Cwyno am staff CThEF sydd wedi camymddwyn yn ddifrifol
Sut i gwyno am staff CThEF sydd wedi camymddwyn yn ddifrifol a sut y caiff eich cwyn ei thrin.
Os oes gennych gŵyn am ymddygiad staff, cysylltwch â CThEF cyn gynted â phosibl.
Mae CThEF yn cymryd cwynion o ddifrif am ei staff yn camymddwyn yn ddifrifol. Ystyrir camymddygiad difrifol i fod yn unrhyw ymddygiad sydd yn:
- anghyfreithlon
- cyfiawnhau achosion disgyblaeth a gallai arwain at ddiswyddo os yw’n cael ei brofi
Mae camymddygiad difrifol yn cynnwys:
- ymosodiad
- llwgrwobrwyo
- twyll
- datgelu gwybodaeth cwsmeriaid heb awdurdod
Sut i gwyno
Bydd angen i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni, gan gynnwys:
- eich enw llawn a’ch cyfeiriad
- eich cyfeirnod (er enghraifft, rhif Yswiriant Gwladol, cyfeirnod treth, rhif TAW neu gyfeirnod cyflogwr)
- yr hyn a aeth o’i le
- pryd y digwyddodd hyn
- pwy y gwnaethoch ddelio ag ef
- pa effaith y cafodd ein gweithredoedd arnoch
- sut yr hoffech i ni ddatrys y mater
Cwyno ar-lein
Gallwch wneud y canlynol:
Bydd angen ID Defnyddiwr arnoch i wneud cwyn ar-lein. Os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi.
Cwyno dros y ffôn neu drwy’r post
Gallwch hefyd wneud cwyn wrth CThEF dros y ffôn neu drwy’r post.
Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn wrth CThEF
Bydd eich cwyn yn cael ei hadolygu gan rywun yn CThEF nad oedd yn gysylltiedig o’r blaen. Byddant yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.
Mae’n bosibl y bydd corff annibynnol yn edrych ar eich cwyn os yw’n ymwneud â’r canlynol:
- camymddwyn difrifol
- marwolaeth neu anaf difrifol yn dilyn cysylltiad â staff CThEF
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yw’r corff annibynnol yng Nghymru a Lloegr.
Corff annibynnol yr Alban yw naill ai:
- Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal (COPFS) (yn agor tudalen Saesneg), os gwnaethoch gŵyn am gamymddwyn difrifol
- Comisiynydd Ymchwilio ac Adolygu’r Heddlu (PIRC) (yn agor tudalen Saesneg), os gwnaethoch gŵyn am farwolaeth neu anaf difrifol ar ôl cysylltiad â CThEF
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw oruchwyliaeth annibynnol yng Ngogledd Iwerddon. Ymdrinnir â chŵynion am gamymddygiad staff o dan broses trin cwynion CThEF.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os yw’ch cwyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ei chyfeirio at gorff allanol, byddwn yn gwneud y canlynol:
- atgyfeirio at yr awdurdod perthnasol
- rhoi’r diweddaraf i chi ynglŷn â beth fydd yn digwydd nesaf
Os nad yw’ch cwyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ei hatgyfeirio, bydd ein tîm cwynion yn ateb eich cwyn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2024 + show all updates
-
Information about how to complain to HMRC and how your complaint will be dealt with has been added.
-
The way you send your complaint to HMRC has changed.
-
Added the contact address for complaints about serious misconduct.
-
First published.