Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni
Sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth y Cwmni CT600 at ddibenion Treth Gorfforaeth, a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i baratoi eich Ffurflen Dreth y Cwmni. Mae’n esbonio:
- sut i lenwi Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600)
- pa wybodaeth arall y mae angen i chi ei chynnwys yn eich Ffurflen Dreth
Os nad ydych am baratoi eich Ffurflen Dreth eich hun, gallwch benodi rhywun arall i ddelio â CThEF ar eich rhan.
Gwybodaeth am y cwmni
1 Enw’r cwmni
Nodwch enw cofrestredig y cwmni.
Os nad yw’r cwmni wedi’i gofrestru, nodwch yr enw a roddir yng nghyfansoddiad neu reolau’r cwmni. Os yw enw’r cwmni yn hir iawn, nodwch yr enw cryno rydych wedi cytuno arno gyda CThEF.
2 Rhif cofrestru’r cwmni
Os yw’r cwmni wedi’i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, nodwch rif cofrestru’r cwmni.
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif ar dystysgrif ymgorffori’r cwmni ac ar ohebiaeth oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau. Fel arall gallwch bori drwy gofrestr Tŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg).
3 Cyfeirnod Treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer y cwmni.
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif ar ddogfennau gan CThEF, gan gynnwys yr hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth. Y 10 digid olaf o’r rhif 13 digid ar frig y ddogfen yw’r cyfeirnod.
Os ydych yn gwmni cyfyngedig, gallwch ofyn am eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth ar-lein.
4 Math o gwmni
Nodwch y rhif sy’n cyfateb i’ch math o gwmni. Nodwch 0 os nad oes un o’r mathau o gwmnïau’n berthnasol.
Ymddiriedolaeth unedol neu gwmni buddsoddi penagored
Nodwch 1.
Peidiwch â nodi 1 ar gyfer ymddiriedolaethau unedol anawdurdodedig nad ydynt wedi’u heithrio sy’n agored i Dreth y Cwmni o fis Ebrill 2014 ymlaen.
Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM48000: Cronfeydd buddsoddi awdurdodedig (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Cwmni caeedig sy’n dal buddsoddiadau
Nodwch 2, darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM60700: Cwmnïau caeedig sy’n dal buddsoddiadau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Cwmni mewn datodiad sy’n agored i’r brif gyfradd yn dilyn y cyfnod cyntaf ar ôl datodiad
Nodwch 0 os yw’r cwmni yn y flwyddyn gyntaf o ddatodiad, oni bai bod math arall o gwmni yn berthnasol.
Nodwch 3 os yw’r cwmni yn yr ail flwyddyn o ddatodiad neu ar ôl hynny.
Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM60780: Cwmnïau caeedig sy’n dal buddsoddiadau: datodiad (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Cwmni sy’n dal asedion cymhwysol
Nodwch 4, am ragor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- arweiniad ar sut i roi hysbysiad Cwmnïau sy’n dal Asedion Cymhwysol i CThEF (yn agor tudalen Saesneg)
- Llawlyfr Cronfeydd Buddsoddi IFM40000: Cwmnïau sy’n dal Asedion Cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg)
Yswiriant
Nodwch 5 os yw cyfran elw deiliaid y polisi yn cael ei chodi ar gyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd sylfaenol o Dreth Incwm o dan adran 88 o Ddeddf Cyllid 1989 (yn agor tudalen Saesneg)
Clwb aelodau neu gymdeithas wirfoddol
Nodwch 6, am ragor o wybodaeth darllenwch y canlynol:
- Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM40105: Cyrff penodol: clybiau (yn agor tudalen Saesneg)
- Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM41305: Cyrff penodol: cymdeithasau anghorfforedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Llawlyfr Incwm Busnes BIM24200: Ystyr masnach: masnachu cydfuddiannol a chlybiau aelodau (yn agor tudalen Saesneg)
Cwmni rheoli eiddo
Nodwch 7, darllenwch y Llawlyfr Incwm Busnes BIM24782: cwmnïau rheoli eiddo (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Elusen neu’n eiddo i elusen
Nodwch 8, darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM40050: Cyrff penodol: elusennau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Ymddiriedolaeth Buddsoddi Eiddo Tiriol C: cwmni gweddilliol
Nodwch 9.
Ymddiriedolaeth Buddsoddi Eiddo Tiriol C: cwmni sydd wedi’i eithrio rhag treth
Nodwch 10.
Gogledd Iwerddon
Gadewch adran Gogledd Iwerddon (blychau 5 i 8) yn wag.
Nid oes cyfradd Treth Gorfforaeth ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae arweiniad drafft cyfundrefn Treth Gorfforaeth Gogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg) yn nodi sut y bydd deddfwriaeth yn gweithredu unwaith y bydd cyfradd ar wahân wedi’i gosod.
Ynglŷn â’r Ffurflen Dreth hon
30 a 35 Cyfnod y Ffurflen Dreth
Nodwch ddyddiad dechrau (blwch 30) a dyddiad dod i ben (blwch 35) y cyfnod rydych yn gwneud y Ffurflen Dreth amdano. Ni all y cyfnod ddechrau cyn 1 Ebrill 2015.
40 Ad-daliadau’r cyfnod hwn
Nodwch X os ydych o’r farn bod ad-daliad yn ddyledus am y cyfnod hwn. Gallwch gyflymu eich ad-daliad drwy nodi manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu ym mlychau 920 i 940.
45 Hawliad neu ryddhad sy’n effeithio ar gyfnod cynharach
Nodwch X os ydych yn gwneud hawliad sy’n lleihau eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth am gyfnod cynharach.
50 Gwneud mwy nag un Ffurflen Dreth nawr
Nodwch X os ydych yn gwneud mwy nag un Ffurflen Dreth ar gyfer y cwmni hwn ar yr un pryd.
55 Ffigurau amcangyfrifedig
Nodwch X ys ydych wedi defnyddio amcangyfrifon. Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM93280: Ffigurau amcangyfrifedig mewn Ffurflenni Treth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
60 Cwmni’n rhan o grŵp nad yw’n fach
Nodwch X os yw’r cwmni’n aelod o grŵp nad yw’n fach. Darllenwch y Llawlyfr Ymholiadau EM1513: Amodau cymhwysol i fod yn grŵp bach (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
65 Hysbysiad o gynlluniau arbed treth y mae’n rhaid eu datgelu
Nodwch X os yw’r canlynol yn wir am y cwmni:
- mae angen datgelu ei fod wedi defnyddio neu wrthi’n defnyddio cynlluniau arbed
- wedi cael gwybod gan hyrwyddwr sy’n cael ei fonitro gan CThEF, neu gleient yr hyrwyddwr hwnnw sy’n cael ei fonitro, am gyfeirnod hyrwyddwr
Darllenwch yr arweiniad ar gynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am y drefn ddatgelu.
Gosod pris trosglwyddo
Mae rheolau, a all o bosibl, effeithio ar drethiant trafodion (gan gynnwys benthyciadau neu warantau benthyciadau) rhwng busnesau cysylltiedig. Gelwir y rhain yn rheolau gosod pris trosglwyddo a rheolau cyfalafu tenau.
Fel arfer nid oes rhaid i fentrau bach a chanolig ddefnyddio’r rheolau gosod pris trosglwyddo pan fyddant yn cyfrifo’r dreth y dylent ei dalu (ac eithrio trafodion gyda busnesau cysylltiedig mewn tiriogaethau nad oes gennym unrhyw gytundeb â hwy). Yn y cyd-destun hwn, menter fach a chanolig yw grŵp o fusnesau sy’n cyflogi llai na 250 o bobl ledled y byd gyda (un neu’r ddau o’r canlynol):
- trosiant byd-eang o lai na 50 miliwn ewro (£34 miliwn)
- cyfanswm y fantolen o lai na 43 miliwn ewro (£29 miliwn)
Mae’n rhaid i fusnesau nad ydynt yn bodloni’r diffiniad hwn o fenter fach a chanolig ddefnyddio rheolau gosod pris trosglwyddo a rheolau cyfalafu tenau i bob trafodyn gyda busnesau cysylltiedig sy’n creu mantais drethiannol i’r DU. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n llwyr o fewn y DU.
70 Addasiad digolledu a hawliwyd
Os oes angen i fusnes gynyddu ei elw, neu gyfyngu ar ei golledion, oherwydd addasiad pris trosglwyddo ar gyfer trafodyn rhwng y DU a’r DU â busnes cysylltiedig, yna gall y busnes arall hwnnw wneud cais i asesu ei elw a cholledion yn gyson, drwy wneud addasiad digolledu.
Nodwch X os yw hyn yn effeithio ar eich cwmni.
75 Cwmni yn gymwys ar gyfer eithriad mentrau bach a chanolig
Nodwch X i gadarnhau bod eich busnes yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn.
80, 85 a 90 Cyfrifon a chyfrifiannau
Nodwch X ym mlwch 80 i ddangos eich bod yn cyflwyno cyfrifon am y cyfnod y mae’r Ffurflen Dreth yn cyfeirio ato.
Nodwch X ym mlwch 85 i nodi cyfnod gwahanol.
Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfrifiannau sy’n dangos sut y cyfrifwyd y ffigurau yn eich Ffurflen Dreth o’r ffigurau yng nghyfrifon y cwmni.
Os nad ydych yn cyflwyno cyfrifon a chyfrifiannau, defnyddiwch flwch 90 i esbonio’ch rhesymau.
Cyfrifiannau
Dylech gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn eich barn chi i esbonio’r ffigurau yn eich Ffurflen Dreth o fewn y ffeil cyfrifiannau iXBRL sengl (neu gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF ar gyfer cyflwyno cyfrifon a Ffurflen Dreth eich Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae’n rhaid i’ch cyfrifiant nodi:
- colledion heb eu defnyddio a gariwyd ymlaen o gyfnod cyfrifyddu blaenorol
- cyfanswm y colledion heb eu defnyddio sy’n codi mewn cyfnod a ddaeth i ben cyn 1 Ebrill 2017
- cyfanswm y colledion heb eu defnyddio sy’n codi mewn cyfnod sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017
Os yw’n berthnasol, bydd rhaid i chi roi manylion ar wahân am golledion busnes eiddo yn y DU sy’n codi mewn cyfnod pan oeddech yn agored i Dreth Incwm ar eich:
- elw busnes o eiddo yn y DU
- incwm o eiddo yn y DU arall
Dylai eich cyfrifiadau ddangos:
- sut y defnyddiwyd y colledion hyn yn y cyfnod cyfrifyddu hwn
- symiau’r golled cyn neu ar ôl 1 Ebrill 2017 a cholledion eiddo Treth Incwm (lle bo’n berthnasol) rydych yn eu cario ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf
- swm y lwfans didyniadau a ddefnyddiwyd (darllenwch adran 269ZZ(1)(a) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rheolau diwygio colledion yn:
- y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM04800: diwygio colledion Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- yr arweiniad ar sut i gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth
Tudalennau atodol
Nodwch X yn y blwch neu’r blychau priodol i ddangos pa dudalennau atodol rydych yn eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth y Cwmni.
Mae tudalennau atodol yn darparu fformat safonol i’ch helpu i gyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen ar CThEF. Mae’n bwysig cael hyn yn gywir oherwydd bod eich tudalennau atodol wedi’u llenwi yn rhan o Ffurflen Dreth eich cwmni ac wedi’u cynnwys yn y datganiad.
Mae rhybuddion am erlyniad, Ffurflenni Treth hwyr ac anghywir a thalu treth yn hwyr hefyd yn berthnasol i’r tudalennau atodol.
Cyfrifiad treth y cwmni
Trosiant
Peidiwch â llenwi blwch 145 na blwch 150 os yw’r cwmni’n gwmni buddsoddi neu’n ymddiriedolaeth unedol.
145 Cyfanswm y trosiant o fasnachu
Nodwch gyfanswm y trosiant masnachu o unrhyw ffynhonnell. Mae’n rhaid cynnwys unrhyw ostyngiadau a ad-dalwyd drwy’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan. Nid oes angen i fusnesau ariannol nad oes ganddynt drosiant cydnabyddedig lenwi blwch 145.
150 Banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a busnesau ariannol eraill
Nodwch X os yw’r cwmni’n fusnes ariannol nad oes ganddo ffigur trosiant cydnabyddedig.
Incwm
155 Elw masnachu
Nodwch gyfanswm yr holl elw. Mae hyn yn golygu elw masnach a ddiffinnir yn rhan 3 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys unrhyw elw sy’n deillio o fasnachau a gynhaliwyd yn llwyr y tu allan i’r DU. Dylech wneud y canlynol:
- cofnodi grantiau cymorth trethadwy yn sgil Coronafeirws fel incwm yn unol â’r safonau cyfrifyddu perthnasol
- cynnwys unrhyw gyfran o elw’r bartneriaeth
- rhoi cyfrif am unrhyw ddidyniadau Blwch Patent (darllenwch adran 357A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol CIRD200000: Blwch patent (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Dylech hefyd gynnwys cyfrifiad ar wahân o elw neu golled pob masnach gan ddangos:
- unrhyw addasiadau a wnaed i’r ffigurau yn y cyfrifon i bennu swm yr elw neu’r golled
- unrhyw lwfansau cyfalaf neu daliadau mantoli sydd wedi’u cynnwys wrth gyfrifo’r elw neu golled
Os yw’n berthnasol, dylech hefyd gynnwys cyfrifiad o’r didyniad Blwch Patent.
Nodwch gyfanswm yr holl golledion ym mlwch 780 neu 790 (gan roi cyfrif am unrhyw ddidyniadau Blwch Patent). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
160 Colledion masnachu a ddygwyd ymlaen sydd wedi’u gosod yn erbyn elw masnachu
Llenwch flwch 160 os oes elw ym mlwch 155 a bod gan y cwmni golledion masnachu heb eu rhyddhau o gyfnodau cynharach i’w gosod yn erbyn elw o’r un fasnach. Os yw’r colledion a ddygwyd ymlaen yn fwy nag elw’r fasnach a nodwyd ym mlwch 155, dim ond colledion digonol i gwmpasu’r elw masnachu y dylech eu nodi.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colledion newydd yn berthnasol a bydd rhaid i’ch cyfrifiadau hefyd ddangos swm y ‘lwfans didyniadau elw masnachu’ rydych wedi’i ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- adran 269ZB(7)(a) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
- adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn
Os yw’r cwmni’n cynnal mwy nag un fasnach, dylech ddarparu cyfrifiad o elw pob masnach a swm y golled wedi’i gosod yn erbyn pob un.
