Talu Treth Gorfforaeth os ydych yn gwmni mawr
Sut i gyfrifo taliadau, a phryd y dylech wneud y taliadau hyn, os yw elw trethadwy blynyddol eich cwmni rhwng £1.5 miliwn a £20 miliwn.
Fel arfer, os yw elw eich cwmni ar gyfradd flynyddol o dros £1.5 miliwn ar gyfer cyfnod cyfrifyddu, mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.
Mae rheolau gwahanol mae’n rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros £20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cwmnïau mawr
Mae cwmni mawr yn gwmni sydd ag elw ar gyfradd flynyddol rhwng £1.5 miliwn a £20 miliwn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sydd dan sylw.
Yn gyffredinol, mae’n rhaid i gwmnïau ‘mawr’ dalu eu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.
Eithriadau
Does dim angen i’ch cwmni dalu fesul rhandaliad ar gyfer cyfnod cyfrifyddu (er bod ganddo elw dros £1.5 miliwn) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na £10,000 (neu, ar adegau pan fydd cyfnod cyfrifyddu yn llai na 12 mis, roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfradd flynyddol o lai na £10,000)
- roedd elw eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na £10 miliwn, ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol hefyd yn wir:
- nid oedd y cwmni’n bodoli, neu nad oedd ganddo gyfnod cyfrifyddu ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol
- roedd ei elw ar gyfradd flynyddol o lai na £1.5 miliwn, neu roedd ei rwymedigaeth treth ar gyfradd flynyddol o lai na £10,000 – a hynny ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben yn ystod y 12 mis blaenorol
Os yw’r naill neu’r llall o’r amodau hyn yn berthnasol, mae’n rhaid i’r cwmni dalu ei dreth yn llawn erbyn y dyddiad dyledus arferol ar gyfer talu.
Cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2015, ac sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023
Os oes gan eich cwmni gwmnïau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd naill ai cyn 1 Ebrill 2015 neu ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, gostyngwyd y trothwyon o £1.5 miliwn a £10 miliwn drwy eu rhannu â nifer y cwmnïau cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.
Y ffigur newydd hwn yw’r trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Rhagfyr 2023 i 30 Tachwedd 2024
Mae gan gwmni 5 o gwmnïau cysylltiedig. Mae ganddo elw o £300,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2024. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw £75,000. Y trothwy blynyddol wedi’i addasu yw:
£1.5 miliwn wedi’i rannu â 6 (hynny yw, 5 + y cwmni ei hun) = £250,000.
Mae’r cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Er bod ei elw o dan £1.5 miliwn, mae gan y cwmni drothwy blynyddol sydd wedi’i addasu o dros £250,000, ac mae ganddo rwymedigaeth treth o dros £10,000.
Mae cwmni yn gysylltiedig â chwmni arall os yw’r canlynol yn wir:
- mae un cwmni o dan reolaeth y cwmni arall
- mae’r ddau gwmni o dan reolaeth yr un person neu bersonau
Fel arfer, caiff ‘o dan reolaeth’ ei ddiffinio drwy gyfeirio at berchnogaeth o gyfranddaliadau cyfalaf, neu bŵer pleidleisio.
Gall cwmni fod yn gwmni cysylltiedig, ni waeth ble y mae wedi’i leoli at ddibenion treth.
Cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023
Cafodd y rheolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig eu disodli gan brawf cwmnïau grŵp 51% ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023.
Os oes gan y cwmni gwmnïau grŵp 51% cysylltiedig, gostyngwyd y trothwyon o £1.5 miliwn a £10 miliwn drwy eu rhannu â nifer y cwmnïau grŵp 51% cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.
Y ffigur newydd hwn yw’r trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.
Mae cwmni A yn gwmni grŵp 51% cysylltiedig o gwmni B os yw’r canlynol yn wir:
- mae A yn is-gwmni 51% o B
- mae B yn is-gwmni 51% o A
- mae A a B yn is-gwmnïau 51% o’r un cwmni
Mae ‘A’ yn is-gwmni 51% o ‘B’ os taw ‘B’ sy’n berchen yn llesiannol (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ar dros 50% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin ‘A’.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Mai 2019 i 30 Ebrill 2020
Mae gan gwmni 4 o gwmnïau grŵp 51% cysylltiedig. Mae ganddo elw o £400,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2020. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw £76,000.
