Talu’ch Ardoll Troseddau Economaidd
Sut i dalu’r Ardoll Troseddau Economaidd, a faint o amser y mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi wneud taliad, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi dalu’r ardoll erbyn 30 Medi bob blwyddyn.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Y swm i’w dalu
Bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar eich refeniw yn y DU ar gyfer yr holl gyfnodau ariannol sy’n dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol.
Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Mae yna bedwar band sy’n seiliedig ar refeniw yn y DU:
- endidau bychan (refeniw yn y DU hyd at £10.2 miliwn)
- endidau canolig (refeniw yn y DU sydd rhwng £10.2 miliwn a £36 miliwn)
- endidau mawr (refeniw yn y DU sydd rhwng £36 million ac £1 billion)
- endidau mawr iawn (refeniw yn y DU sydd dros £1 biliwn)
Os nad yw’ch cyfnod cyfrifyddu perthnasol yn rhedeg am 12 mis, caiff ystodau’r bandiau eu diweddaru ar sail pro rata gan ddefnyddio nifer y diwrnodau sydd yn y cyfnod cyfrifyddu perthnasol.
Nid oes angen i endidau bychan dalu’r ardoll, fodd bynnag:
- mae’n rhaid i endidau canolig dalu £10,000
- mae’n rhaid i endidau mawr dalu £36,000
- mae’n rhaid i endidau mawr iawn dalu £500,000
Mae’n bosibl y bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn gostwng os ydych yn cynnal gweithgareddau a reoleiddir am ran o’r flwyddyn ariannol yn unig.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y cyfeirnod ar gyfer eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Mae’n 14 digid ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
- yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF, os gwnaethoch gofrestru ar-lein
- yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu yn gywir.
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
- cymeradwyo taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
- Debyd Uniongyrchol
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Mae’n rhaid i chi wirio gyda’ch banc i sicrhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif ar y dyddiad rydych wedi dewis ein talu.
Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol
Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y cyfrif.
Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.
Gwneud taliad unigol
Bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF.
Dylech drefnu’r taliad o leiaf:
- 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad cau eich Ffurflen Dreth y tro cyntaf rydych ei wneud
- 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad dyledus eich Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio’r un manylion banc â thaliad sengl blaenorol
Bydd y taliadau yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC NDDS’.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 12529599
- enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC 2005 1740 2043 74
-
Cod Adnabod y Banc (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC General Business Tax Receipts
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Os ydych wedi talu gormod
Dysgwch sut i ofyn am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o’r Ardoll Troseddau Economaidd.
Cysylltu â CThEF i gael help gyda’r Ardoll Troseddau Economaidd
Dylech dim ond ffonio CThEF i gael help gyda’r Ardoll Troseddau Economaidd os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein harweiniad neu’n gwasanaethau ar-lein.
Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.
Sicrhewch fod eich manylion a’ch cyfeiriadau yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi’u diweddaru, neu mae’n bosibl byddwch yn methu’r camau diogelwch dros y ffôn.
Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:
- yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
- yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
- yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno
Ffôn: 0300 322 9621
Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc
Gwybodaeth am gostau galwadau
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 31 Awst 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added a section 'How much to pay'. The levy for very large entities has been updated from £250,000 to £500,000.
-
The payment details used to pay by bank transfer have been updated.
-
The section 'What you need' has been updated to remove reference to receiving payment reminders when an incorrect reference number is used.
-
Added information about how to contact HMRC for help with Economic Crime Levy.
-
Information about checking with your bank to make sure your payment has left your account has been added.
-
Information about when to select a payment date using your online bank account has been added to the 'pay online' section.
-
Link added to new guidance on how to claim a refund, if you've paid too much.
-
Guidance about how to make a payment online has been added.
-
First published.