Gwirio pa gostau Ymchwil a Datblygu (R&D) y gallwch eu hawlio
Dysgwch pa gostau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu, os ydych am hawlio ar gyfer eich prosiect ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y bydd yn rhaid i chi eu cymryd cyn dod i wybod pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.
I gael gwybod pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio, mae angen i chi wneud y canlynol:
- gwirio a yw’r gweithgarwch Ymchwil a Datblygu yn gymwys i gael rhyddhad
- gwirio pa gostau yr ydych yn cael eu hawlio ar y gweithgarwch
- cynnwys costau o ddechrau hyd at ddiwedd eich prosiect yn unig
Mae Ymchwil a Datblygu yn cychwyn pan fydd gwaith yn dechrau datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, ac yn dod i ben pan fydd yr ansicrwydd hwnnw wedi’i ddatrys neu pan ddaw’r gwaith i’w ddatrys i ben.
Mae’n rhaid eich bod eisoes wedi talu’r gost cyn y byddwch yn gallu hawlio’r rhyddhad treth. Nid yw costau nas talwyd cyn i’r hawliad gael ei wneud yn gymwys.
Mae pryd y dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu yn cael effaith ar p’un a allwch hawlio ar gyfer Ymchwil a Datblygu mae eich cwmni wedi ei gynnal ar ran cwmni arall, taliadau yr ydych wedi eu gwneud i gontractwyr a chyfraniadau Ymchwil a Datblygu ar gyfer Ymchwil a Datblygu annibynnol. Pan fydd y rheolau’n wahanol, rydym yn rhoi esboniad yn y canllaw hwn.
Gwirio pa weithgareddau Ymchwil a Datblygu y gallwch hawlio’r costau arnynt
Gallwch hawlio’r costau caniataol, a restrir ar y dudalen hon, sy’n ymwneud â’ch gweithgarwch Ymchwil a Datblygu uniongyrchol ac sy’n ymwneud a ‘gweithgarwch anuniongyrchol cymhwysol’.
Tasgau sy’n ffurfio rhan o’r prosiect ond nid ydynt yn cyfrannu’n uniongyrchol i’r canlyniad yw gweithgarwch anuniongyrchol cymhwysol.
Gallwch hawlio’r costau caniataol ar y gweithgarwch anuniongyrchol cymhwysol canlynol:
- gwasanaethau gwybodaeth wyddonol a thechnolegol, megis paratoi’r adroddiad gwreiddiol ynghylch canfyddiadau’r gwaith Ymchwil a Datblygu
- cynnal a chadw
- diogelwch — ar yr amod ei fod yn ymwneud â’r prosiect ymchwil a datblygu yn unig
- gweinyddu
- gweithgarwch clerigol
- gweithgarwch ariannol a phersonél
- cynnal a chadw offer Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys cyfrifiaduron a ddefnyddir at ddibenion Ymchwil a Datblygu — os yw’n hanfodol i gyflawni’r Ymchwil a Datblygu
- ymchwil a gafodd ei chynnal mewn prifysgolion gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr
- ymchwil (gan gynnwys casglu data perthnasol) i greu dulliau profi, arolygu neu samplu gwyddonol neu dechnolegol newydd, lle nad yw’r ymchwil hon yn Ymchwil a Datblygu yn ei rhinwedd ei hun
- astudiaethau dichonoldeb i lywio cyfeiriad strategol gweithgarwch Ymchwil a Datblygu penodol
Os ydych wedi cael cymorth gwladwriaethol, grantiau neu gymorth ariannol arall (costau cymorthdaledig)
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024
Os ydych yn gwmni mawr, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) i hawlio’r costau caniataol a restrir ar y dudalen hon.
Os ydych yn fenter bach a chanolig (MBaCh) dylech wirio a ydych wedi cael cymhorthdal ar gyfer bob prosiect yr ydych yn hawlio ar ei gyfer. Os ydych wedi cael cymorth gwladwriaethol hysbysedig dim ond y costau caniataol, a restrir ar y dudalen hon, y gallwch eu hawlio gan ddefnyddio’r cynllun RDEC.
Os ydych yn fenter bach a chanolig ac rydych wedi cael unrhyw grant neu gymorth ariannol arall ac nad yw’r cymhorthdal wedi talu’ch costau i gyd, yna:
- gallwch hawlio ar gyfer y rhan nad yw wedi’i gwmpasu gan ddefnyddio’r cynllun rhyddhad treth ar gyfer mentrau bach a chanolig
- mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer y rhan sydd wedi’i gwmpasu drwy ddefnyddio’r cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Nid oes unrhyw gyfyngiad ar hawlio costau cymorthdaledig o dan y cynllun cyfun neu gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys.