Dylid nodi colledion y gellir eu gosod yn erbyn elw masnachu yn unig ym mlwch 160. Defnyddiwch flwch 285 i nodi unrhyw golled fasnachu heb ei defnyddio sy’n codi mewn cyfnod sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, y gellir ei gosod yn erbyn cyfanswm yr elw.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad am y canlynol:
- cario colled masnachu ymlaen (yn agor tudalen Saesneg)
- yr arweiniad ar sut i gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth
Mae cyfrifon yn cael eu llunio mewn arian tramor
Darllenwch y Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CFM64300: Cyfrifon a luniwyd mewn arian tramor (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
165 Elw masnachu net
Gadewch hwn yn wag os na wnaethoch roi ffigur ym mlwch 155.
Nodwch 0 os yw’r ffigur ym mlwch 160 yn hafal i’r ffigur ym mlwch 155.
170 a 172 Llog banc, cymdeithas adeiladu neu arall, ac elw o gysylltiadau benthyciadau anfasnachol
Peidiwch â chynnwys unrhyw symiau o log ar iawndal.
Mae’r rhain yn cael eu cyfrif ar wahân ar dudalen atodol Treth Iawndal CT600K.
Nodwch elw anfasnachol y cwmni o ran ei gysylltiadau benthyciadau ym mlwch 170. Dylid ystyried credydau a debydau masnachu wrth gyfrifo elw’r fasnach. Mae’r blwch hwn yn cynnwys:
- cysylltiadau benthyciadau — darllenwch ran 5 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg)
- perthnasoedd sy’n cael eu trin fel cysylltiadau benthyciadau — darllenwch ran 6 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg)
- contractau deilliannol — darllenwch ran 7 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg)
Cyfuno holl gredydau a debydau anfasnachol y cwmni yn un ffigur o elw neu ddiffyg. Nodwch elw net unrhyw ddiffyg a gariwyd yn ôl o gyfnod cyfrifyddu diweddarach o dan adran 459(1)(b) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Os oes gan y cwmni ddiffyg anfasnachol o gysylltiadau benthyciadau am y cyfnod, dylech nodi’r diffyg hwnnw ym mlwch 795.
Os yw’r cwmni’n gwmni landlord dibreswyl, mae’n rhaid i chi gynnwys cysylltiadau benthyciadau anfasnachol sy’n cyfeirio at fusnes eiddo’r DU yn unig ac os oes gan y cwmni hwnnw golledion Treth Incwm a ddygwyd ymlaen, dylech ddangos y symiau a gafodd eu dwyn ymlaen, eu defnyddio a’u cario ymlaen yn eich cyfrifiant (ym mlwch 190).
Nodwch yr elw net o gysylltiadau benthyciadau anfasnachol ar ôl rhyddhad ar gyfer colledion Treth Incwm a ddygwyd ymlaen. Darllenwch y Llawlyfr Cyllid Corfforaethol 32030: Cysylltiadau benthyciadau: elw a diffygion anfasnachol (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Nodwch ‘X’ ym mlwch 172 os yw’r ffigur ym mlwch 170 yn net o gario diffyg yn ôl o gyfnod cyfrifyddu diweddarach
Dylech hefyd ddangos o ba gyfnod y mae’r diffyg wedi’i chario’n ôl yn eich cyfrifiannau. Darllenwch y Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CFM32070: Cysylltiadau benthyciadau: diffygion anfasnachol: hawliadau wedi’u gosod yn erbyn elw o gyfnod cynharach (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
175 Taliadau blynyddol na chodir Treth Gorfforaeth arnynt fel arall, ac nad oes Treth Incwm wedi’i didynnu oddi wrthynt
Nodwch swm y taliadau blynyddol na chodir Treth Gorfforaeth arnynt fel arall, ac nad oes Treth Incwm wedi’i didynnu oddi wrthynt (darllenwch bennod 7, rhan 10 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
180 Difidendau neu ddosbarthiadau heb eu heithrio o gwmnïau nad ydynt yn breswyl yn y DU
Nodwch unrhyw ddifidendau neu ddosbarthiadau heb eu heithrio o gwmni nad ydynt yn breswyl yn y DU. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
185 Incwm ar ôl didynnu Treth Incwm
Nodwch y swm gros cyn treth, ac eithrio unrhyw swm a gafodd ei gynnwys ym mlwch 170. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Nodwch eich incwm ym mlwch 190 a’r dreth a ddaliwyd yn ôl ym mlwch 515 os:
- ydych yn landlord i gwmni nad yw’n breswyl yn y DU
- oes gennych swm ar gyfrif ar gyfer treth a ddaliwyd yn ôl o dan y Cynllun Landlordiaid Dibreswyl
Dylech hefyd ddarparu copi o ffurflen NRL6 — darllenwch y dudalen ynghylch y dystysgrif rhwymedigaeth treth sydd i’w darparu i landlordiaid dibreswyl gan denantiaid neu asiantau gosod eiddo yn y DU (NRL6) (yn agor tudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM01170: Treth Incwm a ddidynnwyd o incwm a gafwyd (yn agor tudalen Saesneg).
190 Incwm o fusnes eiddo
Nodwch unrhyw incwm sydd wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys incwm o dir ac adeiladau y tu allan i’r DU. Os ydych yn landlord i gwmni nad yw’n breswyl yn y DU, a bod gennych swm ar gyfer treth a ddelir yn ôl o dan y Cynllun Landlordiaid Dibreswyl, dylech nodi eich incwm yma a’r dreth a ddaliwyd yn ôl ym mlwch 515.
Dylai’ch cyfrifiannau ddangos y canlynol:
- yr addasiadau a wnaed i’r ffigurau yng nghyfrifon y cwmni i bennu swm yr incwm
- unrhyw lwfansau cyfalaf neu daliadau mantoli a gynhwyswyd wrth gyfrifo’r incwm
Os ydych yn landlord i gwmni dibreswyl a bod gennych golledion Treth Incwm a ddygwyd ymlaen, dylech ddangos y symiau a gafodd eu dwyn ymlaen, eu defnyddio a’u cario ymlaen yn eich cyfrifiant. Nodwch elw net y busnes eiddo yn y DU ar ôl lwfansau cyfalaf a rhyddhad ar gyfer colledion Treth Incwm a ddygwyd ymlaen.
Yn gyffredinol, dylid cynnwys dosbarthiadau incwm eiddo (darllenwch adran 548 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) yma oni bai y dylid eu cynnwys wrth gyfrifo elw masnachu. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
195 Enillion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol
Nodwch yr ennill anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol (lle cedwir yr asedion anniriaethol at ddiben masnach neu fusnes eiddo — dylech gynnwys y credydau a’r debydau wrth gyfrifo elw’r fasnach neu fusnes eiddo). Os oes colled anfasnachol, efallai y bydd angen i chi wneud cofnodion ym mlychau 265, 830 ac 835.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. I gael gwybod mwy am y rheolau cyfrifiannol ar gyfer asedion sefydlog anniriaethol, darllenwch y canlynol:
- rhan 8 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg)
- Llawlyfr Ymchwil a Datblygu Anniriaethol Corfforaethol 13500: Rheolau cyfrifiannol craidd (yn agor tudalen Saesneg)
200 Elw Treth Tunelledd
Nodwch y ffigur o flwch F70 ar dudalen atodol CT600F Treth Tunelledd.
205 Incwm nad yw’n dod o dan unrhyw bennawd arall
Nodwch unrhyw elw neu enillion nad ydynt yn dod o dan unrhyw bennawd arall. Mae hyn yn cynnwys taliadau amrywiol a restrir yn adran 1173 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) ac eithrio enillion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol. Dylech hefyd gynnwys difidendau neu ddosbarthiadau heb eu heithrio o gwmni sy’n breswyl yn y DU.
Gallwch ddefnyddio’r blwch hwn i roi gwybod am dderbynneb ôl-derfynu. Os ydych yn dewis defnyddio’r gyfradd Treth Gorfforaeth a oedd yn berthnasol yn y flwyddyn y daeth y masnachu i ben, efallai na fyddwch yn gallu cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein. Cysylltwch â’ch swyddfa CThEF am eglurhad. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Enillion trethadwy
210 Enillion trethadwy gros
Nodwch gyfanswm yr enillion yn y cyfnod hwn.
Os nad oedd unrhyw enillion, gadewch y blwch hwn a blychau 215 a 220 yn wag.
Nodwch fanylion unrhyw golledion caniataol yn y cyfnod ym mlwch 825.
Os gwnewch gofnod ym mlwch 210, 215 neu 825, dylech atodi cyfrifiadau o bob ennill trethadwy a cholled ganiataol i ddangos eich cyfrifiadau. Dylech gynnwys manylion llawn ac unrhyw hawliadau neu ddewisiadau.
Diwygiodd Deddf Cyllid 2018 (yn agor tudalen Saesneg) y rheolau lwfans mynegeio. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn gwaredu ased ar neu ar ôl 1 Ionawr 2018, dim ond hyd at fis Rhagfyr 2017 y mae’n rhaid i chi gyfrifo mynegeio. Darllenwch y Cyfraddau lwfans Mynegeio ar gyfer Treth Gorfforaeth ar enillion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Darllenwch Dreth Gorfforaeth pan rydych yn gwerthu asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am enillion trethadwy neu (golledion caniataol) cwmnïau.
215 Colledion caniataol, gan gynnwys colledion a ddygwyd ymlaen
Dim ond os gwnaethoch gofnod ym mlwch 210 y dylech nodi ffigur yma. Mae’n rhaid i’r ffigur a nodwch ym mlwch 215 beidio â bod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 210.
Os gwnewch gofnod ym mlwch 210, 215 neu 825, dylech atodi cyfrifiadau o bob ennill trethadwy a cholled ganiataol i ddangos eich cyfrifiadau. Dylech gynnwys manylion llawn ac unrhyw hawliadau neu ddewisiadau.
Diwygiodd Deddf Cyllid 2018 (yn agor tudalen Saesneg) y rheolau lwfans mynegeio. Os byddwch yn gwaredu ased ar neu ar ôl 1 Ionawr 2018, dim ond hyd at fis Rhagfyr 2017 y dylech gyfrifo mynegeio. Darllenwch Cyfraddau Lwfans Mynegeio ar gyfer Treth Gorfforaeth ar enillion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth i gael rhagor o wybodaeth am golledion caniataol.
220 Enillion trethadwy net
Nodwch y swm ym mlwch 210 llai’r swm ym mlwch 215. Os yw blychau 210 a 215 yn gyfartal, nodwch 0.
Elw cyn didyniadau a rhyddhadau eraill
225 Colledion a ddygwyd ymlaen yn erbyn incwm buddsoddiad penodol
Nodwch swm y colledion a ddygwyd ymlaen, a ganiateir yn erbyn incwm buddsoddi penodol a fyddai fel arall wedi’i drin fel incwm masnachu (darllenwch adran 46 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch y Llawlyfr Treth Cwmnïau CTM04250: Rhyddhad ar gyfer colledion a ddygwyd ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
230 Diffygion anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau (gan gynnwys llog) a chontractau deilliannol (offerynnau ariannol) a ddygwyd ymlaen sydd wedi’u gosod yn erbyn elw anfasnachol
Nodwch swm y diffyg a gafodd ei gario ymlaen o gyfnodau cynharach a’i osod yn erbyn elw anfasnachol y cyfnod hwn. Ni all y ffigur a nodir yn y blwch hwn fod yn fwy na chyfanswm blychau 170, 175, 180, 185, 190,195, 200, 205 a 220 llai blwch 225.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau ddangos swm y lwfans didyniadau elw anfasnachol yr ydych wedi’i ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- adran 269ZC(5)(a) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
- adran ‘Cyfrifiannau’ yr arweiniad hwn
Ym mlwch 263, dylech nodi diffygion anfasnachol heb eu defnyddio a gododd mewn cyfnod a ddaeth i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, y gellir eu gosod yn erbyn cyfanswm yr elw.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CFM32040: Cario diffygion anfasnachol ymlaen (yn agor tudalen Saesneg)
- yr arweiniad ar sut i gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth
- Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CFM64300: Cyfrifon a luniwyd mewn arian tramor (yn agor tudalen Saesneg)
235 Elw cyn didyniadau a rhyddhadau eraill
Nodwch gyfanswm net blychau 165 i 205 a 220 llai cyfanswm blychau 225 a 230.
Didyniadau a rhyddhadau
240 Colledion ar gyfranddaliadau nas rhestrwyd
Nodwch unrhyw ryddhad colledion cyfranddaliadau o dan adran 68 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch Lawlyfr Cynlluniau Cyfalaf Mentrau ar VCM700000: Rhyddhad colledion cyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
245 Treuliau rheoli
Nodwch unrhyw dreuliau rheoli a ddiffinnir ym mhennod 2, rhan 16 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) neu adran 76 o Ddeddf Cyllid 2012 (yn agor tudalen Saesneg). Darllenwch Lawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM08000: Treuliau rheoli (yn agor tudalen Saesneg) a’r Llawlyfr Aswiriant Bywyd LAM04000: Treuliau rheoli BLAGAB wedi’u haddasu (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colled newydd yn berthnasol. Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn.
250 Colledion eiddo busnes y DU ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn, neu’r un blaenorol
Nodwch unrhyw golledion o fusnes eiddo yn y DU a ddiffinnir ym mhennod 2, rhan 4 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) ac y rhoddir rhyddhad ar eu cyfer o dan adran 62 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Darllenwch Dreth Gorfforaeth: colledion terfynol, colledion cyfalaf a cholledion incwm o eiddo (yn agor tudalen Saesneg) am ragor gwybodaeth.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colled newydd yn berthnasol. Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn.
255 Lwfansau cyfalaf at ddibenion rheoli’r busnes
Nodwch unrhyw lwfansau cyfalaf at ddibenion rheoli’r busnes fel y’u diffinnir yn adran 253 o Ddeddf Lwfansau Cyfalaf 2001 (yn agor tudalen Saesneg) ac maen nhw’n berthnasol i gwmnïau buddsoddi yn unig. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA29320: Sut y gwneir lwfansau a thaliadau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am sut y rhoddir lwfansau offer a pheiriannau i gwmnïau buddsoddi.
260 Diffygion anfasnachol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn o gysylltiadau benthyciadau a chytundebau deilliannol (offerynnau ariannol)
Nodwch swm y diffyg cysylltiadau benthyciadau anfasnachol a osodwyd yn erbyn elw’r un cyfnod cyfrifyddu. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Darllenwch y Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CFM32060: Hawliadau wedi’u gosod yn erbyn elw o’r un cyfnod (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Gallai buddiant eich cwmni gael ei gyfyngu o dan y rheolau Cyfyngu ar Log Corfforaethol a ddiffinnir yn rhan 10 o Ddeddf Trethiant (Darpariaethau Rhyngwladol a Darpariaethau Eraill) 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Darllenwch y Cyfyngiad ar ryddhad Treth Gorfforaeth ar gyfer didyniadau llog (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
263 Diffygion anfasnachol o gysylltiadau benthyciadau a chontractau deilliannol (offerynnau ariannol) a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y diffyg cysylltiadau benthyciadau anfasnachol a gariwyd ymlaen a osodwyd yn erbyn elw’r cyfnod cyfrifyddu hwn.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colled newydd yn berthnasol. Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn.
265 Colledion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol
Nodwch y swm yr ydych yn ei hawlio o dan adran 753 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colled newydd yn berthnasol. Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn.
275 Colledion masnachu o’r cyfnod cyfrifyddu hwn neu un diweddarach
Nodwch gyfanswm y colledion masnachu rydych yn hawlio i’w gosod yn erbyn cyfanswm yr elw o dan adran 37 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth.
Dylai’ch cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn er mwyn i ni allu prosesu’ch colled yn fanwl. Os yw’r cwmni’n cynnal mwy nag un fasnach, nodwch y fasnach sydd wedi achosi’r golled yn y cyfrifiannau. Bydd unrhyw wybodaeth sydd ar goll yn oedi’r broses, neu efallai y byddwn yn gwrthod eich hawliad.
280 Symiau a gariwyd yn ôl o gyfnodau cyfrifyddu diweddarach
Rhowch ‘X’ ym mlwch 280 os yw’r symiau a gariwyd yn ôl o gyfnodau cyfrifyddu diweddarach wedi’u cynnwys ym mlwch 275.
Ni allwch wneud hawliad cario’n ôl hyd nes bod y Ffurflen Dreth ar gyfer cyfnod y golled wedi’i chyflwyno. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau nodi’r cyfnod (neu’r cyfnodau) cyfrifyddu y caiff y colledion eu cario’n ôl ohono. Bydd unrhyw wybodaeth sydd ar goll yn oedi’r broses, neu efallai y byddwn yn gwrthod eich hawliad.
Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth.
285 Colledion masnachu a gariwyd ymlaen ac a hawliwyd yn erbyn cyfanswm yr elw
Nodwch gyfanswm y colledion masnachu a gariwyd ymlaen rydych yn eu gosod yn erbyn cyfanswm yr elw.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Os yw’r cwmni’n cynnal mwy nag un fasnach, nodwch yn y cyfrifiannau y fasnach sy’n achosi’r golled. Ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017, mae rheolau diwygio colled newydd yn berthnasol. Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiadau gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn adran Cyfrifiannau yr arweiniad hwn.
290 Lwfansau cyfalaf anfasnachol
Mae’r rhain yn lwfansau cyfalaf anfasnachol dros ben o dan adran 260(3) o Ddeddf Lwfansau Cyfalaf 2001 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA29450: Sut y gwneir lwfansau a thaliadau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
295 Cyfanswm y didyniadau a’r rhyddhadau
Nodwch gyfanswm blychau 240 i 275 a 290. Ni all y cyfanswm fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 235.
300 Elw cyn cyfraniadau cymhwysol a rhyddhad grŵp
Nodwch y swm a roddwyd ar gyfer blwch 235 llai blwch 295.
305 Cyfraniadau cymhwysol
Mae’r blwch hwn ar gyfer rhyddhad ar roddion i elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol a chwaraeon ar lawr gwlad. Nodwch swm y cyfraniadau cymhwysol a wnaed gan y cwmni yn ystod y cyfnod. Peidiwch â nodi ffigur sy’n fwy na’r ffigur ym mlwch 300. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- arweiniad ar dreth pan fydd eich cwmni cyfyngedig yn cyfrannu i elusen (yn agor tudalen Saesneg)
- rhan 6A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
Peidiwch â chynnwys taliadau sydd fel arall yn cael eu didynnu wrth gyfrifo elw. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Dylech ddangos yn eich cyfrifiannau gyfansymiau ar wahân ar gyfer rhoddion elusennol cymhwysol a wnaed i elusennau a sefydlwyd yn y DU ac i sefydliadau sy’n gymwys i gael rhyddhadau treth elusennol yn y DU a sefydlwyd y tu allan i’r DU.
310 Rhyddhad grŵp
Nodwch swm y rhyddhad grŵp yr hawliwyd amdano. Ni ddylai’r ffigur a nodwch fod yn fwy na blwch 300 llai blwch 305.
Os yw’r cwmni’n hawlio rhyddhad grŵp, dylech lenwi tudalen atodol CT600C: Rhyddhad grŵp a chonsortiwm. Dylai’r ffigur ym mlwch 310 fod yn hafal i flwch C10 ar y dudalen atodol.
Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth.
312 Rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen
Nodwch swm y rhyddhad grŵp yr hawliwyd amdano. Ni ddylai’r ffigur a nodwch fod yn fwy na’r ffigur a roddwyd ar gyfer blwch 300 llai blychau 305 a 310.
Os yw’r cwmni’n hawlio rhyddhad grŵp, dylech lenwi tudalen atodol CT600C: Rhyddhad grŵp a chonsortiwm. Dylai’r ffigur ym mlwch 312 fod yn hafal i flwch C130 ar y dudalen atodol.
Gellir hawlio rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen ar gyfer colledion sy’n codi ar ôl 1 Ebrill 2017. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r swm a hawlir a bydd rhaid iddo gynnwys swm y lwfans didyniadau a ddefnyddiwyd gennych (darllenwch adran 269ZZ(1)(a) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw’r cwmni’n aelod o grŵp lwfans didyniadau, bydd y canlynol yn digwydd:
- mae’r lwfans didyniadau yn cael ei rannu ymhlith aelodau’r grŵp
- bydd yn ofynnol i’r grŵp enwebu un o’i aelodau i gyflwyno datganiad, a elwir yn ddatganiad dyrannu lwfans y grŵp, gan nodi swm y lwfans sy’n cael ei ddyrannu i bob cwmni
- caiff y cwmni enwebedig gyflwyno’r datganiad, fel atodiad PDF, gyda Ffurflen Dreth y cwmni am y cyfnod
I gael rhagor o wybodaeth am ryddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen, darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM82000: Rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen (yn agor tudalen Saesneg).
315 Elw sy’n agored i Dreth Gorfforaeth
Nodwch y ffigur a roddir ym mlwch 300 llai swm blychau 305 a 310. Dyma gyfanswm elw trethadwy’r cwmni (darllenwch adran 4 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
320 Elw wedi’i ddiogelu sydd wedi’i gynnwys
Peidiwch â llenwi’r blwch hwn ar gyfer contractwr sydd wedi’i ddiogelu o dan ran 8ZA o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Fel arall, nodwch swm yr elw cynhyrchu sydd wedi’i ddiogelu a ddiffinnir yn rhan 8 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) a gynhwysir ym mlwch 315. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Olew OT21000: Treth Gorfforaeth a ddiogelir (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
325 Elw Gogledd Iwerddon sydd wedi’i gynnwys
Gadewch y blwch hwn yn wag.
326 Nifer y cwmnïau cysylltiedig yn y cyfnod hwn
Mae’n rhaid i chi lenwi’r blwch hwn os yw’r canlynol yn wir:
- mae elw’r cwmni yn agored i’r gyfradd elw bychan
- mae gan y cwmni hawl i Ryddhad Ffiniol
- mae’r cwmni’n fawr neu’n fawr iawn at ddibenion rhandaliadau chwarterol (QIPs)
Dylech hefyd ddarllen y nodyn ar flychau 327 a 328. Os yw blwch 326 wedi’i lenwi, peidiwch â llenwi blychau 327 a 328.
Talwr rhandaliadau nad ydynt yn chwarterol
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, dylech nodi nifer y cwmnïau sy’n gysylltiedig â’ch cwmni am unrhyw ran o’r cyfnod cyfrifyddu. Ni ddylai’r ffigur gynnwys eich cwmni.
Talwr rhandaliadau chwarterol
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau:
- cyn 1 Ebrill 2023 ac sy’n dod i ben ar ôl hynny, nodwch nifer y cwmnïau grŵp 51% ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol
- ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, nodwch nifer y cwmnïau cysylltiedig ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol
Os nad oes cyfnod cyfrifyddu blaenorol, mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau sy’n bodoli ar ddechrau’r cyfnod cyfrifyddu presennol.
Ni ddylai’r ffigur a nodir gynnwys eich cwmni.
Rhagor o wybodaeth
Dysgwch ragor am gwmnïau cysylltiedig drwy ddarllen y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau (CTM03900) (yn agor tudalen Saesneg).
I gael rhagor o wybodaeth am gwmnïau mawr a mawr iawn, darllenwch y canlynol:
- Llawlyfr Trethiant Cwmnïau (CTM92500) (yn agor tudalen Saesneg)
- rheoliad 3(7) o Reoliadau Treth Gorfforaeth (Rhandaliadau) 1998 (yn agor tudalen Saesneg)
327 a 328 Nifer y cwmnïau cysylltiedig yn y flwyddyn ariannol gyntaf a’r ail
Gwnewch gofnodion ym mlychau 327 a 328 yn lle blwch 326 os yw’r canlynol yn wir:
- mae 2 flynedd ariannol ynghlwm wrth y cyfnod cyfrifyddu
- mae’r terfyn uchaf neu isaf wedi newid
- roedd nifer y cwmnïau cysylltiedig yn wahanol ym mhob un o’r blynyddoedd ariannol
Ni ddylai’r ffigur gynnwys eich cwmni.
Ni ddylech lenwi’r blychau hyn os ydych yn dalwr rhandaliadau chwarterol.
329 Hawl i gyfradd elw bychan neu ryddhad ffiniol
Rhowch ‘X’ yn y blwch hwn os yw’r cwmni’n agored i’r gyfradd elw bychan neu os oes ganddo hawl i ryddhad ffiniol.
Darllenwch CTM03905 — Cyfradd elw bychan: blwyddyn ariannol 2023 ymlaen: cyflwyniad (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfrifiad Treth
Blychau 330 i 425
Nodwch swm yr elw sy’n agored i bob cyfradd dreth a swm y dreth ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Darllenwch Gyfraddau a lwfansau ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
430 Treth Gorfforaeth
Nodwch swm blychau 345, 360, 375, 395, 410 a 425.
435 Rhyddhad ffiniol
Nodwch swm y Rhyddhad Ffiniol sy’n ddyledus.
440 Treth Gorfforaeth i’w chodi
Nodwch y ffigur ym mlwch 430 llai’r ffigur ym mlwch 435.
Rhyddhadau a gostyngiadau o ran treth
445 Rhyddhad Buddsoddiad Cymunedol
Nodwch swm unrhyw ryddhad Buddsoddiad Cymunedol sy’n ddyledus o dan ran 7 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
450 Rhyddhad Trethiant Dwbl
Nodwch unrhyw Ryddhad Trethiant Dwbl a hawlir yn erbyn y Dreth Gorfforaeth sydd i’w chodi. Peidiwch â chynnwys unrhyw swm a nodir ym mlwch 500. Dylai’ch cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn gan gynnwys manylion unrhyw hawliadau rhyddhad treth sylfaenol. Dylech gynnwys unrhyw gofnod o flwch F45 ar dudalen atodol CT600F Treth Tunelledd.
Darllenwch Lawlyfr Mewnol INTM166000: Rhyddhad Trethiant Dwbl (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
455 Hawliad rhyddhad ardrethi sylfaenol
Rhowch ‘X’ ym mlwch 455 os yw blwch 450 yn cynnwys hawliad rhyddhad ardrethi sylfaenol.
Darllenwch Lawlyfr Mewnol INTM164010: Preswylwyr y DU ag incwm neu enillion tramor (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
460 Swm a gariwyd yn ôl o gyfnod diweddarach
Rhowch X ym mlwch 460 os yw blwch 450 yn cynnwys swm a gariwyd yn ôl o gyfnod diweddarach.
Dylech nodi o ba gyfnod y mae’r rhyddhad wedi’i gario’n ôl ohono yn eich cyfrifiannau. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Lawlyfr Mewnol CThEF:
- INTM163040: Preswylwyr y DU ag incwm neu enillion tramor, incwm sy’n codi dramor (yn agor tudalen Saesneg)
- INTM164310: Preswylwyr y DU ag incwm neu enillion tramor, difidendau (yn agor tudalen Saesneg)
465 Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw
Nodwch swm y Dreth Gorfforaeth ymlaen llaw sydd wedi’i gwrthbwyso. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM18250: Treth Gorfforaeth Ymlaen Llaw (ACT) Gysgodol (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am wrthbwyso Treth Gorfforaeth ymlaen llaw ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 1999.
470 Cyfanswm y rhyddhadau a didyniadau o ran treth
Nodwch swm y blychau 445, 465 ac 480. Ni all y ffigur fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 440.
Cynlluniau cymorth yn sgil Coronafeirws a gordaliadau
Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021. Ni ddylid cwblhau blychau 471 i 474 os bydd cyfnod y ffurflen yn dod i ben ar ôl 30 Medi 2021.
471 Y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Cynnal Swyddi a gafwyd
Nodwch gyfanswm taliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS) a gawsoch, yn y cyfnod cyfrifyddu a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth hon.
Wrth gyfrifo’r swm a gafwyd, peidiwch â didynnu symiau:
- sydd wedi’u datgelu’n wirfoddol i CThEF, megis gordaliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, p’un a ydynt wedi’u had-dalu ai peidio
- sydd eisoes wedi’u hasesu gan CThEF, p’un a yw’r asesiad wedi’i dalu neu heb ei dalu
- symiau a gafwyd yr oedd gennych hawl iddynt, ond a ad-dalwyd yn wirfoddol
Ychwanegwch yn ôl unrhyw ordaliadau o symiau a gafwyd mewn cyfnod cynharach sydd wedi’u gwrthbwyso yn erbyn taliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.
472 Hawl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r Cynllun Cynnal Swyddi
Nodwch gyfanswm taliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafwyd yn y cyfnod cyfrifyddu yr oedd gennych hawl i’w hawlio. Nodwch symiau a gawsoch yr oedd gennych hawl iddynt ond a ad-dalwyd yn wirfoddol ar adeg cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Peidiwch â chynnwys unrhyw symiau yr oedd gennych hawl iddynt pan wnaethoch yr hawliad, ond nad oedd gennych hawl i’w cadw erbyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu. Er enghraifft, lle na ddefnyddiwyd swm a gafwyd at y diben gofynnol.
Ni all y ffigur ym mlwch 472 fod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 471. Os na fyddwch yn llenwi blwch 472, bydd y ffigur ym mlwch 471 (llai’r swm a ad-dalwyd neu a aseswyd ym mlwch 473) yn cael ei asesu o ran Treth Incwm fel gordaliad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.
473 Gordaliad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws sydd eisoes wedi’i asesu neu wedi’i ddatgelu’n wirfoddol
Nodwch unrhyw daliadau’r Cynllun Cynnal Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafwyd yn y cyfnod cyfrifyddu hwn sydd, ar adeg llenwi’r Ffurflen Dreth hon:
- eisoes wedi’u hasesu gan CThEF, p’un a yw’r asesiad wedi’i dalu neu heb ei dalu
- wedi’u datgelu’n wirfoddol i CThEF fel gordaliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, boed wedi’u talu neu heb eu talu, gan gynnwys datgeliadau gwirfoddol mewn perthynas â symiau yr oedd gennych hawl iddynt pan gawsoch nhw ond nad oedd gennych hawl i’w cadw erbyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu, hynny yw, lle na ddefnyddiwyd swm a gafwyd at y diben gofynnol
- yn ordaliadau a wrthbwysir yn erbyn taliadau dilynol y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws dilynol a gafwyd mewn cyfnodau cyfrifyddu diweddarach
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- cyfri symiau ddwywaith, er enghraifft, os codir asesiad ar ddatgeliad gwirfoddol heb ei dalu
- cynnwys symiau a gawsoch yr oedd gennych hawl iddynt ond a ad-dalwyd yn wirfoddol
- cynnwys unrhyw ordaliadau trethadwy yn y cyfnod cyfrifyddu nad ydynt wedi’u datgelu i CThEF, neu heb eu hasesu gan CThEF eto, ar adeg llenwi’r Ffurflen Dreth hon
474 Gordaliadau Coronafeirws eraill
Nodwch (ar adeg cyflwyno’r Ffurflen Dreth) swm unrhyw ordaliadau o gynlluniau cymorth COVID-19 eraill rydych wedi eu cael ac heb eu had-dalu, yn y cyfnod cyfrifyddu a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth hon. Er enghraifft, y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Dylid defnyddio’r blwch hwn hefyd i roi gwybod am ordaliadau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer symiau a gafwyd mewn cyfnod cyfrifyddu cynharach nad oes gennych hawl i’w cadw yn y cyfnod cyfrifyddu hwn.
I’ch cynorthwyo i lenwi’r adran hon a blwch 526, darllenwch yr enghraifft hon.
Enghraifft
Dylai’r enghraifft hon eich helpu i lenwi blychau 471 i 474 a blwch 526 (Gordaliad cynlluniau cymorth yn sgil Coronafeirws sy’n ddyledus nawr).
Cyfnod cyfrifyddu Cwmni A oedd 1 Ionawr 2020 i 31 Rhagfyr 2020. Hawliodd £135,000 mewn grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Ni chafwyd yr hawliad ar gyfer Rhagfyr 2020 tan 6 Ionawr 2021, felly dim ond £120,000 oedd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafwyd yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Roedd hyn yn golygu bod y cwmni wedi gor-hawlio £5,000 ym mis Mai 2020. Oherwydd ei fod wedi lleihau ei hawliad ym mis Gorffennaf £5000, nid oedd hyn wedi arwain at ordaliad.
Ym mis Chwefror 2021, nododd y cwmni fod gor-hawliad pellach o £10,000 wedi’i gael yn 2020. Fe wnaeth ddatgeliad gwirfoddol, gan ad-dalu £5,000 o’r swm hwn.
Ym mis Medi 2021, nododd fod gor-hawliad ychwanegol o £8,000 wedi’i gael yn 2020. Ni ddatgelwyd y swm hwn ganddo.
Ni wnaeth y cwmni unrhyw hawliadau na thaliadau Bwyta Allan i Helpu Allan.
Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, llenwodd Cwmni A ei Ffurflen Dreth fel a ganlyn:
Blwch 471 Y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafwyd: £120,000
Dyma swm grant y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a gafodd.
Blwch 472 Hawl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws: £102,000
Mae hyn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
- Y swm a gafwyd: £120,000
- Llai’r gor-hawliad a nodwyd ym mis Chwefror 2021: £10,000
- Llai’r gor-hawliad a nodwyd ym mis Medi 2021: £8,000
Blwch 473 Gordaliad y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws sydd eisoes wedi’i asesu neu wedi’i ddatgelu’n wirfoddol: £10,000
Dyma’r swm a ddatgelwyd yn wirfoddol ym mis Chwefror 2021 ac mae wedi’i gynnwys p’un a yw wedi’i dalu ai peidio.
Blwch 474 Gordaliadau Coronafeirws eraill: £0
Blwch 526 Gordaliad y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws sy’n ddyledus nawr: £8,000
Mae hyn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
- Swm blychau 471 (£120,000) a 474 (£0) = £120,000
- £120,000 llai swm blychau 472 (£102,000) a 473 (£10,000) = £8,000
Dyma’r swm a gafodd ei or-hawlio ond nad yw’n destun datgeliad gwirfoddol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ordaliad a bod yn rhaid ei ad-dalu. Bydd y datgeliad gwirfoddol heb ei dalu o £5,000 yn cael ei asesu ar wahân.
Ardollau ynni
986 Rhwymedigaeth i unrhyw symiau’r Ardoll Elw Ynni (Olew a Nwy) (EOGPL)
Llenwch y blwch hwn os oes gennych elw Symiau’r Ardoll Elw Ynni (Olew a Nwy).
987 Derbyniadau cynhyrchu eithriadol yr Ardoll Cynhyrchu Trydan (EGL)
Nodwch faint o dderbyniadau cynhyrchu eithriadol yr Ardoll Cynhyrchu Trydan (EGL) y gellir eu priodoli i’r ymgymeriad ar gyfer y cyfnod cymhwysol.
Cyfrifiad o’r dreth sydd dal heb ei thalu, neu a ordalwyd
475 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth net
Nodwch y ffigur o flwch 440 llai’r ffigur o flwch 470.
480 Treth sy’n daladwy ar fenthyciadau a threfniadau i gyfranogwyr
Nodwch y ffigur a roesoch ym mlwch A80 ar dudalen atodol CT600A Benthyciadau i gyfranogwyr gan gwmnïau caeedig (yn agor tudalen Saesneg).
485 Blwch A70 yn CT600A
Rhowch X ym mlwch 485 os ydych wedi llenwi blwch A70 yn y tudalennau atodol CT600A.
490 Treth Corfforaeth Dramor a Reolir (CFC) sy’n daladwy
Nodwch y ffigur a roesoch ym mlwch B30 ar dudalen atodol CT600B Cwmnïau Tramor Rheoledig.
495 Ardoll Banc sy’n daladwy
Nodwch swm yr Ardoll Banc sy’n ddyledus. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- Llawlyfr Ardoll Banc (yn agor tudalen Saesneg)
- Papur polisi, Ardoll Banc: gostyngiad yn y gyfradd (yn agor tudalen Saesneg)
496 Gordal banc sy’n daladwy
Nodwch swm y gordal banc sy’n ddyledus.
Darllenwch y gordal Treth Gorfforaeth Banc (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
497 Treth Datblygwr Eiddo Preswyl (RPDT) sy’n daladwy
Nodwch swm y Dreth Datblygwr Eiddo Preswyl sy’n ddyledus.
Nodwch y ffigur ym mlwch N285 ar y dudalen atodol Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl (RPDT) CT600N.
Darllenwch RPDT30100 ― Gweinyddu RPDT (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am weinyddu Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl a’i chysylltiadau â Threth y Cwmni a’r CT600.
Darllenwch RPDT20100 ― Codi RPDT (yn agor tudalen Saesneg) am gyfarwyddiadau manwl ar gyfrifo rhwymedigaeth Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl.
500 Treth Corfforaeth Dramor Reoledig (CFC), ardoll banc, gordal banc a’r RPDT sy’n daladwy
Nodwch swm blychau 490, 495, 496 a 497.
501 Ardoll Elw Ynni (Olew a Nwy) (EOGPL) sy’n daladwy
Nodwch swm yr Ardoll Elw Ynni (Olew a Nwy) sy’n ddyledus.
502 Ardoll Cynhyrchu Trydan sy’n daladwy
Nodwch swm yr Ardoll Cynhyrchu Trydan (EGL) sy’n ddyledus.
505 Tâl atodol (masnachau wedi’u diogelu) sy’n daladwy
Nodwch swm y tâl atodol ar gyfer diogelu gwaith cynhyrchu o dan ran 8 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Dyma’r ffigur a nodwyd gennych ym mlwch I70 ar dudalen atodol CT600I: tâl atodol mewn perthynas â masnachau wedi’u diogelu.
510 Treth i’w chodi
Nodwch swm blychau 475, 480, 500, 501, 410 a 505.
515 Treth Incwm a ddidynnwyd o incwm gros a gafodd ei gynnwys mewn elw
Nodwch swm y Dreth Incwm wedi’i dynnu oddi ar y cwmni ar incwm buddsoddi a gafwyd net o dreth. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Peidiwch â chynnwys didyniadau ar gyfrif treth o daliadau contract o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu. Darllenwch yr hyn sy’n angen i chi ei wneud fel is-gontractiwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am ad-dalu didyniadau nad yw’r cwmni wedi gallu eu gwrthbwyso yn erbyn ei rwymedigaethau TWE.
Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM35250: Amodau ar gyfer hawliad gwrthbwyso o dan ITA07/S952 (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
520 Treth Incwm sy’n ad-daladwy i’r cwmni
Nodwch y ffigur o flwch 515 llai’r ffigur o flwch 510. Gadewch hwn yn wag os nad yw blwch 515 yn fwy na blwch 510.
525 Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy cyn treth iawndal a gordaliadau’r cynllun cymorth yn sgil coronafeirws
Nodwch y ffigur o flwch 510 llai’r ffigur o flwch 515. Os yw blwch 515 yn fwy na blwch 510, nodwch 0.00. Dyma swm hunanasesiad y cwmni os nad oes rhaid iddo roi cyfrif am y dreth sydd i’w chodi ar log iawndal neu ordaliadau’r cynllun cymorth yn sgil Coronafeirws.
526 Gordaliad cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws sy’n ddyledus nawr
Nodwch gyfanswm gordaliadau’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a Bwyta Allan i Helpu Allan sydd bellach yn rhan o’ch hunanasesiad ac a fydd yn cael ei asesu ar gyfer treth incwm. Bydd yr enghraifft yn yr adran cynlluniau cymorth yn sgil Coronafeirws a gordaliadau yn yr arweiniad yn eich helpu i lenwi’r blwch hwn.
Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r cyfeirnod a’r manylion talu. Nid Treth Gorfforaeth yw hon felly peidiwch â thalu hwn gyda’ch prif rwymedigaeth i Dreth Gorfforaeth.
527 Treth iawndal
Nodwch swm y Dreth Gorfforaeth sy’n daladwy ar log adfer (darllenwch ran 8C o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Dyma’r ffigur a nodwyd gennych ym mlwch K35 ar dudalen atodol CT600K Treth Iawndal.
528 Hunanasesiad o’r dreth sy’n daladwy
Nodwch swm blychau 525, 526 ac 527. Dyma swm hunanasesiad y cwmni.
Cysoni treth
530 Credyd Ymchwil a Datblygu
Nodwch y ffigur a roesoch ym mlwch L210 ar dudalen atodol CT600L Ymchwil a Datblygu. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
535
Gadewch y blwch hwn yn wag.
540 Credyd treth ar gyfer y diwydiant creadigol
Nodwch gyfanswm unrhyw rai sy’n berthnasol:
- Credyd Gwariant Clyweledol
- Credyd Gwariant Gemau Fideo
- credyd treth ffilm
- credyd treth animeiddio
- credyd treth teledu o safon uchel
- credyd treth teledu i blant
- credyd treth gemau fideo
- credyd treth theatr
- credyd treth cerddorfa
- credyd treth amgueddfeydd ac orielau
Dyma gyfanswm unrhyw gredydau treth ar gyfer y diwydiant creadigol y mae’r cwmni yn eu hawlio ar gyfer y cyfnod dan sylw. Dyma’r swm cyn unrhyw wrthbwysiadau neu ildiadau, nid y swm taladwy terfynol.
Ar gyfer hawliadau am Gredyd Gwariant Clyweledol (AVEC) neu Gredyd Gwariant Gemau Fideo (VGEC), dylai’r swm a nodir yn 540 gynnwys:
- unrhyw gyfyngiadau Cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol y mae’r cwmni am eu defnyddio ar gyfer y cyfnod dan sylw
- symiau Cam 2 neu Gam 4 (neu’r ddau) a ildiwyd gan gwmnïau eraill y mae’r cwmni am eu defnyddio ar gyfer y cyfnod dan sylw
- y swm sy’n weddill ar ôl Cam 5 o’r cyfrifiad swm credyd (s1179CA o Ddeddf Cyllid 2024 (yn agor tudalen Saesneg))
Dylai’ch cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r swm sy’n weddill ar ôl Cam 5 ar gyfer pob cynhyrchiad ar wahân.
Gall cwmni gynnwys y swm a ildiwyd hyd yn oed os nad yw’n hawlio Credyd Gwariant Clyweledol neu Gredyd Gwariant Gemau Fideo ei hun ar gyfer y cyfnod hwn. Os yw’r cwmni’n cynnwys swm a ildiwyd, bydd yn rhaid i’r cwmni sy’n derbyn a’r cwmni sy’n ildio gynnwys y manylion yn eu cyfrifiant.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch arweiniad CThEF ynghylch rhyddhadau treth y Diwydiant Creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) a’r Llawlyfr i Gwmni Cynhyrchu Ffilm, manylion FPC60038 – CT600 (yn agor tudalen Saesneg).
545 Cyfanswm credyd Ymchwil a Datblygu a chredyd treth creadigol
Nodwch gyfanswm blychau 530 i 540.
550 Credyd treth adfer tir
Nodwch swm y credyd treth adfer tir a hawliwyd. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol CIRD68000: Rhyddhad Adfer Tir (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
555 Credyd treth cwmni aswiriant bywyd
Nodwch swm y credyd treth cwmni aswiriant bywyd a hawliwyd. Mae’n rhaid i’r ffigur ym mlwch 555 beidio â bod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 525. Darllenwch y Llawlyfr Aswiriant Bywyd LAM04030: Cyfrifo treuliau rheoli BLAGAB ‘E’ wedi’u haddasu (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am y darpariaethau arbennig sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n cynnal busnes aswiriant bywyd.
Dylech gynnwys unrhyw swm o dreth sy’n cael ei thrin fel petai wedi’i thalu ar gredyd cysylltiad benthyciad anfasnachol o drafodyn cysylltiedig contract aswiriant bywyd buddsoddi. Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Deiliaid Polisi Yswiriant o IPTM3900: Polisïau a chontractau sy’n eiddo i gwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
560 Cyfanswm y credyd treth adfer tir a’r credyd treth cwmni aswiriant bywyd
Nodwch gyfanswm blychau 550 a 555.
565 Credyd treth y flwyddyn gyntaf o ran lwfansau cyfalaf
Nodwch swm credyd treth y flwyddyn gyntaf a hawliwyd. Diddymir credydau treth y flwyddyn gyntaf mewn cysylltiad ag unrhyw wariant a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020 (darllenwch adran 33 o Ddeddf Cyllid 2019 (yn agor tudalen Saesneg). Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am gredyd treth y flwyddyn gyntaf darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA23175: Credydau treth y flwyddyn gyntaf (yn agor tudalen Saesneg).
570 Credydau Ymchwil a Datblygu sydd dros ben neu gredyd treth creadigol sy’n daladwy
Nodwch y ffigur ym mlwch 545 llai’r ffigur ym mlwch 525. Nodwch 0 os yw’r canlyniad yn negyddol.
575 Credyd treth adfer tir neu’r credyd treth cwmni aswiriant bywyd sy’n daladwy
Nodwch swm blychau 545 a 560 llai swm blychau 525 a 570. Mae’n rhaid i’r swm beidio â bod yn fwy na’r ffigur ym mlwch 560.
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
580 Credyd treth y flwyddyn gyntaf sy’n daladwy o ran lwfansau cyfalaf
Nodwch swm blychau 545, 560 a 565 llai swm blychau 525, 570 a 575. Mae’n rhaid i hwn beidio â bod yn fwy na’r swm ym mlwch 565. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
Diddymir credydau treth y flwyddyn gyntaf mewn cysylltiad ag unrhyw wariant a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020 (darllenwch adran 33 o Ddeddf Cyllid 2019 (yn agor tudalen Saesneg).
585 Treth Gorfforaeth wedi’i diogelu sydd wedi’i chynnwys a 590 Tâl atodol wedi’i ddiogelu sydd wedi’i gynnwys
Peidiwch â llenwi blwch 585, 590 na ffurflen CT600I ar gyfer contractwr wedi’i ddiogelu o dan ran 8ZA o Ddeddf Corfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Fel arall, nodwch swm y dreth gorfforaeth a’r tâl atodol sydd wedi’i gynnwys ar gyfer gwaith cynhyrchu wedi’i ddiogelu o dan Ran 8 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y ffigurau a roesoch ym mlychau I80 ac I85 ar dudalen atodol CT600I: tâl atodol yng nghyswllt masnachau a ddiogelwyd.
Gwiriwch eich bod wedi nodi swm yr elw wedi’i ddiogelu ym mlwch 320.
586 Treth Gorfforaeth YG wedi’i chynnwys
Gadewch y blwch hwn yn wag.
595 Treth eisoes wedi’i thalu (ac heb ei had-dalu eisoes)
Nodwch swm y Dreth Gorfforaeth a dalwyd am y cyfnod cyfrifyddu ac nad yw wedi’i ad-dalu gan CThEF. Peidiwch â chynnwys unrhyw dreth iawndal na gordaliadau’r cynllun cymorth yn sgil coronafeirws yn y ffigur hwn. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
600 Treth sydd heb ei thalu
Nodwch y ffigur ym mlwch 525 llai’r ffigurau ym mlychau 545, 560, 565 a 595. Peidiwch â nodi ffigur negyddol.
605 Treth wedi’i gordalu gan gynnwys credydau dros ben neu gredydau sy’n daladwy
Nodwch swm blychau 545, 560, 565 a 595 llai’r ffigur ym mlwch 525. Peidiwch â nodi ffigur negyddol.
Defnyddiwch flychau 920 i 940 i nodi manylion y cyfrif ar gyfer unrhyw ad-daliad. Gwneir ad-daliadau drwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os gwnaed taliad ar gerdyn debyd neu gredyd, bydd ad-daliadau’n cael eu gwneud i’r cerdyn hwnnw fel arfer.
610 Ad-daliadau treth grŵp wedi’u hildio i’r cwmni hwn
Nodwch y swm a ildiwyd i chi gan gwmni grŵp arall o dan adran 963 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) neu reoliad 9 o’r Rheoliadau Treth Gorfforaeth (Rhandaliadau) 1998 (yn agor tudalen Saesneg).
615 Credydau gwariant Ymchwil a Datblygu wedi’u hildio i’r cwmni hwn
Nodwch swm y credydau gwariant ymchwil a datblygu a ildiwyd i chi gan gwmni grŵp arall o dan bennod 6A, rhan 3 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau gynnwys manylion y cwmni ildio.
Gwybodaeth allforwyr
Mae ymateb i gwestiynau 616 i 618 yn ddewisol. Bydd CThEF yn rhannu eich ymatebion ac enw a chyfeiriad eich busnes gyda’r Adran Busnes a Masnach (yn agor tudalen Saesneg) a fydd yn eu prosesu. Ni fydd CThEF yn defnyddio eich ymatebion at unrhyw ddiben arall.
616 Iawn — nwyddau
Nodwch X os oedd y cwmni wedi allforio nwyddau i unigolion, mentrau neu sefydliadau y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth.
617 Iawn — gwasanaethau
Nodwch X os oedd y cwmni wedi allforio gwasanaethau i unigolion, mentrau neu sefydliadau y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth.
618 Na — dim un o’r ddau
Nodwch X os na wnaeth y cwmni allforio nwyddau a (neu) wasanaethau i unigolion, mentrau neu sefydliadau y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth.
Dangosyddion a gwybodaeth
620 Incwm buddsoddiad ffrancedig neu ddosbarthiadau ABGH wedi’u heithrio
Diddymwyd y term incwm buddsoddiad ffrancedig ar 6 Ebrill 2016. Fe’i disodlwyd gan ddiffiniadau eraill o ddifidendau ar gyfer meysydd deddfwriaeth cyfredol sy’n defnyddio incwm buddsoddi ffrancedig.
Nodwch swm unrhyw ddosbarthiadau ABGH sydd wedi’u heithrio y mae’r cwmni wedi’i gael. Mae dosbarthiadau ABGH wedi’u heithrio’n golygu dosbarthiad sydd:
- yn ddosbarthiad at ddibenion y Deddfau Treth Gorfforaeth yn unig oherwydd ei fod yn dod o fewn paragraffau A, B, G neu H yn adran 1000(1) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg)
- wedi ei eithrio at ddibenion rhan 9A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) (dosbarthiadau cwmni)
Peidiwch â chynnwys dosbarthiadau wedi’u heithrio a wnaed gan gwmnïau penodol eraill yn yr un grŵp neu gan gwmni consortia penodol, (darllenwch adran 279G(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer blynyddoedd ariannol cyn 2023 ac adran 18L(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 ymlaen.
625 Nifer y cwmnïau grŵp 51%
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Mawrth 2023, mae’n rhaid i chi lenwi’r blwch hwn. Mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau grŵp 51% ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol os yw’r cwmni yn un o’r canlynol:
- talwr rhandaliadau chwarterol mawr o Dreth Gorfforaeth
- talwr rhandaliadau chwarterol mawr iawn o Dreth Gorfforaeth
Os nad oes cyfnod cyfrifyddu blaenorol, mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau grŵp 51% ar ddechrau’r cyfnod cyfrifyddu.
Dylai’r cyfanswm gynnwys eich cwmni.
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, mae’n rhaid i chi lenwi blwch 326 yn lle. Gadewch y blwch hwn yn wag os nad oes gan eich cwmni unrhyw gwmnïau 51% cysylltiedig.
630 Dylai fod wedi gwneud (p’un a yw wedi ai peidio) rhandaliadau fel cwmni mawr o dan Reoliadau Treth Gorfforaeth (Rhandaliadau) 1998
Nodwch X os oedd y cwmni yn gwmni mawr at ddibenion rhandaliadau chwarterol. Os gwnewch gofnod yma:
- mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau grŵp 51% sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol ym mlwch 625 (ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Mawrth 2023)
- mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau cysylltiedig sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol ym mlwch 326 (ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023)
- ni ddylech wneud cofnod ym mlwch 631
Os nad oes cyfnod cyfrifyddu blaenorol, mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau sy’n bodoli ar ddechrau’r cyfnod cyfrifyddu. Dylai’r ffigur ym mlwch 625 gynnwys eich cwmni. Ni ddylai’r ffigur ym mlwch 326 gynnwys eich cwmni.
Os yw dyddiad dechrau’ch cyfnod cyfrifyddu cyn 1 Ebrill 2023 a’i fod yn dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, ni ddylech lenwi blwch 625. Mae’n rhaid i chi gwblhau blwch 326 yn lle hynny.
I gael rhagor o wybodaeth am gwmnïau mawr, darllenwch y canlynol:
- arweiniad CThEF ar gyfer talu Treth Gorfforaeth os ydych yn gwmni mawr
- y Llawlyfr Treth Cwmnïau 92520: Rhandaliadau chwarterol: cwmnïau mawr (yn agor tudalen Saesneg)
- y Llawlyfr Ardoll Banc BLM451000: Ardoll banc wedi’i thrin fel pe bai’n Dreth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
631 Dylai fod wedi gwneud (p’un a yw wedi ai peidio) rhandaliadau fel cwmni mawr iawn o dan Reoliadau Treth Gorfforaeth (Rhandaliadau) 1998
Nodwch X os oedd y cwmni yn gwmni mawr iawn at ddibenion rhandaliadau chwarterol. Os gwnewch gofnod yma:
- mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau grŵp 51% sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol ym mlwch 625 (ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Mawrth 2023)
- mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau cysylltiedig sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol ym mlwch 326 (ar gyfer cyfnodau sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023)
- ni ddylech wneud cofnod ym mlwch 630
Os nad oes cyfnod cyfrifyddu blaenorol, mae’n rhaid i chi nodi nifer y cwmnïau sy’n bodoli ar ddechrau’r cyfnod cyfrifyddu. Dylai’r ffigur ym mlwch 625 gynnwys eich cwmni. Ni ddylai’r ffigur ym mlwch 326 gynnwys eich cwmni.
Os yw dyddiad dechrau’ch cyfnod cyfrifyddu cyn 1 Ebrill 2023 a’i fod yn dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, ni ddylech lenwi blwch 625. Mae’n rhaid i chi gwblhau blwch 326 yn lle hynny.
Darllenwch y Llawlyfr Treth Cwmnïau CTM92800: rhandaliadau chwarterol: Cwmnïau mawr iawn (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
635 o fewn trefniant taliadau grŵp am y cyfnod
Nodwch X os yw’r cwmni’n gwmni sy’n cymryd rhan mewn Trefniant Talu Grŵp.
Darllenwch y canllaw ynghylch Trefniadau Talu Grŵp ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
640 wedi gosod asedion anniriaethol ar bapur, neu wedi eu gwerthu
Nodwch X os yw’r cwmni wedi gosod asedion anniriaethol ar bapur, neu wedi eu gwerthu. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw asedion anniriaethol — p’un a ydynt yn cael eu dal at ddiben busnes eiddo neu fasnach, neu at ddibenion anfasnachol.
645 wedi gwneud breindaliadau trawsffiniol
Nodwch X os yw’r cwmni wedi gwneud unrhyw freindaliad dramor. Gwnewch gofnod p’un a yw’r cwmni:
- wedi talu’r breindal heb ddidynnu treth neu ar y gyfradd a bennir gan Gytuniad Trethiant Dwbl (oherwydd ei fod yn credu’n rhesymol y byddai gan y derbynnydd hawl i ryddhad cytundeb)
- heb ddidynnu treth (oherwydd ei fod yn credu’n rhesymol y byddai’r derbynnydd wedi’i eithrio rhag Treth Incwm y DU yn dilyn gweithredu’r Gyfarwyddeb Llog a Breindaliadau)
Darllenwch y nodiadau ar gyfer tudalen atodol CT600H Breindaliadau trawsffiniol (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
647 Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan: gostyngiadau a ad-dalwyd wedi’u cynnwys fel incwm trethadwy
Nodwch gyfanswm gwerth unrhyw hawliadau’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan a adlewyrchwyd yn eich trosiant masnachu ar gyfer cyfnod y Ffurflen Dreth hon.
Mae taliadau a dderbynnir ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn drethadwy a rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifiannu elw trethadwy. Dysgwch ragor am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Gwybodaeth am wariant uwch
I gael arweiniad a gwybodaeth i’ch helpu i lenwi’r adran hon, darllenwch y canlynol:
- arweiniad CThEF ar hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
- arweiniad CThEF ar ryddhadau treth y Diwydiant creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth
- y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol CIRD60000: Rhyddhad Adfer Tir (yn agor tudalen Saesneg)
- y Llawlyfr Aswiriant Bywyd (yn agor tudalen Saesneg) (Rhyddhad Adfer Tir — darpariaethau arbennig ar gyfer cwmnïau aswiriant bywyd)
Gwariant a rhyddhadau treth uwch Ymchwil a Datblygu (R&D) neu yn y maes creadigol
650 Hawliadau a wnaed gan fentrau bach neu ganolig
Rhowch X yn y blwch os gwneir yr hawliad gan fenter fach neu ganolig, gan gynnwys is-gontractiwr menter fach a chanolig i gwmni mawr.
