi’i lleoli mewn safle treth arbennig, ac wedi bod yn ei defnyddio fel rhan o’ch busnes ers 1 Awst 2023. Rydych chi’n disgwyl cynhyrchu ddwywaith cymaint o nwyddau o’r ffatri newydd hon o’i gymharu â’r ffatri arall.

Prynwyd y wagenni fforch godi er mwyn symud nwyddau o amgylch safleoedd y ffatri. Mae 3 ohonynt yn disodli hen wagenni fforch godi sy’n 6 mlwydd oed. Defnyddiwyd y rhain yn yr hen ffatri’n unig, a oedd wedi’i lleoli y tu allan i’r safle treth arbennig. Gallech fod wedi dynodi’r 3 wagen fforch godi newydd i’w defnyddio yn yr hen ffatri’n unig, ond gwnaethoch benderfynu dynodi’r 10 wagen fforc godi ar gyfer defnydd cymysg, a’u symud rhwng y safleoedd yn ôl yr angen. Gwnaethoch hyn am eich bod o’r farn y gallai hyn eich galluogi i gael y lwfans cyfalaf uwch ar gyfer y 10 wagen fforch godi.

Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf.

Bydd y wagenni fforch godi yn cyflawni eu prif ddefnydd mewn safle treth arbennig ond, ar adeg y prynu, roeddech hefyd yn bwriadu (i ryw raddau) defnyddio’r wagenni fforch godi mewn safle nad yw’n safle treth arbennig. Fodd bynnag, y prif ddiben o ddynodi’r wagenni ar gyfer defnydd cymysg, neu un o’r dibenion hynny, oedd cael lwfans blwyddyn gyntaf mewn perthynas â’r gwariant y gellir ei briodoli i’r defnydd y tu allan i’r safle treth arbennig.

Er mwyn cyfrifo’r lwfans cyfalaf uwch sydd ar gael, bydd angen i chi ddosrannu cost y wagenni fforch godi ar sail gyfiawn a rhesymol.

O’r wybodaeth yn yr enghraifft hon, gellid cyfrifo dosraniad y gwariant sy’n gymwys ar gyfer y lwfans cyfalaf uwch sydd ar gael ar gyfer y cyfnod trethadwy hyd at 31 Gorffennaf 2023 fel a ganlyn.

Er y disgwylir i’r wagenni fforch godi hyn gael eu defnyddio yn y ddwy ffatri, prynwyd 3 ohonynt i ddisodli’r offer presennol sy’n heneiddio a oedd wedi’u defnyddio y tu allan i’r safle treth arbennig yn unig.

O ganlyniad, bydd angen dosraniad er mwyn cynnwys dim ond y rhan o’r gwariant y gellir ei briodoli i’r defnydd arfaethedig yn y safle treth arbennig.

Byddai angen gwneud y dosraniad ar sail gyfiawn a rhesymol, y gellid ei amcangyfrif yn yr enghraifft hon drwy ddefnyddio nifer y nwyddau a gynhyrchir o bob ffatri.

Gan fod disgwyl i’r ffatri newydd gynhyrchu ddwywaith cymaint o nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu o’i gymharu â’r ffatri hŷn, gellid amcangyfrif y dosraniad gan ddefnyddio cymhareb o 2:1.

Dosraniad o’r gwariant sydd i’w briodoli i’r ffatri newydd ac sy’n gymwys ar gyfer lwfansau cyfalaf uwch fydd £400,000 × 2 ÷ 3 = £266,667.

Lwfans cyfalaf uwch ar gael = £266,667.

Bydd rhyddhad ar gael trwy lwfansau cyfalaf eraill ar gyfer y rhan honno o’r gwariant nad yw’n gymwys ar gyfer y lwfans cyfalaf uwch (£133,333).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Gorffennaf 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.

  3. Information about Investment Zones has been added.

  4. Welsh translation added.

  5. First published.

Print this page