Ymchwil a Datblygu y mae’ch cwmni wedi’i wneud ar ran cwmni arall
Yn y senario hwn:
- eich cwmni yw’r contractwr
- y cwmni yr ydych y gwneud y gwaith ar ei gyfer yw’r cwsmer
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024
Gallwch ond hawlio’r costau caniataol, a restrir ar y dudalen hon, ar gyfer gwaith sydd wedi’i gontractio i chi gan y canlynol:
- cwmnïau mawr
- person nad yw’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU
Os ydych yn bodloni’r amodau hyn, rhaid i bob cwmni (mentrau bach a chanolig a chwmnïau mawr) hawlio gostyngiad treth gan ddefnyddio’r cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC). Ni allwch hawlio drwy ddefnyddio’r cynllun rhyddhad treth mentrau bach a chanolig.
Os contractiwyd y gwaith i chi gan unrhyw fath arall o gwmni neu berson, ni allwch hawlio’r costau.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Mae hyn yn berthnasol i bob cwmni.
Dim ond y cwmni sy’n gwneud y penderfyniad bod angen cynnal Ymchwil a Datblygu sy’n gallu hawlio’r rhyddhad treth.
Gallwch hawlio am y costau caniataol, a restrir ar y dudalen hon, am waith rydych wedi’i wneud i gyflawni contract, os gallwch ddarparu tystiolaeth sy’n dangos bod eich cwmni:
- wedi gwneud y penderfyniad i gynnal yr Ymchwil a Datblygu
- wedi cynllunio’r Ymchwil a Datblygu
Ni all y cwmni rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran fod wedi cychwyn yr Ymchwil a Datblygu nac yn gwybod yr oedd angen gwneud hyn i gyflawni’r contract.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad ar reolau newydd o ran contractio allan a chyfyngiadau tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Staff a gyflogir gan eich cwmni
Staff sy’n cynnal gwaith ar y prosiect Ymchwil a Datblygu
Gallwch hawlio costau staff am yr amser y maent wedi’i dreulio yn gweithio ar y prosiect Ymchwil a Datblygu, mae hyn yn cynnwys:
- bonysau
- cyflogau
- cyflogau
- cyfraniadau i gronfa bensiwn
- cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd a delir gan y cwmni
- costau hyfforddi staff
Er enghraifft, os yw aelod o staff yn gwario 90% o’i amser y gweithio ar weithgarwch Ymchwil a Datblygu a 10% o’i amser yn gweithio ar weithgarwch arall yn eich cwmni, gallwch hawlio 90% o’i gyflog.
Staff yn cynnal gweithgareddau ategol ar gyfer y prosiect Ymchwil a Datblygu
Gallwch hawlio cyfran o gost y staff ar gyfer unrhyw un sy’n cyflawni gwaith i gefnogi’r prosiect, ond nad yw’n cyfrannu’n uniongyrchol at y canlyniad. Gelwir y rhain yn ‘weithgarwch anuniongyrchol cymhwysol’.
Mae hyn yn cynnwys staff gweinyddol neu gynorthwyol, er enghraifft, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:
- adnoddau dynol a ddefnyddir i recriwtio person penodol i weithio ar y prosiect
- staff glanhau arbenigol
Os oes gan yr aelod o staff ddyletswyddau eraill, gallwch hawlio’r gost am yr amser y mae wedi’i dreulio yn cyflawni’r dasg a gefnogodd y gwaith Ymchwil a Datblygu. Ni allwch hawlio 100% o gostau staff.
Costau staff na allwch eu hawlio
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- taliadau diswyddo
- costau staff ar gyfer gwaith clerigol neu waith cynnal a chadw a fyddai wedi’i wneud beth bynnag, megis rheoli’r gyflogres
Staff a gyflenwir gan asiantaeth gyflogaeth neu ddarparwr staff
Weithiau gelwir y costau hyn yn ‘gostau gweithiwr a ddarperir yn allanol (EPW)’.
Darllenwch yr arweiniad ar reolau newydd o ran contractio a chyfyngiadau tramor (yn agor tudalen Saesneg), os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
- mae’r gweithgarwch Ymchwil a Datblygu yn digwydd dramor
Os nad yw hyn yn berthnasol, mae’r hyn yr ydych yn ei hawlio yn dibynnu ar a yw’r darparwr staff yn gysylltiedig â’ch cwmni.