655 Hawliadau a wnaed gan gwmnïau mawr
Rhowch X yn y blwch os yw’r hawliad yn cael ei wneud gan gwmni mawr.
656 Ffurflen rhoi gwybod am hawlio Ymchwil a Datblygu
Rhowch ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau bod y ffurflen rhoi gwybod am hawliad Ymchwil a Datblygu wedi’i chyflwyno.
Darllenwch roi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) am ragor o wybodaeth ynghylch pryd y mae angen hysbysiad hawlio Ymchwil a Datblygu a sut i gael mynediad at y ffurflen ddigidol.
Mae’n rhaid cyflwyno hon ymlaen llaw neu ar yr un pryd â Ffurflen Dreth y Cwmni.
657 Ffurflen gwybodaeth ychwanegol
Rhowch ‘X’ ym mlwch 657 i gadarnhau bod y ffurflen gwybodaeth ychwanegol wedi’i chyflwyno.
Ers 8 Awst 2023, mae angen y ffurflen hon i ategu pob hawliad am ryddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu (R&D). Mae’n rhaid i’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol gael ei chyflwyno erbyn 11:59pm ar y diwrnod y caiff Ffurflen Dreth y Cwmni ei chyflwyno.
Darllenwch y canllaw ynghylch Gwybodaeth ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno cyn i chi wneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth a dolen i’r ffurflen ddigidol.
659 Gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol ar gyfer rhyddhad Ymchwil a Datblygu mentrau bach a chanolig
Nodwch swm y gwariant cymhwysol ar gyfer rhyddhad Ymchwil a Datblygu mentrau bach a chanolig.
Peidiwch â nodi gwariant sy’n gymhwysol ar gyfer Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu yn y blwch hwn.
Dysgwch ragor o wybodaeth am ba gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.
660 Gwariant uwch Ymchwil a Datblygu
Nodwch y gwariant uwch. Dyma’r swm sy’n deillio o ychwanegu didyniad ychwanegol Ymchwil a Datblygu at y gwariant cymhwysol. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn. Peidiwch â nodi gwariant sy’n gymwys ar gyfer Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu yma.
665 Gwariant a (neu) ddidyniad ychwanegol cymwys yn y maes creadigol
Ar gyfer hawliadau ar gyfer Rhyddhad Treth Ffilm, Rhyddhad Treth Animeiddio, Rhyddhad Treth Teledu o safon uchel, Rhyddhad Treth Teledu Plant, Rhyddhad Treth Gemau Fideo, Rhyddhad Treth Theatr, Rhyddhad Treth Cerddorfeydd, neu Ryddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd, nodwch swm y didyniad ychwanegol sy’n cael ei hawlio am y cyfnod.
Ar gyfer hawliadau ar gyfer y Credyd Gwariant Gemau Glyweledol (AVEC) neu’r Credyd Gwariant Gemau Fideo (VGEC), nodwch swm ‘gwariant cymwys y cwmni ar gyfer y cyfnod’. Dyma’r swm sy’n weddill ar ôl Cam 4 o’r cyfrifiad swm credyd (s1179CA o Ddeddf Cyllid 2024) (yn agor tudalen Saesneg).
Pan fydd cwmni’n gwneud hawliadau ar gyfer cynyrchiadau lluosog, neu ar gyfer sawl rhyddhad neu gredyd creadigol gwahanol, dylid ychwanegu’r holl symiau a grybwyllir at ei gilydd i roi’r cyfanswm i nodi ym mlwch 665. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn pob cynhyrchiad ar wahân.
670 Gwariant uwch Ymchwil a Datblygu a gwariant uwch creadigol
Nodwch swm blychau 660 a 665.
675 Gwariant uwch Ymchwil a Datblygu menter fach a chanolig ar waith yr is-gontractiwyd iddi gan gwmni mawr
Nodwch swm gwariant uwch menter fach a chanolig ar waith yr is-gontractiwyd iddi gan gwmni nad yw’n fenter fach a chanolig. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
680 Gwariant ymchwil brechlynnau
Nodwch y didyniad ychwanegol (40% ar gyfer cwmni mawr) o dan adran 1089(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) neu adran 1091(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Tynnwyd rhyddhad ar gyfer menter fach a chanolig yn ôl o 1 Ebrill 2012.
Gwariant uwch adfer tir
685 Nodwch gyfanswm y gwariant uwch
Nodwch swm sy’n hafal i 150% o’r gwariant adfer tir cymhwysol. Dylech gynnwys hawliadau o dan y darpariaethau arbennig ar gyfer cwmnïau aswiriant bywyd. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad o’r gwariant cymhwysol.
Gwybodaeth am lwfansau cyfalaf a chostau mantoli neu werthoedd gwaredu
Lwfansau a thaliadau wrth gyfrifo elw a cholledion masnachu
Llenwch y blychau hyn os yw’r cwmni:
- yn hawlio lwfansau cyfalaf
- yn agored i unrhyw daliadau mantoli
Nodwch wybodaeth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli neu werthoedd gwaredu sydd heb eu cynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlychau 688 i 730.
Nodwch wybodaeth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli neu werthoedd gwaredu sydd heb eu cynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlychau 733 i 755.
Mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych wedi cyfrifo’r lwfansau cyfalaf a’r taliadau mantoli neu werthoedd gwaredu yn eich cyfrifiannau.
Darllenwch yr arweiniad Hawlio lwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
688 a 689 Gwariant llawn
Nodwch swm yr hawliad gwariant llawn a gynhwyswyd wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 688.
Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r gwariant llawn wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 689.
690 Lwfans buddsoddi blynyddol
Nodwch swm y Lwfans Buddsoddi Blynyddol a gynhwyswyd wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu.
Darllenwch yr arweiniad Hawlio lwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
691 a 692 Peiriannau ac offer — uwch-ddidyniad
Nodwch swm yr hawliad uwch-ddidyniad a gynhwyswyd wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 691.
Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r uwch-ddidyniad wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 692.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
693 a 694 Peiriannau ac offer — lwfans cyfradd arbennig
Nodwch swm yr hawliad lwfans blwyddyn gyntaf cyfradd arbennig a gynhwyswyd wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 693.
Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r lwfans blwyddyn gyntaf cyfradd arbennig wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 694.
Dylech ddefnyddio’r blychau hyn ar gyfer hawliadau a chydbwyso taliadau ar gyfer y ddau lwfansau blwyddyn gyntaf 50% a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r uwch-ddidyniad a’r gwariant llawn.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
695 a 700 Peiriannau ac offer — cronfa gyfradd arbennig
Nodwch gyfanswm y lwfansau, gan gynnwys unrhyw Lwfans Buddsoddi Blynyddol a hawliwyd, mewn perthynas â’r gronfa gyfradd arbennig ym mlwch 695. Peidiwch â chynnwys symiau a nodwyd ym mlwch 693. Nodwch unrhyw daliadau mantoli mewn perthynas â’r gronfa gyfradd arbennig ym mlwch 700.
Darllenwch yr arweiniad Hawlio lwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
705 a 710 Peiriannau ac offer — y brif gronfa
Nodwch gyfanswm y lwfansau gan gynnwys unrhyw Lwfans Buddsoddi Blynyddol a hawliwyd, mewn perthynas â’r brif gronfa ym mlwch 705. Peidiwch â chynnwys symiau a nodwyd ym mlwch 688 neu 691. Nodwch unrhyw daliadau mantoli mewn perthynas â’r brif gronfa ym mlwch 710.
Darllenwch yr arweiniad Hawlio lwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
711 Strwythurau ac adeiladau
Os oes gennych y datganiadau lwfans angenrheidiol, nodwch gyfanswm eich lwfansau strwythurau ac adeiladau. Dangoswch sut y gwnaethoch gyfrifo’r lwfansau yn eich cyfrifiant treth.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- arweiniad CThEF ar hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau
- y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA90000: Lwfans strwythurau ac adeiladau (yn agor tudalen Saesneg)
715 a 720 Adnewyddu safleoedd busnes
Nodwch gyfanswm y Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes (BPRA) ym mlwch 715 ac unrhyw daliadau mantoli ym mlwch 720.
Dylid cynnwys unrhyw Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes sy’n weddill ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 17 yn y blychau ‘Lwfansau a thaliadau eraill’ (725,730,750,755). Ni allwch hawlio Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes ar gyfer gwariant a wnaed ar ôl 31 Mawrth 2017.
Darllenwch Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
725 a 730 Lwfansau a thaliadau eraill
Nodwch gyfanswm y lwfansau eraill sydd wedi’u cynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnach, nad ydynt wedi’u cynnwys mewn blychau eraill yn yr adran hon ym mlwch 725. Nodwch unrhyw daliadau mantoli eraill sy’n ymwneud â masnach ym mlwch 730.
713 a 714 Pwyntiau gwefru trydan
Nodwch gyfanswm y lwfansau a hawliwyd am ddarparu offer neu beiriannau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym mlwch 713. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Nodwch unrhyw swm a ystyriwyd wrth waredu offer a pheiriannau o’r fath ym mlwch 714. Cofnodwch unrhyw werthoedd gwaredu ym mlwch 714 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 713 a 714 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 688 i 730 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn 695, 700, 705 neu 710).
Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA23156: Offer a pheiriannau: gwariant ar offer neu beiriannau ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
721 a 722 Ardaloedd menter
Nodwch gyfanswm y lwfansau a hawliwyd ar offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn ardal ddynodedig a gynorthwyir o fewn Ardal Fenter ym mlwch 721. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Nodwch unrhyw swm a ystyriwyd wrth waredu offer neu beirianwaith o’r fath ym mlwch 722. Cofnodir y symiau hyn ar wahân at ddibenion Cymorth Gwladwriaethol. Cofnodwch unrhyw werth gwaredu ym mlwch 722 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 721 a 722 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 688 i 730 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn 695, 700, 705 neu 710).
Darllenwch Estyniad o lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer Ardaloedd Menter (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
723 a 724 Cerbydau nwyddau allyriadau sero
Nodwch gyfanswm y lwfansau a hawliwyd wrth brynu cerbyd nwyddau allyriadau sero ym mlwch 723. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Nodwch unrhyw swm a ystyriwyd ar gyfer gwaredu cerbyd o’r fath ym mlwch 724. Cofnodir y symiau hyn ar wahân at ddibenion Cymorth Gwladwriaethol. Cofnodwch unrhyw werth gwaredu ym mlwch 724 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 723 a 724 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 688 i 730 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn 705 neu 710).
Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA23145: Cerbydau nwyddau allyriadau sero (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
726 a 727 Ceir allyriadau sero
Nodwch gyfanswm y lwfansau a hawliwyd ar geir allyriadau sero ym mlwch 726. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Nodwch unrhyw swm a ystyriwyd ar gyfer gwaredu cerbyd o’r fath ym mlwch 727. Cofnodwch unrhyw ‘werth gwaredu’ ym mlwch 727 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 726 a 727 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 688 i 730 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn 705 neu 710).
Darllenwch yr arweiniad Hawlio lwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
Lwfansau a thaliadau heb eu cynnwys wrth gyfrifo elw a cholledion masnachu
733 a 734 Gwariant llawn
Nodwch swm yr hawliad ar gyfer gwariant llawn sydd heb ei gynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 733.
Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r gwariant llawn wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 734.
735 Lwfans Buddsoddi Blynyddol
Nodwch swm y Lwfans Buddsoddi Blynyddol sydd heb ei gynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu. Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar gyfer blwch 690.
736 Strwythurau ac adeiladau
Os oes gennych y datganiadau lwfans angenrheidiol, nodwch gyfanswm eich lwfansau strwythurau ac adeiladau. Dangoswch sut y gwnaethoch gyfrifo’r lwfansau yn eich cyfrifiant treth.
Darllenwch arweiniad CThEF ar hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau am ragor o wybodaeth. Y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA90000: lwfans strwythurau ac adeiladau (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu gwybodaeth fanylach.
740 a 745 Adnewyddu safleoedd busnes
Nodwch gyfanswm y Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes ym mlwch 740 ac unrhyw daliadau mantoli ym mlwch 745. Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar gyfer blychau 715 a 720.
741 a 742 Peiriannau ac offer — uwch-ddidyniad
Nodwch swm yr hawliad ar gyfer uwch-ddidyniad sydd heb ei gynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 741. Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r uwch-ddidyniad wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 742.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
743 a 744 Peiriannau ac offer — lwfans cyfradd arbennig
Nodwch swm yr hawliad lwfans blwyddyn gyntaf cyfradd arbennig sydd heb ei gynnwys wrth gyfrifo elw neu golledion masnachu ym mlwch 743.
Nodwch unrhyw daliadau mantoli sy’n codi ar warediadau ar gyfer gwariant y mae’r lwfans blwyddyn gyntaf cyfradd arbennig wedi’i hawlio mewn perthynas ag ef ym mlwch 744.
Dylech ddefnyddio’r blychau hyn ar gyfer hawliadau a chydbwyso taliadau ar gyfer y ddau lwfansau blwyddyn gyntaf 50% a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r uwch-ddidyniad a’r gwariant llawn.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
750 a 755 Lwfansau a thaliadau eraill
Nodwch gyfanswm y lwfansau, gan gynnwys unrhyw Lwfans Buddsoddi Blynyddol a hawliwyd, nad yw wedi’i gynnwys wrth gyfrifo’r elw neu golled masnach ym mlwch 750. Nodwch unrhyw daliadau mantoli sydd heb eu cynnwys wrth gyfrifo elw neu golled unrhyw fasnach ym mlwch 755.
Peidiwch â chynnwys unrhyw symiau ar gyfer y Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes ym mlychau 750 a 755 (oni bai ei fod yn Lwfans Adnewyddu Safleoedd Busnes gweddilliol ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 17).
737 a 738 Pwyntiau gwefru trydan
Nodwch gyfanswm y lwfansau ym mlwch 737 ac unrhyw werthoedd gwaredu ym mlwch 738. Mae blwch 737 ar gyfer cyfanswm y lwfansau a hawlir am ddarparu offer neu beiriannau ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Mae blwch 738 ar gyfer unrhyw swm a ystyriwyd wrth waredu offer a pheiriannau o’r fath. Cofnodwch unrhyw werth gwaredu ym mlwch 738 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 737 a 738 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 750 neu 755 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn y blychau hynny).