Y trothwy blynyddol wedi’i addasu yw: £1.5 miliwn wedi’i rannu â 5 (hynny yw, 4 + y cwmni ei hun) = £300,000.
Er bod yr elw ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o dan £1.5 miliwn, mae’r elw dros y trothwy blynyddol wedi’i addasu o £300,000.
Gan fod y rhwymedigaeth treth hefyd dros £10,000, mae’r cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Pryd y mae angen talu rhandaliadau
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis, byddwch fel arfer yn talu’ch Treth Gorfforaeth fesul 4 rhandaliad chwarterol, a bydd 2 o’r rhandaliadau hyn yn ddyledus cyn diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.
Cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis
Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o 12 mis, mae angen i chi dalu fesul 4 rhandaliad cyfartal, a rhieni’n ddyledus fel a ganlyn:
- 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
- 3 mis ar ôl y rhandaliad cyntaf
- 3 mis ar ôl yr ail randaliad (14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu)
- 3 mis a 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu
Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2002.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2026
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliad cyntaf | 14 Gorffennaf 2026 |
Yr ail daliad | 14 Hydref 2026 |
Y trydydd taliad (yn ddyledus ar ôl i’r cyfnod cyfrifyddu ddod i ben) | 14 Ionawr 2027 |
Y taliad terfynol | 14 Ebrill 2027 |
Cyfnodau cyfrifyddu o lai na 12 mis
Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o lai na 12 mis, bydd eich taliad olaf yn ddyledus 3 mis a 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf eich cyfnod cyfrifyddu.
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 3 mis, bydd y taliad cyntaf yn ddyledus 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu.
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn ddigon hir, mae’n bosibl y bydd taliadau eraill hefyd yn ddyledus bob 3 mis ar ôl hynny.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliad cyntaf | 14 Gorffennaf 2027 |
Ail daliad yn ddyledus ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu | 14 Hydref 2027 |
Y taliad terfynol | 14 Rhagfyr 2027 |
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mawrth 2027
Mae’r holl Dreth Gorfforaeth yn ddyledus mewn un taliad llawn ar 14 Gorffennaf 2027.
Cyfrifo rhandaliadau
Cam 1: amcangyfrifwch gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni
Er mwyn cyfrifo’ch rhandaliadau, amcangyfrifwch eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, gan gynnwys unrhyw dreth sy’n ddyledus ar y canlynol:
- benthyciadau i gyfarwyddwyr (yn agor tudalen Saesneg) ac unrhyw gyfranogwyr eraill mewn cwmnïau ‘cau’
- cwmnïau tramor a reolir (yn agor tudalen Saesneg)
Wedyn, tynnwch yr holl ryddhadau a gwrthbwysiadau i gyfrifo cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, fel y byddech yn gwneud wrth gyfrifo’r Dreth Gorfforaeth sydd arnoch yn eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y ffigur hwn i gyfrifo’ch rhandaliadau.
Cam 2: cyfrifwch swm pob rhandaliad
Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 4 rhandaliad cyfartal. Mae pob rhandaliad yn gyfwerth ag un chwarter o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 3 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n hirach na 3 mis, ond sy’n llai na 12 mis, bydd pob rhandaliad (oni bai am yr un olaf) yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm rhwymedigaethau’r cwmni â nifer y misoedd sydd yn y cyfnod cyfrifyddu, a lluosi’r ffigur hwnnw â 3.
Y rhandaliad olaf bydd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, llai y taliadau a wnaed hyd yma.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027, a £900,000 o Dreth Gorfforaeth yn ddyledus
Cam cyfrifo | Canlyniad |
---|---|
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni | £900,000 |
Nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu | 8 |
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 | £900,000 ÷ 8 x 3 = £337,500 |
Y rhan leiaf o gyfanswm rhwymedigaeth y cwmni a chyfanswm rhwymedigaeth y cwmni ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 | £337,500 |
Y rhandaliad cyntaf a’r ail randaliad | £337,500 |
Y trydydd rhandaliad a’r rhandaliad terfynol | £900,000 - (2 × £337,500) = £225,000 |
Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau
Mae’n bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i’r cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar ôl eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo pob rhandaliad yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.