Darparwyr staff sy’n gysylltiedig â’ch cwmni
Gallwch hawlio p’un bynnag sydd isaf o’r canlynol:
- 100% o’r taliad darpariaeth staff a wneir gan eich cwmni
- 100% o’r costau a ysgwyddir gan y darparwr staff am gyflenwi’r gweithwyr
Os oes angen help arnoch i benderfynu a yw’ch cwmni’n gysylltiedig, darllenwch CIRD82150 personau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg).
Darparwyr staff nad ydynt yn gysylltiedig â’ch cwmni
Gallwch hawlio 65% o’r taliadau darpariaeth staff a wneir i ddarparwr staff am gyflenwi’r gweithwyr.
Eitemau traul
Eitemau traul yw pethau sy’n cael eu defnyddio yn ystod y prosiect Ymchwil a Datblygu.
Gallwch hawlio am y gyfran o eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys:
- tanwydd
- deunyddiau, cemegion neu gynhwysion
- pŵer
- dŵr
Ni allwch hawlio’r costau os byddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth yr eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu.
Meddalwedd
Gallwch hawlio ar gyfer ffioedd trwyddedau ar gyfer meddalwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Ymchwil a Datblygu, a chyfran resymol o’r costau ar gyfer meddalwedd a ddefnyddir yn rhannol yn ystod eich gweithgarwch Ymchwil a Datblygu.
Os defnyddir y meddalwedd:
- bron yn gyfan gwbl ar gyfer y gwaith Ymchwil a Datblygu, byddai canran uchel yn rhesymol
- yn bennaf ar gyfer tasgau eraill y tu allan i’r Ymchwil a Datblygu, byddai canran llawer is yn rhesymol
Costau trwydded data a chyfrifiadura cwmwl
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, mae gwariant cymhwysol yn cynnwys costau trwydded data a chostau cyfrifiadura cwmwl.
Mae trwydded data yn drwydded i gael mynediad at gasgliad o ddata digidol, a’i ddefnyddio.
Mae cyfrifiadura cwmwl yn cynnwys:
- storio data
- cyfleusterau caledwedd
- systemau gweithredu
- llwyfannau meddalwedd
Gallwch hawlio am y rhan fwyaf o gostau data a chyfrifiadura cwmwl a dreulir ar Ymchwil a Datblygu. Ni allwch hawlio costau data chyfrifiadura cwmwl sy’n weithgarwch anuniongyrchol cymhwysol.
Taliadau yr ydych wedi eu gwneud i gontractwyr am Ymchwil a Datblygu
Yn y senario hwn:
- eich cwmni yw’r cwsmer
- y cwmni neu’r person sy’n gwneud y gwaith ar eich cyfer yw’r contractwr
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024
Mae’r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint eich cwmni neu a yw eich prosiect yn cael cymhorthdal.
Os ydych yn gwmni mawr, neu’n fenter bach a chanolig (MBaCh) ac wedi cael cymhorthdal sy’n talu’ch holl gostau, ni ellir hawlio gwariant dan gontract oni bai ei fod yn cael ei wneud yn uniongyrchol trwy’r canlynol:
- corff cymwys, er enghraifft elusen, sefydliad addysg uwch, sefydliad ymchwil wyddonol neu gorff gwasanaeth iechyd
- unigolyn
- cwmni lle mae pob aelod yn unigolyn
Pan fyddwch yn bodloni’r amodau hyn, gallwch hawlio 100% o’r taliad yr ydych yn ei wneud i’r contractwr.
Ar gyfer pob MBaCh arall, gallwch hawlio ar gyfer contractwyr sy’n cyflawni’r gwaith Ymchwil a Datblygu. Nid oes cyfyngiad ar bwy sy’n ei gyflawni.
Ar gyfer contractwyr sy’n gysylltiedig â’ch cwmni, gallwch hawlio p’un bynnag sydd isaf o’r canlynol:
- 100% o’r taliad i’r contractwr a wnaed gan eich cwmni
- 100% o gostau perthnasol y contractwyr a godwyd wrth wneud y gwaith — dyma’r gwariant a fyddai wedi bod yn gymwys pe bai wedi ei godi ar eich cwmni
Ar gyfer contractwyr nad yw’n gysylltiedig â’ch cwmni , gallwch hawlio 65% o daliad y contractwr.
I bennu a yw’ch busnes yn gysylltiedig â’r contractwr, darllenwch CIRD82150, personau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg).
