Lawrlwytho ap CThEF
Sut i lawrlwytho a chael mynediad at ap CThEF ar ddyfais symudol er mwyn dod o hyd i wybodaeth am eich treth, eich Yswiriant Gwladol, eich credydau treth a’ch buddiannau.
Gwyliwch ein fideo YouTube i weld y gwasanaethau sydd ar gael ar ap CThEF:
Gwneud pethau’n haws gydag ap CThEF
Cael yr ap
Gallwch lawrlwytho’r ap trwy ddilyn y cysylltiadau isod:
- yr App Store (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer iOS
- y Google Play Store (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer Android
Yr hyn mae’r ap yn ei wneud
Mae defnyddio ap CThEF yn ffordd hawdd a chyflym i gael gwybodaeth am eich treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a’ch budd-daliadau.
Gallwch ei ddefnyddio i wirio’r canlynol:
- eich cod treth
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich incwm a’ch budd-daliadau
- hanes eich cyflogaeth a hanes eich incwm o’r 5 mlynedd flaenorol
- eich credydau treth, faint y byddwch yn ei gael a phryd y byddant yn cael eu talu
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
- faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
- eich Budd-dal Plant
- rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
- cael amcangyfrif o’r dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu
- gwneud taliad Hunanasesiad
- gwneud taliadau Asesiad Syml
- gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
- rhoi gwybod am newidiadau o ran credydau treth a llenwi’ch adnewyddiad
- cael mynediad at eich cyfrif Cymorth i Gynilo
- defnyddio ein cyfrifiannell treth er mwyn cyfrifo’ch cyflog clir ar ôl didyniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
- dilyn trywydd y ffurflenni a llythyrau rydych wedi’u hanfon atom
- gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth
- gofyn i gynorthwyydd digidol CThEF am help a gwybodaeth
- diweddaru’ch enw
- diweddaru’ch cyfeiriad post
- ychwanegu’ch rhif Yswiriant Gwladol at eich waled ddigidol
- dewis i CThEF gysylltu â chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr
- gwirio a oes unrhyw fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a’r buddion a ddaw o’u talu
- gwirio a allwch dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Sut i gael mynediad at yr ap
Agorwch yr ap a nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn mewngofnodi am y tro cyntaf. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un yn yr ap.
Wedyn, byddwch yn gallu cael mynediad at yr ap yn hawdd ac yn gyflym gan fewngofnodi gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- PIN 6 digid
- ôl eich bys
- dull adnabod wynebau
Os nad oes gennych gyfeiriad yn y DU, ac nad ydych yn gwybod beth yw’ch rhif Yswiriant Gwladol, dilynwch yr arweiniad ynghylch sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll.
Pa mor hygyrch yw’r ap
Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio ap CThEF. Mae ein datganiadau hygyrchedd yn esbonio sut mae’r ap yn gweithio gyda thechnolegau cynorthwyol:
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
The 'Make life easier with the HMRC app' YouTube video has been updated.
-
You can now use the HRMC app to make a Simple Assessment payment, check for gaps in National Insurance contributions and also check if you can make online payments for gaps in your National Insurance contributions.
-
If you do not have a UK address and you do not know your National Insurance number, follow the guidance to find a lost National Insurance number before trying to create a Government Gateway user ID.
-
You can now use the HMRC app to update your name, save your National Insurance number to your digital wallet and to get help from HMRC's digital assistant.
-
This page has been updated to show you can use the HMRC app to check your Child Benefit and State Pension, set a reminder to make a Self Assessment payment and choosing to be contacted by HMRC electronically instead of by paper.
-
Added translation.
-
Links to the accessibility statements for the HMRC app have been added.
-
First published.