Canllawiau

Hawlio’r Haen Cyfradd Sero Preswyl

Hawliwch yr Haen Cyfradd Sero Preswyl (RNRB) yn erbyn ystâd rhywun sydd wedi marw, gan ddefnyddio ffurflen IHT435.

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud hawliad am yr Haen Cyfradd Sero Preswyl (RNRB) yn erbyn ystâd rhywun sydd wedi marw, cyhyd â bod y canlynol yn wir:

  • bu farw’r ymadawedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017
  • mae’r ystâd yn cynnwys man preswylio yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno
  • mae’r man preswylio yn yr ystâd yn cael ei etifeddu gan ddisgynyddion uniongyrchol yr ymadawedig

Gall RNRB hefyd fod yn berthnasol os gwnaeth yr ymadawedig naill ai symud i fan preswylio llai o faint a llai o werth, neu werthu neu roi man preswylio i ffwrdd ar neu ar ôl 8 Gorffennaf 2015.

Sut i lenwi’r ffurflen

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch hi gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Gwneud cais ar gyfer haen cyfradd sero preswyl

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os na fydd y ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

I ble y dylid anfon y ffurflen

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon, anfonwch hi i:

Treth Etifeddiant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Hawliad i drosglwyddo unrhyw haen cyfradd sero preswyl sydd heb ei defnyddio (IHT436)
Hawliwch yr Haen Cyfradd Sero Preswyl Drosglwyddadwy (TRNRB) yn erbyn y Dreth Etifeddiant ar ystâd yr ymadawedig.

Treth Etifeddiant: Haen Cyfradd Sero Preswyl (RNRB) (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybod i chi sut mae’r lwfans cartref newydd, neu RNRB, yn gweithio at ddibenion Treth Etifeddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Hydref 2024 + show all updates
  1. An updated version of the form IHT435 has been added.

  2. Guidance about the Transferable Residence Nil Rate Band from more than one pre-deceased spouse or civil partner on the IHT435 form has been updated.

  3. Added translation

Print this page