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Nid yw maint eich cwmni ac os yw’r prosiect wedi cael cymhorthdal yn berthnasol mwyach. Ond dim ond y cwmni sy’n gwneud y penderfyniad bod angen i Ymchwil a Datblygu gael ei wneud sy’n gallu hawlio’r rhyddhad treth.
Gallwch hawlio am y costau o gontractio allan eich Ymchwil a Datblygu eich hun i berson neu gwmni arall, os gallwch ddarparu tystiolaeth sy’n dangos bod eich cwmni:
- wedi gwneud y penderfyniad i gynnal yr Ymchwil a Datblygu
- wedi cynllunio’r Ymchwil a Datblygu
Ar gyfer contractwyr sy’n gysylltiedig â’ch cwmni, gallwch hawlio p’un bynnag sydd isaf o’r canlynol:
- 100% o’r taliad i’r contractwr a wnaed gan eich cwmni
- 100% o gostau perthnasol y contractwyr a godwyd wrth wneud y gwaith — dyma’r gwariant a fyddai wedi bod yn gymwys pe bai eich cwmni wedi gwneud y gwaith ei hun
Ar gyfer contractwyr nad yw’n gysylltiedig â’ch cwmni , gallwch hawlio 65% o daliad y contractwr.
I bennu a yw’ch busnes yn gysylltiedig â’r contractwr, darllenwch CIRD82150, personau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg).
Gyda rhai eithriadau, ni allwch hawlio costau wedi’u contractio lle mae’r gweithgarwch Ymchwil a Datblygu yn digwydd dramor.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad ar reolau newydd o ran contractio allan a chyfyngiadau tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfraniadau ar gyfer Ymchwil a Datblygu annibynnol
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024
Mae’r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar o dan ba gynllun y gallwch hawlio. Gallwch ond hawlio drwy ddefnyddio’r cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC). Ni allwch hawlio drwy ddefnyddio’r cynllun rhyddhad treth menter bach a chanolig (MBaCh).
Gallwch hawlio cyfraniadau a wneir ar gyfer Ymchwil a Datblygu annibynnol gan ddefnyddio’r cynllun Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC), cyn belled â bod y person sy’n derbyn y cyfraniad yn un o’r canlynol:
- corff cymwys
- unigolyn
- cwmni lle mae pob aelod yn unigolyn
Ni allant fod yn gysylltiedig â’ch cwmni.
Rhaid i’r Ymchwil a Datblygu annibynnol:
- fod yn berthnasol i’ch masnach
- peidio â chael ei gontractio gan eich cwmni
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Ni allwch hawlio’r gost hon mwyach am gyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Gwirfoddolwyr treialon clinigol
Gallwch hawlio am daliadau a wneir i’r rheini sy’n gwneud treialon clinigol ar gyfer, er enghraifft cyffuriau newydd neu dechnegau meddygol.
Costau na allwch eu hawlio
Gallwch ond hawlio’r costau a restrir ar y dudalen hon, ni allwch hawlio unrhyw gostau eraill.
Er enghraifft, ni allwch hawlio ar gyfer y canlynol:
- cynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau
- gwariant cyfalaf
- cost y tir
- cost y patentau a nodau masnach
- costau rent, cyfraddau neu brydlesu
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
I gael rhagor o wybodaeth am gostau Ymchwil a Datblygu, darllenwch CIRD8200, categorïau o wariant cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg).
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024
Ar ôl i chi wirio’r costau y gallwch eu hawlio, dysgwch am y cyfraddau rhyddhad treth y gallwch eu hawlio. Mae 2 fath gwahanol o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, yn dibynnu ar faint eich cwmni ac a yw’r prosiect wedi’i is-gontractio i chi, neu ei fod yn cael cymhorthdal, neu’r ddau.
Mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad o dan y credyd gwariant ymchwil a datblygu (RDEC) os ydych yn un o’r canlynol:
- cwmni mawr
- menter bach a chanolig (MBaCh) sydd wedi’i gontractio i wneud Ymchwil a Datblygu gan gwmni mawr
- menter bach a chanolig (MBaCh) sydd â chostau cymorthdaledig
Rhaid i bob menter bach a chanolig arall hawlio drwy ddefnyddio’r cynllun rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Ar ôl i chi wirio’r costau y gallwch eu hawlio, dysgwch am y cyfraddau rhyddhad treth y gallech eu hawlio gan ddefnyddio’r cynllun cyfun neu gynllun cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys.