Canllawiau

Gofyn am eich gwybodaeth bersonol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Gelwir hyn yn 'hawl mynediad'.

Os ydych angen prawf o gais am fudd-dal

Gellir defnyddio llythyr prawf budd-dal i ddangos eich hanes gwaith, profi eich bod yn byw yn y DU neu fod gennych hawl i bethau fel:

  • prydau ysgol am ddim
  • cyllid ar gyfer profion llygaid, hyfforddiant a theithio
  • budd-daliadau eraill

Gall hefyd helpu gydag unrhyw ymholiadau trwydded teledu.

Gallwch gysylltu â ni i gael copi o:

  • y symiau (cyfraddau) o fudd-dal a gewch a’r dyddiadau rydych yn cael eich talu
  • eich nodyn ffitrwydd olaf
  • eich llythyr hawl i fudd-dal (os o fewn y 5 mlynedd diwethaf)
  • tystiolaeth a ddefnyddir mewn anghydfod neu ymchwiliad
  • eich rhagolwg pensiwn
  • gwybodaeth eich cyfrif Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Cael llythyr prawf budd-dal ar-lein

Gallwch gael llythyr prawf budd-dal ar-lein os ydych ar hyn o bryd yn cael:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol a bod gennych gyfrif ar-lein, gallwch arbed copi o’ch datganiad Credyd Cynhwysol.

Os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes ydych angen mwy o wybodaeth

Bydd angen i chi ffonio’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal os ydych:

  • angen llythyr i brofi eich bod yn cael budd-dal gwahanol
  • angen llythyr wedi’i anfon atoch yn Gymraeg, neu mewn ffurf arall fel braille
  • wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar a heb ddiweddaru’r cyfeiriad ar eich cofnod budd-daliadau
  • yn byw y tu allan i Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon

Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar lythyr y maent wedi’i anfon atoch, neu drwy ganllawiau am y budd-dal.

Os ydych eisiau mynediad at ddelweddau teledu cylch cyfyng

Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am ddiogelwch swyddfa DWP fel arfer yn rheoli mynediad i ddelweddau teledu cylch cyfyng. Os ydych am gael mynediad at ddelweddau teledu cylch cyfyng sy’n cynnwys delweddau ohonoch mewn swyddfa DWP, dylech ofyn amdano’n uniongyrchol gan y cwmni diogelwch. Bydd arwyddion yn yr ardal a gwmpesir gan y camerâu yn dangos enw’r cwmni a sut i gysylltu â nhw. Gan fod delweddau teledu cylch cyfyng yn aml yn cael eu storio am gyfnod byr yn unig, dylech wneud eich cais cyn gynted ag y gallwch.

Os oes angen copi o unrhyw wybodaeth arall sydd gan DWP amdanoch chi

Gallwch ofyn am eich gwybodaeth bersonol ar-lein

Gallwch hefyd ysgrifennu at DWP. Dylech gynnwys disgrifiad o’r wybodaeth rydych ei eisiau (er enghraifft cofnodion Lwfans Ceisio Gwaith), y cyfnod amser y mae angen i’r wybodaeth ei gynnwys a’ch:

  • enw llawn
  • cyfeiriad llawn
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn os ydych yn gofyn am recordiadau galwadau ffôn

Postiwch eich cais ysgrifenedig i:

Right of Access Requests
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EF

Cyfreithwyr neu drydydd partïon eraill: gofyn am wybodaeth ar ran rhywun arall

Ysgrifennwch at DWP gan ddefnyddio’r Ffurflen gais i drydydd parti (ODT, 19.9 KB).

Byddwn angen cael caniatâd yr unigolyn arall (y ‘person’) cyn y gallwn ddechrau eich cais. Mae’r canllawiau ar y ffurflen yn egluro sut rydym yn gwneud hyn.

Pryd y dylech gael ateb i’ch cais am wybodaeth bersonol

Byddwn yn anfon y wybodaeth bersonol rydych wedi gofyn amdani cyn gynted â phosib. Bydd hyn o fewn mis o’r adeg rydym yn cael eich cais, cyhyd â bod eich cais yn rhoi digon o wybodaeth i’ch adnabod chi a’r wybodaeth y gofynnwch amdani. Os na fydd, byddwn yn cysylltu â chi.

Sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Mae siarter gwybodaeth bersonol DWP yn cynnwys y safonau y gallwch eu disgwyl pan ofynnwn am, neu rydym yn cadw, eich gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn esbonio’r hawliau eraill sydd gennych o dan y gyfraith diogelu data.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2023 + show all updates
  1. If you’re claiming Universal Credit and have an online account, you can save a copy of your Universal Credit statement.

  2. Added translation

  3. Re added link to 'request your personal information online'.

  4. Removed the link to the online request for personal information service as there is currently a problem with the service.

  5. Minor Welsh change to match English change

  6. Added a message that there was a problem with the online request for personal information service from 2.45pm until 6.15pm on Wednesday 7 June 2023. We may not have received your request if you requested personal information during this time. If you have not received your personal information, please submit a new request.

  7. Added a link to the Get a proof of benefit service.

  8. Added information about how to request footage from CCTV cameras at DWP offices.

  9. Added note advising people to resend any requests made between 18 October 2018 and 1 November 2018.

  10. Updated the personal information request form for third parties (ODT file).

  11. Updated the section about how to get proof of a benefit claim, including examples of what this information can be used for and that this can be requested from a benefit office.

  12. Added simplified third party request form.

  13. Updated the third party request form to reflect the new legal terms under GDPR.

  14. First published.

Print this page