Gwiriwch os oes angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd
Cael gwybod a oes angen i’ch busnes gofrestru gyda CThEF i dalu’r Ardoll Troseddau Economaidd.
Mae’r Ardoll Troseddau Economaidd yn berthnasol i fusnesau sydd o dan oruchwyliaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy yw’r rhai nad oes angen iddynt gofrestru gyda CThEF
Nid oes angen i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd os ydych o dan oruchwyliaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian gan unrhyw un o’r awdurdodau casglu canlynol:
- yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
- y Comisiwn Hapchwarae
- CThEF a’r FCA
- CThEF a’r Comisiwn Hapchwarae
Mae angen i chi ddilyn arweiniad yr FCA, neu arweiniad y Comisiwn Hapchwarae, a thalu’r ardoll i un o’r awdurdodau casglu hyn.
Peidiwch â chofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, cyflwyno datganiadau Ardoll Troseddau Economaidd, na thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd i CThEF.
Pwy yw’r rhai sydd angen cofrestru gyda CThEF
Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF os yw swm eich refeniw yn y DU dros £10.2 miliwn ar gyfer yr holl gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben cyn pen un flwyddyn ariannol, a bod eich busnes yn cael ei reoleiddio gan y naill neu’r llall o’r canlynol:
- CThEF, at ddibenion gwrth-wyngalchu arian
- corff proffesiynol, at ddibenion gwrth-wyngalchu arian
Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Os nad yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg am 12 mis, caiff y trothwy o £10.2 miliwn ei ddiweddaru ar sail pro rata gan ddefnyddio nifer y diwrnodau sydd yn y cyfnod cyfrifyddu perthnasol.
Unwaith yn unig sydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, ond bydd angen i chi gyflwyno datganiad a thalu’r ardoll bob blwyddyn.
Os ydych yn rhan o grŵp busnes
Bydd yr ardoll ond yn berthnasol i aelodau o’r grŵp sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru.
Mae’n rhaid i bob aelod o’r grŵp busnes gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd ar wahân.
Os ydych yn rhan o bartneriaeth
Mae’n rhaid i’r partner enwebedig gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd ar ran y bartneriaeth.
Sut i gofrestru
Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 25 Mai 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added clarification about entities who do not need to register for the Economic Crime Levy. Moved section about the amount to pay to the 'Pay your Economic Crime Levy' page.
-
A translation has been added.
-
First published.