Mae’r Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA23156: Gwariant ar offer neu beiriannau ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu gwybodaeth fanylach.
746 a 747 Ardaloedd Menter
Nodwch gyfanswm y lwfansau ym mlwch 746 ac unrhyw werthoedd gwaredu ym mlwch 747. Mae Blwch 746 ar gyfer cyfanswm y lwfansau a hawlir ar offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn ardal ddynodedig a gynorthwyir o fewn Ardal Fenter. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Mae blwch 747 ar gyfer unrhyw swm a ystyriwyd wrth waredu offer a pheiriannau o’r fath. Cofnodir y symiau hyn ar wahân at ddibenion Cymorth Gwladwriaethol.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 746 a 747 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 750 neu 755 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa neu’r gronfa gyfradd arbennig, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn y blychau hynny).
Darllenwch Estyniad o lwfansau cyfalaf uwch ar gyfer Ardaloedd Menter (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
748 a 749 Cerbydau nwyddau allyriadau sero
Nodwch gyfanswm y lwfansau ym mlwch 748 ac unrhyw werthoedd gwaredu ym mlwch 749. Mae blwch 748 ar gyfer cyfanswm y lwfansau a hawlir wrth brynu cerbyd nwyddau sero allyriadau. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Mae blwch 749 ar gyfer unrhyw swm a ystyriwyd wrth waredu cerbyd o’r fath. Cofnodir y symiau hyn ar wahân at ddibenion Cymorth Gwladwriaethol. Cofnodwch unrhyw werth gwaredu ym mlwch 749 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 748 a 749 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 750 neu 755 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn y blychau hynny). Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA23145: Cerbydau nwyddau allyriadau sero (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
751 a 752 Ceir allyriadau sero
Nodwch gyfanswm y lwfansau ym mlwch 751 ac unrhyw werthoedd gwaredu ym mlwch 752. Mae blwch 751 ar gyfer cyfanswm y lwfansau a hawlir wrth brynu car allyriadau sero. Os hawlir y lwfans llawn, dyma fydd cyfanswm y gwariant a wnaed.
Mae blwch 752 ar gyfer unrhyw swm a ystyriwyd am waredu cerbyd o’r fath. Cofnodwch unrhyw werth gwaredu ym mlwch 752 hyd yn oed os nad yw tâl mantoli wedi’i godi oherwydd bod y gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa.
Peidiwch â chynnwys y symiau ym mlychau 751 a 752 gyda’r lwfansau a’r taliadau mantoli eraill ym mlychau 750 a 755 (oni bai bod gwerth gwaredu wedi’i ystyried yn y brif gronfa, ac os felly, gallai effeithio ar y symiau a nodir yn y blychau hynny). Darllenwch yr arweiniad Hawlio Iwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
Gwariant cymhwysol
760 Peiriannau ac offer yr hawlir lwfans blwyddyn gyntaf arnynt
Nodwch gyfanswm y gwariant a dynnir yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y mae lwfansau’r flwyddyn gyntaf yn cael eu hawlio, gan gynnwys faint o wariant cymwys y mae’r uwch-ddidyniad, y gwariant llawn, a lwfansau blwyddyn gyntaf cyfradd arbennig 50% wedi’u hawlio mewn perthynas ag ef. Mae’n rhaid i chi ddangos cyfanswm y lwfansau blwyddyn gyntaf hynny yn eich cyfrifiannau os ydych wedi hawlio 100% o lwfansau blwyddyn gyntaf ar y canlynol:
- cerbydau nwyddau ag allyriadau sero
- ceir allyriadau sero
- ardaloedd menter
- pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Darllenwch yr arweiniad Hawlio Iwfansau cyfalaf am ragor o wybodaeth.
765 Peiriannau ac offer a ddynodir yn eco-gyfeillgar
Nodwch gyfanswm y gwariant a wnaed ar fuddsoddiadau arbed ynni cymhwysol ac offer a pheiriannau sy’n llesol i’r amgylchedd, gan fodloni’r amodau a restrir ar y wefan rhestr technoleg ynni (yn agor tudalen Saesneg). Bydd y cyfanswm a nodwch yma hefyd yn cael ei gynnwys yn y ffigur a nodwch ym mlwch 760.
770 Peiriannau ac offer ar asedion oes hir a nodweddion annatod
Nodwch gyfanswm y gwariant ar asedion oes hir neu nodweddion annatod, heb gynnwys unrhyw swm a nodir ym mlwch 760 (gwariant yr hawlir lwfans blwyddyn gyntaf arno). Dylai’r swm a nodir yn y blwch hwn gynnwys unrhyw Lwfans Buddsoddi Blynyddol a hawlir.
Darllenwch y Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA45300: Gwariant cymhwysol, adeilad cymhwysol a safleoedd busnes cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am nodweddion annatod.
771 Strwythurau ac adeiladau
Nodwch y gwariant cymhwysol fel y’i dangosir yn y datganiad lwfans os yw’r ddau beth canlynol yn wir amdanoch:
- chi yw’r hawliwr cyntaf
- rydych yn hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau am y tro cyntaf mewn perthynas â swm o wariant cymhwysol
Yn eich cyfrifiant treth, dylech gynnwys manylion y dyddiad y daeth yr adeilad i ddefnydd cymhwysol am y tro cyntaf neu, os yw’n hwyrach, y dyddiad y gwnaed y gwariant cymhwysol.
Darllenwch Hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau am ragor o wybodaeth. Mae’r Llawlyfr Lwfansau Cyfalaf CA90005: Lwfans strwythurau ac adeiladau (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi arweiniad manylach.
772 Peiriannau ac offer — uwch-ddidyniad
Nodwch gyfanswm y gwariant yr hawlir yr uwch-ddidyniad arno. Bydd y cyfanswm a nodwch yma hefyd yn cael ei gynnwys yn y ffigur a nodwch ym mlwch 760.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
773 Peiriannau ac offer — lwfans cyfradd arbennig
Nodwch gyfanswm y gwariant yr hawliwyd y lwfans cyfradd blwyddyn gyntaf arbennig arno. Bydd y cyfanswm a nodwch yma hefyd yn cael ei gynnwys yn y ffigur a nodwch ym mlwch 760.
Dylech ddefnyddio’r blwch hwn ar gyfer gwariant cymwys ar gyfer y ddau lwfansau blwyddyn gyntaf 50% a gyflwynwyd ochr yn ochr â’r uwch-ddidyniad a’r gwariant llawn.
Darllenwch yr arweiniad i Wirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.
775 Peiriannau ac offer eraill
Nodwch gyfanswm y gwariant ar beiriannau ac offer nad ydynt yn ased oes hir nac yn nodwedd annatod, ond peidiwch â chynnwys unrhyw swm a nodir ym mlwch 760 (gwariant yr hawlir lwfans blwyddyn gyntaf arno). Dylai’r swm a nodir yn y blwch hwn gynnwys unrhyw Lwfans Buddsoddi Blynyddol a hawlir.
Colledion, diffygion a symiau sydd dros ben
Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o golledion, diffygion a symiau sydd dros ben.
Swm sy’n codi
Defnyddiwch y blychau hyn i nodi’r colledion, diffygion a symiau sydd dros ben sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu.
Uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp
Defnyddiwch flychau 785, 800, 810, 835, 840, 845 ac 855 i nodi’r uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp (peidiwch â chynnwys symiau sydd ar gael i’w hildio fel rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a ddygwyd ymlaen). I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM80100: Grwpiau a chonsortia: rhyddhad grŵp (yn agor tudalen Saesneg)
- y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM82000: Rhyddhad grŵp ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen (yn agor tudalen Saesneg)
Dylech hefyd lenwi tudalennau atodol CT600C Grwpiau a chonsortia os yw’r cwmni yn ildio unrhyw swm drwy ryddhad grŵp.
780 Colledion masnachau a gynhaliwyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn y DU (swm)
Nodwch golledion masnachau a gynhaliwyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn y DU. Mae hyn yn golygu masnachau lle bo’r elw yn dod o fewn Rhan 3 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) neu golledion BLAGAB (yswiriant bywyd) sy’n disgyn o fewn adran 78(5) o Ddeddf Cyllid 2012. Dylech gynnwys unrhyw daliadau prydles sydd dros ben nad ystyriwyd at ddibenion cyfrifo elw contractwr sydd wedi’i ddiogelu odan adran 356NA(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch yr arweiniad ar sut i Gyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth am ragor o wybodaeth.
785 Colledion masnachau a gynhaliwyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn y DU (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch swm y golled fasnachu (darllenwch adran 100 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Dylech gynnwys unrhyw daliadau prydles sydd dros ben nad ystyriwyd at ddibenion cyfrifo elw contractwr sydd wedi’i ddiogelu o dan adran 356NA(3) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
790 Colledion masnachau a gynhaliwyd yn gyfan gwbl y tu allan i’r DU (swm)
Nodwch golledion masnachau a gynhaliwyd yn gyfan gwbl y tu allan i’r DU. Mae hyn yn golygu masnachau lle bo’r elw yn dod o fewn Rhan 3 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
795 Diffygion anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau a chontractau deilliannol (swm)
Nodwch y diffyg anfasnachol o gysylltiadau benthyciadau a chontractau deilliannol sy’n codi (fel y’i cyfrifwyd o dan adran 301 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar gyfer blwch 170.
800 Diffygion anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau a chontractau deilliannol (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch y diffyg o fewn pennod 16 o ran 5 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg) (diffyg anfasnachol ar gysylltiadau benthyciadau).
805 Colledion busnes eiddo yn y DU (swm)
Nodwch golledion busnes eiddo yn y DU (a ddiffinnir ym mhennod 2, (Rhan 4) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Peidiwch â chynnwys symiau a gariwyd ymlaen o gyfnod cyfrifyddu blaenorol.
Darllenwch Dreth Gorfforaeth: colledion incwm terfynol, cyfalaf ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
810 Colledion busnes eiddo yn y DU (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch y colled busnes eiddo yn y DU sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu. Peidiwch â chynnwys colledion a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cynharach sy’n cael eu trin fel pe baent yn codi yn y cyfnod cyfrifyddu (darllenwch adrannau 102 i 105 o bennod 2 yn Neddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Peidiwch â chynnwys swm o golled eiddo os cododd y golled honno mewn cyfnod pan oeddech yn agored i Dreth Incwm ar eich elw busnes eiddo yn y DU neu incwm eiddo arall yn y DU.
815 Colledion busnes eiddo tramor (swm)
Nodwch golledion busnes eiddo tramor (a ddiffinnir ym mhennod 2, (Rhan 4) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
820 Colledion o drafodion amrywiol (swm)
Nodwch golledion sy’n dod o fewn adran 91 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
825 Colledion cyfalaf (swm)
Nodwch golledion cyfalaf a gyfrifwyd o dan adran 16, (Rhan 2) o Ddeddf Trethu Enillion Trethadwy 1992 (yn agor tudalen Saesneg).
Os gwnewch gofnod ym mlychau 210, 215 neu 825. Atodwch gyfrifiadau o bob ennill trethadwy a cholled ganiataol i ddangos sut y gwnaethoch gyfrifo’ch cofnodion. Dylech gynnwys manylion llawn ac unrhyw hawliadau neu ddewisiadau. Darllenwch Dreth Gorfforaeth: colledion incwm terfynol, cyfalaf ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
830 Colledion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol (swm)
Nodwch golledion anfasnachol, sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu ar asedion sefydlog anniriaethol, a gyfrifwyd o dan adran 751, (Rhan 8) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
Peidiwch â chynnwys colledion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cynharach o dan adran 753(3) (Rhan 8) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg).
835 Colledion anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch y golled anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol y cyfnod cyfrifyddu.
Peidiwch â chynnwys symiau a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu cynharach sy’n cael eu trin fel colled anfasnachol ar asedion sefydlog anniriaethol am y cyfnod (darllenwch adrannau 104 i 105 o bennod 2 yn Neddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Symiau sydd dros ben
840 Lwfansau cyfalaf anfasnachol (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch swm y lwfans cyfalaf dros ben y cyfnod cyfrifyddu gan anwybyddu lwfansau cyfalaf a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cynharach (darllenwch adran 101 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
845 Rhoddion cymhwysol (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch y cyfraniadau elusennol cymhwysol sydd dros ben a’r gwariant cymhwysol ar chwaraeon ar lawr gwlad sydd dros ben.
Darllenwch Ran 6 a rhan 6A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae hyn yn destun adran 105 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg).
850 Treuliau rheoli (swm)
Nodwch swm y treuliau rheoli na ellir eu didynnu’n llawn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o dan adran 1219, (Rhan 16) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Peidiwch â chynnwys treuliau sydd dros ben a gariwyd ymlaen o gyfnod cyfrifyddu blaenorol.
855 Treuliau rheoli (uchafswm sydd ar gael i’w ildio fel rhyddhad grŵp)
Nodwch y treuliau rheoli sydd ar gael i’w hildio fel rhyddhad grŵp ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Peidiwch â chynnwys treuliau rheoli:
- a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu cynharach
- o ran colledion a ddygwyd ymlaen gan gwmni, sydd â busnes buddsoddi sy’n rhoi’r gorau i gynnal busnes eiddo yn y DU, sy’n cael eu trin fel treuliau rheoli’r cyfnod cyfredol
Darllenwch adrannau 103 a 105 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth Gogledd Iwerddon
Gadewch yr adran hon (blychau 856 i 858) yn wag.
Gordaliadau ac ad-daliadau
Nodwch fanylion banc neu gymdeithas adeiladu’r cwmni (neu enwebai) (blychau 920 i 940) ar bob Ffurflen Dreth a lenwch, p’un a ydych yn meddwl y gallai fod ad-daliad ai peidio.
Gall CThEF wneud ad-daliadau’n uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ond, am resymau diogelwch, dim ond y manylion a nodir ym mlychau 920 i 940 o’ch Ffurflen Dreth ddiweddaraf a ddefnyddir. Efallai y bydd ad-daliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’ch cerdyn os taloch chi’r dreth gyda cherdyn debyd neu gredyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi X ym mlwch 40 neu 45 i roi gwybod i CThEF y gallai ad-daliad fod yn ddyledus.