Os ydych yn disgwyl i’ch rhwymedigaeth fod yn fwy na’ch amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu’r gwahaniaeth.
Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy’n llai na’ch rhwymedigaeth wirioneddol.
Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio’ch gordaliad yn ôl, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a’i ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.
Cwmnïau a ddiogelir
Os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i dâl atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir (gweithgareddau Sgafell Gyfandirol y DU sy’n ymwneud ag olew sydd, o dan gyfraith y DU, yn cyfrif fel masnach ar wahân), byddwch yn talu unrhyw Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu – a hynny fesul rhandaliad gan ddefnyddio’r rheolau arferol.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, os yw’ch elw dros £20 miliwn, byddwch yn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer cwmnïau mawr iawn. Dysgwch ragor am y rheolau mae’n rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros £20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi hefyd dalu’r Dreth Gorfforaeth a’r tâl atodol ar eich elw a ddiogelir. Gwnewch hyn mewn 3 rhandaliad cyfartal ar y mwyaf. Bydd y rhain yn ddyledus fel a ganlyn:
- 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
- 3 mis ar ôl y rhandaliad cyntaf
- 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu
Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2005.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar ôl 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, mae’r rhandaliadau yn 25%, 25% a 50% o’r rhwymedigaeth a ddiogelir.
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Rhagfyr 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Y taliadau cyntaf ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall | 14 Gorffennaf 2027 |
Yr ail daliadau ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall | 14 Hydref 2027 |
Y trydydd taliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer treth a ddiogelir, a’r trydydd taliad ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Ionawr 2028 |
Taliad terfynol ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Ebrill 2028 |
Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mai 2027
Taliad | Dyddiad dyledus y taliad |
---|---|
Mae’r holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ar y dyddiad hwn | 14 Mehefin 2027 |
Y taliad cyntaf ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Gorffennaf 2027 |
Yr ail daliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer Treth Gorfforaeth arall | 14 Medi 2027 |
Mae’r dyddiad y byddai’r trydydd rhandaliad yn ddyledus (14 Mehefin 2027) yn disgyn cyn unrhyw ddyddiad dyledus arall ar gyfer taliadau, felly, mae’r holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ac yn daladwy ar 14 Mehefin 2027.
Cyfrifo rhandaliadau ar gyfer cwmnïau a ddiogelir
Os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i dâl atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir, dylech gyfrifo’r rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio’r rheolau arferol.
Bydd angen i chi hefyd gyfrifo’r rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth a’r tâl atodol ar eich elw a ddiogelir.
Cam 1: cyfrifwch eich swm a ddiogelir
Amcangyfrifwch y Dreth Gorfforaeth a ddiogelir a’r tâl atodol sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
Cam 2: cyfrifwch swm eich rhandaliadau
Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 3 rhandaliad cyfartal – bydd pob rhandaliad yn gyfwerth ag un traean o’r swm a ddiogelir.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 4 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm eich rhwymedigaeth.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sydd yn hirach na 4 mis, ond sy’n llai na 12 mis, eich taliadau yw rhan leiaf y balans o’r swm a ddiogelir sydd heb ei dalu, neu’r swm a ddiogelir wedi’i rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu, wedi’i luosi â 4.
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006.
Os hoffech wirio’r cyfrifiadau ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, gallwch ddefnyddio’r canlynol:
Y swm a ddiogelir ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer cyfnodau byrrach x 3.
Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau
Mae’n bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i’r cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar ôl eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo’ch rhandaliadau yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.
Os ydych yn disgwyl i’ch rhwymedigaeth fod yn fwy na’ch amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu’r gwahaniaeth.
Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy’n llai na’ch rhwymedigaeth wirioneddol.
Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio’ch gordaliad yn ôl, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a’i ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol. Mae’n bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.
