Casgliad

Hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Gwybodaeth am y gwahanol fathau o ryddhad ar gyfer cwmnïau sy’n gweithio ym maes Ymchwil a Datblygu, sut i gael gwybod a allwch hawlio, a beth i’w wneud cyn i chi hawlio.

Mae rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu (R&D) yn rhoi cymorth i gwmnïau yn y DU sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg. 

Er mwyn hawlio rhyddhadau treth R&D, mae’n rhaid i’ch prosiect fodloni meini prawf penodol, a bydd y math o fusnes sydd gennych a’ch cyfnod cyfrifyddu’n effeithio ar y math o ryddhad y gallwch ei hawlio. 

Dilynwch y camau a argymhellir er mwyn cael gwybod a yw’ch prosiect yn gymwys, a beth mae angen i chi ei wneud.

Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi dalu cosb os gwnewch hawliad anghymwys.

Cam 1 — Cael gwybod a allwch hawlio

Dysgwch a yw’ch gwaith yn gymhwysol fel R&D, a dysgwch am y rhyddhadau gwahanol y gallai’ch cwmni eu hawlio.

Mae hawliadau nad ydynt fel arfer yn gymwys yn cynnwys hawliadau a wneir gan y canlynol:

  • cartrefi gofal

  • darparwyr gofal plant

  • hyfforddwyr personol

  • cyfanwerthwyr a manwerthwyr

  • tafarndai

  • bwytai

Rhagor o wybodaeth (yn agor tudalen Saesneg)

Cam 2 — Gwirio a yw’ch costau’n gymhwysol

Dysgwch pa rai o gostau’ch prosiect sy’n gymhwysol ar gyfer y rhyddhad R&D rydych yn ei hawlio.

Cam 3 — Cael gwybod pa ryddhad y gallwch ei hawlio

Dysgwch pa ryddhad y dylech ei hawlio, yn dibynnu ar y math o gwmni sydd gennych a’r cyfnod cyfrifyddu rydych eisiau hawlio ar ei gyfer. 

Mae’r cynllun MBaCh ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024.

Mae’r cynllun cyfun ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.

Cam 4 — Gwirio a allwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw

Os ydych yn fenter bach neu ganolig a’ch bod heb hawlio o’r blaen, efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r cynllun sicrwydd ymlaen llaw er mwyn cadarnhau a yw’ch prosiect yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth R&D.

Gallwch ei ddefnyddio fel gwarant y bydd eich hawliad R&D yn cael ei dderbyn os yw’n unol â’r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd yn eich cais.

Cam 5 — Rhoi gwybod i CThEF eich bod am wneud cais am ryddhad R&D

Gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF ymlaen llaw eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad R&D. Dysgwch am yr wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi, a sut i anfon ffurflen ar gyfer rhoi gwybod am hawliad.

Cam 6 — Cyfrifo’ch rhyddhad treth R&D

Dysgwch sut i gyfrifo faint y gallwch ei hawlio.

Cam 7 — Gwybodaeth sydd ei hangen arnom cyn i chi hawlio

Dysgwch pa wybodaeth y mae angen i chi ei chyflwyno cyn i chi wneud eich hawliad ar gyfer R&D, a sut i wneud hyn.

Cam 8 — Cyflwyno’ch hawliad ar gyfer rhyddhad treth R&D

Dysgwch sut i gyflwyno’ch hawliad gan ddefnyddio’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Gorffennaf 2023 + show all updates
  1. The information about when you must submit an additional information form has been updated from 1 August 2023 to 8 August 2023

  2. First published.