860 Ad-daliadau bach
Llenwch y blwch hwn os nad ydych am i CThEF wneud ad-daliadau sy’n llai na swm penodol. Mae CThEF yn gosod unrhyw ordaliadau sydd gennych yn erbyn unrhyw rwymedigaeth Treth Gorfforaeth arall cyn eu had-dalu. Pan fydd ad-daliad yn ddyledus, byddwn yn gwneud y canlynol:
- ad-dalu gordaliad o fwy na £100 yn awtomatig
- ad-dalu gordaliad o £100 neu lai yn awtomatig pan fyddwch yn nodi manylion banc ym mlychau 920 i 940 (mae hyn yn digwydd hyd yn oed os ydych wedi nodi swm o lai na £100 ym mlwch 860)
- gosod unrhyw ad-daliad o £100 neu lai yn erbyn cyfnodau cyfrifyddu diweddarach os na fyddwch yn nodi unrhyw fanylion banc ym mlychau 920 i 940
Gallwch atal CThEF rhag gwneud ad-daliad awtomatig drwy nodi swm dros £100 ym mlwch 860. Os yw eich gordaliad dros £100 a’ch bod yn nodi swm sy’n fwy na £100, ni fyddwn yn gwneud unrhyw ad-daliad oni bai ei fod yn fwy na’r terfyn a ddewiswyd gennych. Mae ad-daliadau yn cynnwys treth, credydau taladwy, llog, a chosbau am gyflwyno’n hwyr neu unrhyw gyfuniad ohonynt.
Llenwch flychau 900 i 915 yn lle blwch 860 os ydych am ildio ad-daliad treth o dan adran 963 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg) i gwmni grŵp arall.
Ni fydd unrhyw awdurdod terfyn ad-dalu a ddarparwyd ar gyfer cyfnodau Ffurflenni Treth blaenorol yn cael ei gario ymlaen. Mae’n rhaid i chi adnewyddu neu newid y terfyn bob tro y byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni, hyd yn oed os ydych yn cyflwyno 2 Ffurflen Dreth ar yr un pryd.
Ad-daliadau ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth hon
Nodwch X ym mlwch 40 i roi gwybod i CThEF y gall ad-daliad fod yn ddyledus a nodwch y ffigurau perthnasol ym mlychau 865 i 895.
865 Ad-dalu Treth Gorfforaeth
Nodwch y ffigur a roddir ym mlwch 605 llai swm blychau 570, 575 a 580.
870 Ad-dalu Treth Incwm
Nodwch y ffigur o flwch 520.
875 Credyd Treth Ymchwil a Datblygu sy’n daladwy
Nodwch swm y dreth Ymchwil a Datblygu sy’n daladwy. Ni all hwn fod yn fwy na’r ffigur a nodwyd gennych ym mlwch L180 ar dudalen atodol CT600L Ymchwil a Datblygu. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
880 Credyd gwariant ymchwil a datblygu sy’n daladwy
Nodwch swm y credyd gwariant ymchwil a datblygu sy’n daladwy a gyfrifwyd o dan gam 7 o adran 104N(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (yn agor tudalen Saesneg). Dyma’r ffigur a roddwyd gennych ym mlwch L125 ar dudalen atodol CT600L Ymchwil a Datblygu. Dylai eich cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn.
885 Credyd treth creadigol sy’n daladwy
Nodwch gyfanswm y canlynol sy’n daladwy:
- credydau treth ffilm
- credydau treth teledu
- credydau treth animeiddio
- credydau treth gemau fideo
- credydau treth theatr
- credydau treth cerddorfa
- credydau treth amgueddfeydd ac orielau
- credydau treth gwariant clyweledol
- credydau treth gwariant gemau fideo
Dyma swm terfynol y credyd treth sy’n daladwy mewn perthynas â rhyddhadau treth a chredydau gwariant ar gyfer pob diwydiant creadigol y mae’r cwmni’n eu hawlio ar gyfer y cyfnod, ar ôl didynnu’r holl ildiadau a rhyddhadau eraill.
Nodwch swm y credyd treth ar gyfer y diwydiant creadigol sy’n daladwy. Dylai’ch cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r ffigur hwn ar gyfer pob cynhyrchiad ar wahân.
At ddiben Credyd Gwariant Clyweledol (AVEC) a Chredyd Gwariant Gemau Fideo (VGEC), dyma’r swm sy’n weddill erbyn Cam 6 o’r camau adbrynu credyd (fel yr amlinellir ym mharagraff 1179CC, adran 2 o Ddeddf Cyllid 2024). Dylai’ch cyfrifiannau gynnwys cyfrifiad manwl o’r swm sy’n weddill ar ôl pob cam, gan gynnwys Cam 6.
Mae’n rhaid i’r swm beidio â bod yn fwy na’r ffigur a roddir ym mlwch 570.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
-
Rhyddhadau treth ar gyfer y diwydiant creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
-
Llawlyfr Credyd Gwariant ar gyfer y Diwydiannau Creadigol (yn agor tudalen Saesneg)
890 Credyd treth cwmni aswiriant bywyd neu adfer tir sy’n daladwy
Nodwch y ffigur o flwch 575.
895 Credyd treth y flwyddyn gyntaf o ran lwfansau cyfalaf sy’n daladwy
Nodwch y ffigur o flwch 580.
Ildio ad-daliad treth o fewn y grŵp
Llenwch flychau 900 i 915 os yw’r cwmni’n ildio ad-daliad treth o dan adran 963 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (yn agor tudalen Saesneg). Gwiriwch eich bod wedi nodi X ym mlwch 40 i roi gwybod i CThEF y gallai ad-daliad fod yn ddyledus.
Darllenwch y Llawlyfr Trethiant Cwmnïau CTM92440: Ad-daliad — ildio o fewn grŵp (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth am ildio ad-daliadau treth.
900 Mae’r swm hwn i’w ildio
Nodwch y swm sy’n cael ei ildio gan y cwmni (dylech gynnwys ildiadau o dan reoliad 9 o’r Rheoliadau Rhandaliadau 1998 (yn agor tudalen Saesneg).
905 Hysbysiad ar y cyd wedi’i atodi
Nodwch X os yw’r hysbysiad ar y cyd wedi’i atodi. Ar gyfer ildiad o dan reoliad 9 o Rheoliadau Rhandaliadau 1998 (yn agor tudalen Saesneg) dylech ddarparu atodlen o symiau a dyddiadau pob rhandaliad sy’n cael ei ildio.
910 Hysbysiad ar y cyd i’w ddilyn
Nodwch X os bydd yr hysbysiad ar y cyd i’w ddilyn.
915 Stopio ad-daliad o’r swm hwn hyd nes ein bod yn anfon yr Hysbysiad atoch
Os nad ydych wedi anfon yr hysbysiad eto, nodwch swm yr ad-daliad rydych am ei stopio hyd nes i chi ei anfon.
Manylion banc (ar gyfer y person y dylid ei ad-dalu)
Y dull ad-dalu cyflymaf a mwyaf diogel yw trosglwyddiad uniongyrchol o CThEF i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu enwebedig. Os ydych yn cyflwyno mwy nag un Ffurflen Dreth ar yr un pryd, rhaid i chi nodi manylion y cyfrif ar bob Ffurflen Dreth. Mae’n well gwneud hyn p’un a ydych yn meddwl bod ad-daliad yn ddyledus ai peidio.
Mae’n rhaid i chi ddarparu manylion y cyfrif bob tro y byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth.
920 Enw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu
Nodwch enw banc neu gymdeithas adeiladu’r person y bydd yr ad-daliad yn mynd iddo.
925 Cod didoli’r gangen
Nodwch god didoli cangen 6 digid y person y bydd yr ad-daliad yn mynd iddo.
930 Rhif y cyfrif
Nodwch rif cyfrif y person y bydd yr ad-daliad yn mynd iddo.
935 Enw’r cyfrif
Nodwch enw cyfrif y person y bydd yr ad-daliad yn mynd iddo.
940 Cyfeirnod y gymdeithas adeiladu
Os yw’n berthnasol, nodwch gyfeirnod cymdeithas adeiladu’r person y bydd yr ad-daliad yn mynd iddo.
Taliadau i berson heblaw’r cwmni
Os cyflwynir y ffurflen ar ôl 31 Mawrth 2024 ac mae’r ad-daliad yn ymwneud â chais ym Mlwch 875 neu Blwch 880, ni fydd CThEF bellach yn talu i enwebai oni bai ei fod naill ai:
- mae’r enwebai yn barti cysylltiedig
- mae amgylchiadau eithriadol yn berthnasol sy’n ei gwneud yn anymarferol neu’n anghyfleus gwneud taliad yn uniongyrchol i’r cwmni
- gwnaed yr hawliad i gredydau treth taladwy yn wreiddiol cyn 1 Ebrill 2024 mewn ffurflen neu ddiwygiad blaenorol i’r Ffurflen Dreth am yr un cyfnod cyfrifyddu, p’un a yw’r symiau hyn wedi’u diwygio yn y ffurflen bresennol ai peidio
- yr enwebai yw neilltuo aseiniad statudol neu gyfartal o’r taliad a wnaed cyn, neu a wnaed i gyflawni cytundeb a wnaed cyn, 22 Tachwedd 2023
Os nad oes unrhyw un o’r amodau hyn yn berthnasol, ni ddylech gwblhau’r adran hon a darparu manylion talu’r cwmni ei hun. Darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol CIRD81805: Ymchwil a Datblygu R&D: amodau i’w bodloni: cyfyngu ar enwebiadau ac aseiniadau (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
I enwebu rhywun heblaw’r cwmni i gael ad-daliad nad yw’n gredyd treth Ymchwil a Datblygu. Mae’n rhaid i chi nodi ei fanylion gan ddefnyddio blychau 955 i 965. Rhaid i chi hefyd awdurdodi’r enwebiad drwy lenwi blychau 945, 950 a 970 bob tro y byddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni:
- 945: nodwch eich statws, er enghraifft ysgrifennydd y cwmni neu asiant awdurdodedig
- 950: nodwch enw eich cwmni
- 955: nodwch enw’r person enwebedig
- 960: nodwch gyfeiriad y person enwebedig
- 965: nodwch eich cyfeirnod ar gyfer y person a enwebwyd
- 970: nodwch eich enw
Os byddwch yn awdurdodi rhywun arall i gael ad-daliad, rhaid i chi ddarparu manylion ei gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Datganiad
Mae’n rhaid i’r Ffurflen Dreth gynnwys datganiad.
975 Enw
Nodwch enw’r person sy’n gwneud y datganiad.
980 Dyddiad
Nodwch y dyddiad pan wneir y datganiad.
985 Statws
Nodwch statws y person sy’n gwneud y datganiad.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch A1(4) o Ddeddf Ardoll Elw Ynni (Olew a Nwy) 2022 (yn agor tudalen Saesneg) ac A1(5) o fil cyllid drafft yr Ardoll Cynhyrchwyr Trydan (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Information for box 625 has been updated. If your accounting period ends on or after 1 April 2023, you must complete box 326 instead. You must leave this box blank if your company has no related 51% group companies.
-
A link has been updated in section 659 of the section 'Research and Development (R&D) or creatives enhanced expenditure and tax reliefs', to new guidance on what R&D costs you can claim.
-
We have clarified how to calculate claims relating to Audio-Visual Expenditure Credit and Video Games Expenditure Credit in box 885 step 6.
-
Information for boxes 326, 327 and 328, 625, 630 and 631 have been updated to confirm when you must complete the box and what you should enter in the box depending on how you pay your instalments and your business accounting periods.
-
Guidance to complete box 540 has been updated to explain that it should be the total amount of any creatives tax credits that the company is claiming for the period. Information has been added covering what to include in this box for claims to the Audio-Visual Expenditure Credit and the Video Games Expenditure Credit.
-
The information for boxes 630 and 631 has been updated to include what figure to enter if there is no previous accounting period.
-
The listed conditions on the energy technology list website for designated environmentally friendly machinery and plant has been updated. Information has been added to the small profit rate or marginal relief entitlement to support completion of the tax return.
-
The information for box 185 has been updated to show when you need to provide form NRL6.
-
Information has been added covering who can claim Marginal Relief and to support the completion of the CT600.
-
Guidance on how to complete box 4 'Type of company' updated to include that you should enter 0, if the company is in the first year of liquidation, unless one of the other company types apply. Enter 3, if the company is in the second or later year of liquidation.
-
The page has been updated to include changes for the tax year 2024 to 2025.
-
Section 657 Additional information form has been updated to include that the form must be submitted by 11:59pm on the day the Company Tax Return is submitted.
-
Added translation
-
Section 657 Additional information form has been updated to include that the form must be submitted in advance of, or at the same time as, the Company Tax Return.
-
Sections 275 and 280 have been updated to include that any missing information will delay the process or we may reject the claim.
-
Information about the Research and Development claim notification form and the additional information form for boxes 656 and 657 has been updated.
-
Guidance to complete boxes 326, 630 and 631 has been updated to include information about very large companies.
-
Guidance to complete box 245 has been updated with reference to section 76 of the Finance Act 2012 and a link to the Life Assurance Manual LAM04000: Adjusted BLAGAB management expenses. Guidance to complete box 780 has been updated with reference to the BLAGAB (life insurance) losses which fall within section 78(5) of the Finance Act 2012.
-
Guidance to complete box 230 has been updated to include the correct boxes in the calculation.
-
Department for International Trade (DIT) has now changed to the Department for Business and Trade (DBT).
-
Guidance to complete boxes 326, 327, 328, 329, 497, 501, 656, 657, 659 and 986 has been added. Guidance to complete boxes 435, 500, 510 and 625 has been updated.
-
Guidance to complete box 620 has been updated to confirm new legislation s18L(3) will replace s279G(3) of the Corporation Tax Act 2010 for financial year 2023.
-
Guidance to complete box 845 and 850 has been updated to include the word ‘excess’ and to remove information about qualifying charitable donations.
-
Guidance to complete boxes 695 and 700, 705 and 710 has been updated to advise you that amounts from boxes 693 and 691 should not be included.
-
Guidance to complete boxes 830, 835 and 850 has been updated with more information on how to claim non-trading losses on intangible fixed assets and excess amounts of management expenses.
-
A link to the information about the 'New tax regime for asset holding companies' has been removed and replaced with a link to information about 'Make a qualifying asset holding company notification to HMRC guidance' in the 'Qualifying Asset Holding Company' section.
-
First published.