Grwpiau o gwmnïau
Gall grwpiau o gwmnïau ddewis gwrthbwyso swm a ordalwyd gan un cwmni yn erbyn swm a dandalwyd gan gwmni arall yn y grŵp.
Mae CThEF hefyd yn cynnig Trefniadau Talu Grŵp (yn agor tudalen Saesneg), sy’n galluogi’r grwpiau i wneud rhandaliadau ar y cyd. Gallwch enwebu un cwmni o’r grŵp i dalu’r rhandaliadau ar ran y grŵp cyfan, yn hytrach na bob cwmni yn talu rhandaliadau ar wahân.
Gwneud rhandaliad
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad sy’n ymwneud â Threth Gorfforaeth, ac unrhyw daliadau perthnasol, mewn ffordd electronig.
Mae taliadau perthnasol yn cynnwys llog a godwyd ar Dreth Gorfforaeth sydd heb ei thalu, a chosbau am beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd.
Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig ar-lein drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- Debyd Uniongyrchol
- cerdyn debyd
- cerdyn credyd y cwmni
- gwasanaeth bancio ar-lein eich banc neu’ch cymdeithasau adeiladu
Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig (heb fynd ar-lein) drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- Credyd Uniongyrchol Bacs
- gwasanaeth bancio dros y ffôn eich banc neu’ch cymdeithasau adeiladu
- CHAPS
- Giro Banc
Llog a rhandaliadau
Llog a godwyd gan CThEF
Mae CThEF yn codi llog ar randaliadau a wneir yn hwyr, neu a dandalwyd (yn agor tudalen Saesneg). Os oes angen i chi dalu’r llog hwn, bydd modd i chi ei ddidynnu oddi wrth dreth sydd i’w thalu at ddibenion Treth Gorfforaeth.
I wahaniaethu rhwng y llog hwn a’r llog arferol am dalu’n hwyr, mae CThEF yn galw’r llog hwn yn ‘llog ar ddebyd’ (yn agor tudalen Saesneg).
Dim ond ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni y caiff y llog hwn ei gyfrifo a’i godi.
Talu llog i chi
Bydd CThEF yn talu llog i’ch busnes os gwnaethoch y canlynol:
- rhandaliad diangen
- taliad cynnar
- taliad rhy uchel
Bydd unrhyw log a dalwyd yn cael ei gyfrifo naill ai o adeg y rhandaliad cyntaf, neu pan fydd gordaliad yn digwydd, p’un bynnag sydd hwyraf.
Mae’r llog a dalwyd gan CThEF yn drethadwy at ddibenion Treth Gorfforaeth. Caiff y llog hwn ei gyfrifo a’i godi yn ôl-weithredol yn unig, a hynny unwaith i’r rhwymedigaeth gael ei gyfrifo, sy’n digwydd, fel arfer, ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.
Mae’r gyfradd ar gyfer y llog hwn yn wahanol i gyfradd y llog a godwyd am dalu’n hwyr ac am wneud tandaliadau. Mae CThEF yn galw hyn yn ‘llog ar gredyd (yn agor tudalen Saesneg)’.
Enghraifft — dim rhwymedigaeth a ddiogelir, a chyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr
Mae’r cwmni’n adolygu’r amcangyfrif o’i rwymedigaeth derfynol yn rheolaidd ac, lle bo’n briodol, yn diwygio’i randaliad (neu, os oes angen, yn gwneud taliadau atodol) er mwyn lleihau’r posibilrwydd o dalu unrhyw log. Mae’n cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni sy’n dangos rhwymedigaeth treth derfynol o £120 miliwn.
