Cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau am ei bolisïau
Anfonwch gwestiwn i dîm gohebiaeth weinidogol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Mae’r DWP yn gyfrifol am bolisïau lles, pensiynau a chynhaliaeth plant.
Nod ein tîm gohebiaeth gweinidogol yw ateb cwestiynau am ein polisïau o fewn 4 wythnos.
Rydyn ni’n aml yn cael ymholiadau am y pynciau canlynol. Gwiriwch y canllawiau os oes angen:
- darganfyddwch sut a phryd y telir eich budd-daliadau
- gwneud cais am fudd-dal neu daliad
- dywedwch wrthym am newid yn eich amgylchiadau (fel symud adref)
- herio penderfyniad budd-dal (a elwir hefyd yn gofyn am ailystyriaeth orfodol)
- apelio penderfyniad budd-dal (ar ôl i chi gael penderfyniad ailystyriaeth orfodol)
- cwyno am y gwasanaeth rydych chi wedi ei dderbyn
- gofyn am yr wybodaeth bersonol mae DWP yn ei chadw amdanoch chi
- gwneud cais rhyddid gwybodaeth
Cysylltwch â’r swyddfa rydych chi fel arfer yn delio â hi os oes gennych gwestiwn am eich hawliad budd-dal neu eich Pensiwn y Wladwriaeth.
E-bostio’r tîm gohebiaeth gweinidogol
Anfonwch eich cwestiwn gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar-lein .
Ysgrifennu i’r tîm gohebiaeth gweinidogol
Peidiwch ag anfon ceisiadau budd-daliadau i’r cyfeiriad hwn. Ni fyddant yn cael eu trin. Darganfyddwch sut i wneud cais am fudd-daliadau.
Tîm Gohebu'r Gweinidogion
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9NA
Cyfeirio dogfennau cyfreithiol at Adran Gyfreithiol y Llywodraeth.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Ionawr 2024 + show all updates
-
Legal documents should now be sent to the Government Legal Department instead of DWP Litigation Department.
-
First published.