Amcangyfrif y cwmni o ran ei rwymedigaeth | Taliadau a wnaed yn seiliedig ar ffigurau wedi’u hamcangyfrif (a’r dyddiad y gwnaed y taliad) | Rhwymedigaeth wirioneddol yn seiliedig ar rwymedigaeth derfynol | Dyddiad dyledus |
---|---|---|---|
£80 miliwn | £20 miliwn (14 Gorffennaf) | £30 miliwn (rhandaliad 1) | 14 Gorffennaf |
£110 miliwn | £35 miliwn (14 Hydref) | £30 miliwn (rhandaliad 2) | 14 Hydref |
£130 miliwn | £10 miliwn (taliad atodol) (1 Tachwedd) | — | — |
£140 miliwn | £40 miliwn (14 Ionawr) | £30 miliwn (rhandaliad 3) | 14 Ionawr |
£120 miliwn | £15 miliwn (14 Ebrill) | £30 miliwn (rhandaliad 4) | 14 Ebrill |
Yn yr enghraifft hon, mae’r llog yn ddyledus fel a ganlyn:
Dyddiadau | Cyfanswm a dalwyd hyd yma | Rhwymedigaeth wirioneddol hyd yma | Manylion y llog sy’n ddyledus |
---|---|---|---|
14 Gorffennaf i 13 Hydref | £20 miliwn | £30 miliwn | Llog ar ddebyd sy’n ddyledus ar £10 miliwn o 14 Gorffennaf i 13 Hydref |
14 Hydref i 31 Hydref | £55 miliwn | £60 miliwn | Llog ar ddebyd sy’n ddyledus ar £5 miliwn o 14 Hydref i 31 Hydref |
1 Tachwedd i 13 Ionawr | £65 miliwn | £60 miliwn | Llog ar gredyd sy’n ddyledus ar £5 miliwn o 1 Tachwedd i 31 Ionawr |
14 Ionawr i 13 Ebrill | £105 miliwn | £90 miliwn | Llog ar gredyd sy’n ddyledus ar £15 miliwn o 14 Ionawr i 13 Ebrill |
14 Ebrill | £120 miliwn | £120 miliwn | Ni fydd unrhyw log pellach yn cael ei godi na’u gredydu |
Cosbau ar randaliadau
Mae’n bosibl y codir cosb os byddwch yn gwneud y canlynol yn fwriadol:
- methu â gwneud rhandaliad
- gwneud rhandaliad sy’n rhy isel
Dysgwch ragor am gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Hawlio ad-daliadau
Yn dilyn adolygiad o’r cyfrifon rheoli a’r rhagolygon diweddaraf yn ystod dyddiad y rhandaliad nesaf, os ydych yn darganfod y bydd eich rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth yn llai na’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, gallwch wneud hawliad am ad-daliad o’ch rhandaliad i gyd, neu ran ohono.
Mae’n rhaid i hawliadau gael eu gwneud i swyddog CThEF, ac mae’n rhaid i’r hawliad hwnnw nodi’r ddau beth canlynol:
- y swm y credwch y dylid cael ei ad-dalu
- eich rhesymau dros gredu’r canlynol (a hynny oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau ers gwneud y taliad(au)):
- rydych o’r farn y bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth ar gyfer y cyfnod yn llai na’r hyn a gyfrifwyd yn flaenorol
- mae’r taliadau cronnus yn fwy na’r rhwymedigaeth ddiwygiedig
O dan rai amgylchiadau, gallwch hawlio ad-daliad pan fydd eich rhwymedigaeth ddiwygiedig yn cynnwys colledion disgwyliedig o’ch cyfnod cyfrifyddu presennol sydd heb ddod i ben ar hyn o bryd.
Gall hyn ddigwydd os ydych wedi dioddef colledion sylweddol. Bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol er mwyn cadarnhau’r colledion hyn ac i ategu’ch hawliad am ad-daliad. Dysgwch ragor am hawlio ad-daliadau yn llawlyfr trethiant cwmnïau CThEM (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2007Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Chwefror 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
Information about accounting periods ending on or after 1 April 2015 and before 1 April 2023 has been added. This is due to a change in legislation with effect from 1 April 2023.
-
Guidance updated with information on repayment claims if your Corporation Tax liability is less than expected due to exceptional circumstances.
-
Guidance on paying by instalments if your annual profits are over £20 million has been added.
-
Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.
-
The Corporation Tax (Instalment Payments) (Amendment) Regulations 2014 (SI 2014/2409)) has been amended and will apply to accounting periods ending on or after 1 April 2015.
-
First published.